5., 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:07, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei sylwadau a'i bwyntiau adeiladol fel arfer inni ymateb iddynt, nid yn unig heddiw. Ond rwy'n credu mai'r peth gorau fydddai pe bawn i'n ysgrifennu at y pwyllgor i ymdrin â'r holl sylwadau a wnaeth ef er mwyn parchu'r lefel o fanylder sydd ganddo.. Ac rydym ni'n awyddus i sicrhau, gan fod angen inni barhau i weithredu, ac fe fydd yna angen inni barhau i weithredu am rai misoedd eto o leiaf, ein bod ni'n ystyried y pwyntiau defnyddiol a wnaeth wrth graffu ar y modd yr ydym ni'n gweithredu'r rheoliadau priodol o ran eu hystyr gyfreithiol nhw, a hefyd yn ymdrin â'r pwyntiau o ran cyfathrebu y gwnaeth Rhun ap Iorwerth sôn amdanyn nhw ar ddiwedd ei gyfraniad ef.

Wrth gwrs, y gwir amdani yw ein bod ni'n gweithredu'r rheoliadau hyn yn unol â rheolau'r sefydliad hwn. Fe wneir honno'n ddeddfwriaeth gadarnhaol, yn union fel y gwnaethom drwy gydol yr argyfwng hwn, ac rwy'n teimlo nad yw'r pwyntiau a wna Andrew R.T. Davies yn rhoi ystyriaeth i'r ffaith inni weld misoedd ar fisoedd o ddeddfu yn y modd hwn. Nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw beth anarferol yn hynny; y gwir amdani yw bod yn rhaid inni gymryd camau eithriadol ar gyfer yr ymateb, a defnyddio'r gweithdrefnau eithriadol sydd gan y Senedd hon ar waith i wneud hynny. Rydym ni ynghanol ton gyflymach o'r coronafeirws. Pe byddem yn dweud nad oes gan y Llywodraeth yr hawl i weithredu, na fyddai'r Llywodraeth yn gallu gweithredu i amddiffyn pobl ledled Cymru wrth i'r sefyllfa newid heb inni wneud penderfyniad cadarnhaol ymlaen llaw, yna fe fyddem ni, yn ddiamau, yn gwneud sefyllfa pobl Cymru yn llai diogel, ac fe fyddai'r Llywodraeth hon yn llai galluog i gadw ein pobl ni'n ddiogel. Nid wyf i'n bychanu difrifoldeb y sefyllfa wirioneddol enbyd o'r Llywodraeth yn deddfu yn gyntaf ac yna'n gofyn am gymeradwyaeth wedi hynny, ond dyna, rwy'n ofni, yw difrifoldeb gwirioneddol y sefyllfa. Mae hyn hefyd, wrth gwrs, o ran y bwlch, yn caniatáu i'r pwyllgor a gadeirir gan Mick Antoniw ddarparu ei adroddiadau craffu i'r Aelodau eu hystyried.

Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a nododd llefarydd y Ceidwadwyr o blaid symud i 10 diwrnod o hunanynysu, o ran gwella'r cyfathrebu. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym ni'n ymdrechu'n barhaus i'w wneud bob amser. Rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn eglur iawn am y negeseuon sydd gennym ni. Mae gwybodaeth newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru heddiw o ran y genadwri ehangach am y coronafeirws a'r Nadolig, a gofyn i bobl wneud y peth iawn. Rwy'n credu y dylai'r Aelodau ar draws y pleidiau roi ystyriaeth i hynny a'i gyfathrebu ac annog etholwyr ledled y wlad ac o unrhyw duedd wleidyddol i ailfeddwl am yr holl ddewisiadau a wnawn ni. Fe fyddwch chi'n clywed Gweinidogion o bob un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gofyn i bobl ledled y DU wneud hynny.

Ac o ran yr ap, nid wyf i wedi clywed y stori am Drafnidiaeth Cymru y cyfeiriwyd ati, ond rwyf i'n dweud yn eglur iawn y dylid parhau i ddefnyddio'r ap ac fe fyddaf i'n annog cynifer o bobl â phosibl i'w lawrlwytho. Nid wyf yn credu y dylai unrhyw fusnes fod yn gofyn i unrhyw un ddileu'r ap gan y byddai'n effeithio ar weithrediad eu busnes nhw. Mae'r ap yno i helpu i gadw pobl yn ddiogel, gan gynnwys y bobl y byddech chi'n gweithio yn eu hymyl mewn busnes, pe byddech chi'n cael eich cynghori i hunanynysu oherwydd y risg i chi a'ch cydweithwyr chi o bosibl, ac nid wyf i'n credu y gallwn fod yn gliriach ynglŷn â hynny.

