Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Lywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David? Atgyfnerthwyd y cynnydd o ran rheoli achosion yng Nghaerffili gan gamau Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag atyniadau dan do, lletygarwch, addysg, y gwasanaeth iechyd ac, o ddoe ymlaen, cau atyniadau awyr agored hefyd. Diolchaf, fel arfer, Llywydd, i drigolion Caerffili am bopeth y maen nhw'n ei wneud i helpu i reoli'r feirws marwol hwn.