Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:59, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo yn ddiweddar i brydau ysgol am ddim cyffredinol i bob plentyn ysgol gynradd. Ym 1943, cyflwynodd y Ffindir gyfraith yn ei gwneud yn gwbl ofynnol i brydau ysgol am ddim gael eu gweini i bob plentyn, polisi sy'n dal i fod ar waith heddiw. Ac fel y mae profiad y Ffindir wedi ei ddangos—rydym ni wedi modelu llawer o'n system addysg arnyn nhw, ac mewn gwirionedd mae'r ymrwymiad hwn yn gwbl ganolog i'r model, gan ei fod yn addysg fwyd mewn ysgolion, mae'n arf cyfannol y maen nhw'n ei ddefnyddio i sicrhau manteision pellgyrhaeddol y tu hwnt i ffreutur yr ysgol. Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod dros 70,000 o blant sy'n byw islaw'r llinell dlodi yng Nghymru nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. I unioni'r cam hwn, byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn codi'r trothwy cymhwysedd fel y byddai plant ym mhob cartref sy'n cael credyd cynhwysol yn cael prydau ysgol am ddim, a byddem ni'n cyflwyno amserlen eglur i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i bob disgybl, ar sail model y Ffindir, gan ddechrau gyda phrydau ysgol am ddim i fabanod. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cefnogi'r ymdrech hon?