O ran eich cais parhaus chi am ddull cyfyngedig o weithredu wedi'i dargedu, ni fu'n glir erioed beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae wedi bod yn wir bob amser, ers ichi ddechrau galw am y dull penodol hwnnw o weithredu pan wnaethoch ddychwelyd i'r swydd hon ar fainc flaen y Ceidwadwyr, ein bod ni wedi cael cyngor clir iawn gan y grŵp cynghori technegol bod mesurau Cymru gyfan ar hyn o bryd yn gymwys, yn symlach ac yn haws i'r cyhoedd eu deall a'u dilyn—yn symlach ac yn haws i bob un ohonom allu gweithio gyda'n gilydd i helpu i ddiogelu Cymru. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod ganddo ef farn wahanol, ond mae cyngor clir iawn gennym ni yn cael ei gyhoeddi—a'i gyhoeddi'n rheolaidd—sy'n tanlinellu safbwynt y Llywodraeth.

O ran yr amrywiolyn newydd, ydw, rwy'n ymwybodol bod gennym ni lond het o achosion yng Nghymru eisoes. Rwy'n disgwyl rhagor o wybodaeth yn y dyddiau nesaf wrth inni wneud mwy o ddilyniannu genomig o ganlyniadau profion yma yng Nghymru, ac fe fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi mwy o wybodaeth pan fydd hynny ar gael. Nid yw'n eglur a yw'r amrywiolyn newydd yn un sy'n lledaenu'n gyflymach, ond, beth bynnag am hynny, fe wyddom fod y coronafeirws yn ymledu'n gyflym gyda'r amrywiolion y buom ni'n ymwybodol ohonyn nhw eisoes. Y newyddion cadarnhaol yw nad ydym yn credu y byddai'r amrywiolyn penodol hwn yn effeithio ar effeithiolrwydd brechlyn, sef y prif bryder am yr amrywiolyn yn y mincod o Ddenmarc a achosodd i fesurau eithriadol gael eu cymryd yn hwyr iawn yn y nos dros benwythnos, fel y gŵyr swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau, cyn inni ddod i'r Senedd hon i ofyn am gymeradwyaeth.

O ran eich pwynt ehangach chi ynglŷn â gwrthwynebu amrywiaeth o gyfyngiadau, rwy'n credu'n wir ei bod hi'n beth rhyfedd iawn eich bod chi'n parhau i wrthwynebu cyfyngiadau, o ystyried y sefyllfa barhaus a'r enbydrwydd sydd yn ein gwlad ni. Ar y gorau, rwy'n credu ei bod yn anystyriol iawn mynnu gwelliannau ac ar yr un pryd wrthwynebu mesurau i gyflawni gwelliannau y mae adolygiad o dystiolaeth nid yn unig gan ein grŵp cynghori technegol ni, ond hefyd SAGE, yn tystiolaethu iddyn nhw dro ar ôl tro. Rwy'n credu y dylai pobl yng Nghymru gael cysur yn y ffaith ein bod ni'n cael ein cyngor o ran iechyd y cyhoedd gan SAGE, gan y Grŵp Cyngor Technegol, gan ein prif swyddog meddygol ni ein hunain, ac, wrth wneud hynny, rydym yn cael ein cefnogi i gymryd y mesurau hynny drwy ddilyn dull eang pob un prif swyddog meddygol ledled y Deyrnas Unedig wrth wneud felly. Ac rwy'n credu mai dyna fydd fy mhrif ffynhonnell i o'r cyngor rwy'n ei gymryd o ran iechyd y cyhoedd, yn hytrach na barn unigol Mr Davies.

O ran pwynt Rhun ap Iorwerth am y rhesymeg, y dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ledled y DU yw'r rhesymeg wrth wraidd cyflwyno'r cyfyngiadau hyn, ac eto, yr un dystiolaeth oddi wrth SAGE a'r Grŵp Cyngor Technegol—tystiolaeth gadarn o'r hyn sy'n gweithio. Felly, dyna pam rydym ni wedi cyflwyno'r cyfyngiadau hyn. O ran eich pwynt ehangach chi am gyfathrebu, rydym yn edrych yn gyson ar sut yr ydym yn ceisio cyflwyno neges glir a syml, yng nghanol yr holl sŵn sydd o gwmpas, gyda'r holl amgylcheddau mwy cystadleuol eu naws, o fewn yr awyrgylch gwleidyddol, ond o fewn ystod o gyfryngau cymdeithasol a sianelau eraill hefyd. Ac rydym yn ceisio sicrhau, os oes modd, ddull mwy cyson gan y pedair gwlad o ran y genadwri i'r cyhoedd.

Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n helpu pobl i wneud dewisiadau, ond yn y pen draw mae gan y Llywodraeth gyfrifoldebau y mae angen inni eu cymryd, ac yna mae gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yn ein gwlad ni, gyfrifoldebau i ystyried yr hyn y dylem ni ei wneud i gadw ni ein hunain a'n gilydd yn ddiogel. Rydym ni'n parhau i fod ynghanol pandemig enbydus ac anorffenedig a fydd yn hawlio bywydau llawer mwy o ddinasyddion Cymru cyn iddo ddod i ben. Mae hynny'n helpu i danlinellu pam mae'r mesurau hyn yn parhau i fod yn bwysig a pham maen nhw'n ymateb cymesur i lefel y bygythiad yr ydym ni i gyd yn ei wynebu. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau heddiw.