Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Llywydd, mae dadansoddiad gan Fanc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dangos effaith niweidiol coronafeirws ar ein heconomi, gan gynnwys y de-ddwyrain. Mae'r ddau gorff yn awgrymu adferiad cymharol gyflym yn ail chwarter 2021, cyn belled nad yw hynny'n cael ei ddadwneud gan drychineb Brexit 'dim cytundeb'.