Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Fe ddywedwyd wrthym ar ddechrau'r trafodaethau fod cytundeb parod i'r ffwrn gan y Prif Weinidog. Wel, ble mae hwnnw? Ac fe ddywedwyd wrthym gan Lywodraeth y DU y byddai mynnu, yn groes i bob rheswm, fwrw ymlaen â'r dyddiad cau o 31 Rhagfyr ar gyfer diweddu'r cyfnod pontio, er gwaethaf pandemig COVID, yn dod â'r ansicrwydd a fu'n rhemp yn y DU am y pedair blynedd diwethaf i ben. Wel, gwahanol iawn yw'r realiti. Mae 16 diwrnod arall ar ôl cyn diwedd y cyfnod pontio, ac nid ydym damaid callach o ran gwybod a fyddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu beidio.
Dirprwy Lywydd, mae'n amlwg ei bod yn bwysig i Lywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd gytuno i ddal ati i drafod. Y brif flaenoriaeth yw osgoi sefyllfa o adael y cyfnod pontio heb gytundeb. Pe bai hynny'n digwydd, fe fyddem ni'n gweld anhrefn yn y tymor byr a difrod yn yr hirdymor: tarfu ar ein ffiniau, gan achosi risgiau i gyflenwad o nwyddau hanfodol; costau uwch o ran bwyd a hanfodion eraill; llai o allforio a mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, gan arwain at lai o fuddsoddiad ac yn y pen draw at golli swyddi a chyflogau is. A hynny heb sôn am y risgiau cynyddol i ddiogelwch ein dinasyddion ni, sef dyletswydd gyntaf honedig Llywodraeth, rhag terfysgwyr a throseddau cyfundrefnol.
Mae ein safbwynt ni wedi bod yn eglur ers y refferendwm. Ar bob cam o'r trafodaethau, pa mor bell bynnag y mae Llywodraeth y DU wedi ein cymryd ni oddi wrth ein canlyniad dewisol, rydym wedi dadlau o blaid cadw'r berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd. O blith y dewisiadau eraill sy'n ein hwynebu ni heddiw, cytundeb yw'r ffordd orau o wneud hynny, ni waeth pa mor gyfyng fo hynny. Felly, rwy'n galw heddiw eto ar Lywodraeth y DU ac ar yr UE i ddangos yr hyblygrwydd a'r cyfaddawd sydd eu hangen i ddod o hyd i gytundeb. Rydym ni'n byw mewn byd o gyd-ddibyniaeth, nid annibyniaeth. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn y ffaith bod cytuno ar unrhyw fargen fasnach o reidrwydd yn cyfyngu ar sofraniaeth. Dyma'r realiti ar gyfer diogelu'r mynediad llawnaf i farchnadoedd i nwyddau domestig ac i wasanaethau, ac er mwyn osgoi prisiau uwch i'n defnyddwyr. A'r Undeb Ewropeaidd yw ein marchnad fwyaf ni o bell ffordd.
Mae'r materion sydd heb eu datrys hyd yn hyn yn bwysig, ond nid ydynt yn bwysicach na'r miliynau o swyddi ledled y Deyrnas Unedig sy'n dibynnu ar fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydynt yn bwysicach na diogelwch ein dinasyddion ni. Er bod datblygiadau diweddar yn rhoi rhywfaint o obaith, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol, rydym ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf o fod 'heb gytundeb', ac fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Dros yr wythnosau nesaf, ein blaenoriaethau ni, fel y nodwyd gennym yn ein cynllun pontio a gyhoeddwyd dros fis yn ôl, yw: lliniaru'r tarfu a fyddai'n digwydd ar y cyflenwad o nwyddau hanfodol; annog a chefnogi busnesau i wneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer y newid chwyldroadol o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau; a gwneud beth bynnag a allwn ni i gryfhau cydnerthedd ein dinasyddion a'n gwasanaethau cyhoeddus ni.
Nid ydym yn gallu aros am yr eglurder sydd ei angen arnom ni. Dyna pam rydym eisoes yn defnyddio ein gallu presennol i gadw nwyddau traul a dyfeisiau meddygol mewn ystordai sydd gennym ni'n barod. Rydym ni wedi contractio cynghorwyr masnach rhyngwladol i gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau o ran trefniadau masnachu. Ac rydym ni'n adleoli adnoddau i ategu ein hymateb i argyfyngau sifil posibl. Nid oes dianc rhag yr heriau enfawr sydd o'n blaenau ni, a'r gwir amdani yw mai ychydig iawn o amser sydd yna i baratoi. Ond, rydym yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid ac mae ein neges yn eglur: rydym ni yma i'ch cefnogi chi. Yng nghamau olaf tyngedfennol y trafodaethau, fe fyddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru athrawiaeth sofraniaeth er lles swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, gyda dim ond 16 diwrnod i fynd, fe fyddai cytundeb—hyd yn oed mor gyfyng ag y gallai hwnnw fod—yn well na dim cytundeb o gwbl. Ni ddylid ystyried y cytundeb sydd ar y bwrdd yn llwyddiant. Nid oes uchelgais ar ei gyfyl ac mae ymhell o fod yn gytundeb sy'n ddymunol i ni. Eto i gyd, fe fyddai hwn yn osgoi rhai o'r effeithiau gwaethaf ar ddiwedd cyfnod pontio 'heb gytundeb' anniben ac fe fyddai'n rhoi rhywbeth inni adeiladu arno i'r dyfodol. Fe fyddai'n cadw ein perthynas ni â'r Undeb Ewropeaidd rhag chwalu'n llwyr ac yn cadw'r posibilrwydd o adeiladu cyfres o drefniadau yn y dyfodol a allai ddiogelu swyddi a'r economi a sicrhau diogelwch a lles ein dinasyddion ni.
Fe fyddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb yn fethiant hanesyddol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—methiant a fyddai'n deillio o dactegau negodi gwael ac o ganlyniad i ddyrchafu delwedd wleidyddol uwchlaw swyddi pobl. Mae dewisiadau anodd o flaen Llywodraeth y DU: rhoi'r flaenoriaeth i'r llinellau cochion a'r geiriau slic neu roi blaenoriaeth i'r swyddi sy'n cynnig y fywoliaeth y mae dinasyddion y DU yn ddibynnol arni.