5., 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:50, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gyfres o gynigion sydd gerbron.

Yr wythnos diwethaf, fe welsom ni ddechrau rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru. Mae hynny'n amlwg yn newyddion calonogol a gobeithiol iawn. Er hynny, fe fydd y broses frechu yn cymryd amser, felly mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ni ledled Cymru ar helpu i reoli ymlediad coronafeirws. Ac yn anffodus, mae'r coronafeirws yn carlamu unwaith eto ledled Cymru. Mae'r enillion gwirioneddol a wnaed ar gost enfawr yn ystod y cyfnod atal byr wedi eu herydu. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod coronafeirws ledled Cymru wedi codi i ymhell dros 400 o achosion fesul 100,000 o bobl. Ar hyn o bryd mae ymhell dros 2,000 o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin am y coronafeirws, ac fe welwn ni gynnydd parhaus yn nifer yr achosion coronafeirws a gadarnhawyd. Erbyn hyn mae yna fwy na 500 o bobl ychwanegol yng ngwelyau'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin oherwydd coronafeirws nag yn y penllanw a gafwyd ym mis Ebrill.

Fel y nodais o'r blaen, y cyngor gan ein prif swyddog meddygol yw bod angen inni gymryd camau i'n helpu i ddechrau ar gyfnod y gwyliau gyda chyfradd heintio mor isel â phosibl. Heddiw, mae tri rheoliad diweddar yn cael eu trafod, sydd wedi cyfrannu at ein hymateb ni i'r pandemig.

Yn gyntaf, fe fydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Prif Weinidog, ar 30 Tachwedd, wedi nodi cyfyngiadau ychwanegol ar gyfer Cymru gyfan o ran y sector lletygarwch. Fe ddarperir ar gyfer y mesurau pellach hyn gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Gan ddod i rym ddydd Gwener, 4 Rhagfyr, fe'u targedir at atal trosglwyddiad lle mae pobl yn cyfarfod dan do. Fe gawsom ni ddadl ar y materion hyn yr wythnos diwethaf. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis ledled Cymru gau erbyn 6 p.m. ac ni chaniateir iddyn nhw weini alcohol. Ar ôl 6 p.m., dim ond gwasanaethau cludo allan y byddan nhw'n gallu eu cynnig. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau ymwelwyr dan do. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r bobl a'r busnesau y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith caled a wnaeth y busnesau hyn i geisio sicrhau bod eu busnesau nhw'n ddiogel rhag COVID. I liniaru'r effaith ariannol a chefnogi'r sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu, mae gennym becyn cymorth gwerth £340 miliwn. Mae hwnnw'n cynnwys cronfa arbennig o £180 miliwn ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden. Fe geir tystiolaeth wyddonol ac arsylwi cynyddol sy'n dangos peryglon lletygarwch o ran trosglwyddo clefydau. Yn unol â chyngor clir a pharhaus SAGE ar yr hyn sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o'r DU, mae arnaf i ofn bod angen y cyfyngiadau hyn i helpu i gyfyngu ar y trosglwyddiad.

Yn ail, mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cau pob atyniad awyr agored, gan gynnwys ffeiriau. Mae'r rhain hefyd yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid cau parciau trampolîn a pharciau sglefrio dan do. Fe ddaeth y mesurau pellach hyn i rym ddoe, ar 14 Rhagfyr.

Yn olaf, fe osodwyd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ar 8 Rhagfyr. Mae'r rhain yn darparu bod yn rhaid i unigolyn y mae'n ofynnol iddo ynysu o ganlyniad i fod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am goronafeirws bellach orfod ynysu am 10 diwrnod, yn hytrach na'r cyfnod o 14 diwrnod a oedd mewn grym yn flaenorol. Mae hyn yn dilyn cyngor y prif swyddog meddygol a SAGE, a rhoddwyd cyngor tebyg i weinyddiaethau eraill yn y DU, sydd i gyd yn dilyn y patrwm wrth newid yr amserlen ar gyfer hunanynysu yn eu Seneddau nhw eu hunain. Mae'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bobl fod mewn cwarantin wrth ddod i Gymru o wledydd arbennig wedi gostwng i 10 diwrnod yn yr un modd. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu hefyd i blentyn y mae'n ofynnol iddo ynysu allu symud i aelwyd arall yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn unol â'r trefniadau presennol sy'n ymwneud â gofal a chyswllt â rhieni'r plentyn hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn i bobl a busnesau ledled Cymru am gadw at y cyfyngiadau hyn sy'n heriol iawn yn aml. Er hynny, maen nhw'n parhau i fod yn hanfodol ar gyfer diogelu ein GIG ac achub bywydau. Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun rheoli COVID a ddiweddarwyd, gan gynnwys cyfres newydd o bedair lefel o rybudd. Mae'r cynllun yn disgrifio'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ôl cyfraddau'r feirws a lefel y risg. Rydym wedi trefnu i drafod cynnig sy'n ymwneud â'r cynllun hwn yn nes ymlaen yn ystod busnes heddiw. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd gerbron a'r tair set o reoliadau. Diolch, Dirprwy Lywydd.