Part of the debate – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi, ‘Pam aros?’ Wel, oherwydd ein bod, fel bob amser, yn cydbwyso sawl gwahanol fath o niwed. Yn ymarferol, yr unig beth y gallem ei wneud heddiw nad ydym yn ei wneud tan Noswyl Nadolig yw cau pob busnes manwerthu nwyddau dianghenraid. Wrth gwrs, rydym wedi ystyried yn ofalus iawn a ddylem wneud hynny nawr, ond fe fydd yn gwybod mai'r cyfnod masnachu hwn cyn y Nadolig yw'r ychydig wythnosau pwysicaf yn y flwyddyn gyfan i gynifer o gwmnïau yng Nghymru.
Rydym yn cydbwyso niwed i'r economi fel rydym yn cydbwyso niwed i iechyd. Rydym yn cydbwyso materion cydraddoldeb hefyd: po dlotaf yr ydych, yr agosaf at y Nadolig yr ewch chi allan i brynu pethau gan fod yn rhaid i chi aros i wybod faint o arian sydd gennych yn eich poced i wneud hynny. Gallem gau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid heddiw, a byddai'r bobl sy'n ddigon ffodus i fod ag arian yn barod, neu sy'n gallu prynu pethau ar-lein yn hawdd, yn dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hynny, a byddai'r teuluoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru eisoes o dan anfantais bellach. Mae cyfres o wahanol fathau o niwed y mae'n rhaid i chi ei chydbwyso o hyd. Ein barn ni yw bod y cydbwysedd rydym wedi'i daro, gan fod yn glir y bydd cyfyngiadau newydd sylweddol ar waith yn syth ar ôl y Nadolig oherwydd y niwed rydym yn ei wynebu i iechyd, ynghyd â'r pethau rydym yn eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn taro’r cydbwysedd gorau y gallwn ei ganfod.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi pam yn benodol na wnaethom gyflwyno'r newidiadau hynny yn yr ardaloedd â’r lefelau uchaf o'r haint. Wel, yr ateb yw na fyddent yn effeithiol. Nid yw cau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid mewn rhai rhannau o Gymru yn warant o gwbl na fyddai pobl wedyn yn teithio i rannau eraill o Gymru lle mae’r siopau ar agor. Ni fyddai’n fesur effeithiol i'w roi ar waith, a byddai’n gam gwag heb effaith. Ni chredaf ein bod yn dymuno gwneud rhywbeth felly. Ar ôl gofyn i mi pam nad wyf wedi gwneud mwy mewn rhai ardaloedd, gofynnodd i mi pam nad wyf wedi gwneud llai mewn ardaloedd eraill, a’r ateb i hynny yw ein bod yn parhau i dderbyn cyngor cryf mai mesurau cenedlaethol—negeseuon unigol yn cael eu cyfleu ym mhobman yn y ffordd gliriaf y gallwn eu rhoi—sydd â’r cyfle gorau i gael eu dilyn, ac felly i fod yn effeithiol. Nid wyf am gynnig lefel is o ddiogelwch i rai rhannau o Gymru nag eraill a minnau’n credu y byddai hynny'n arbed bywydau pobl.
Ac er ei bod yn wir, ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—nad yw pethau cynddrwg yng Ngwynedd ac Ynys Môn ag a oeddent yn y siroedd hynny ychydig wythnosau yn ôl, na chynddrwg â’u cymdogion, nid wyf yn teimlo bod gennym batrwm dibynadwy eto, a phatrwm sy'n rhoi hyder i ni, y bydd yr ardaloedd hynny’n parhau i fod ar lefelau is yn y dyfodol i’r graddau y byddech yn barod i gynnig lefel is o ddiogelwch iddynt. Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Llundain dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi cadarnhau popeth y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau wedi’i ddweud wrthym: fod lefelau is o ddiogelwch yn arwain at lefelau heintio uwch yn y dyfodol. Nid wyf am weld hynny'n digwydd mewn unrhyw ran o Gymru. Fel y dywedais wrth Paul Davies fodd bynnag, pe bai patrwm gwahaniaethol dilys, dibynadwy a chynaliadwy yn dod i’r amlwg, byddai'r cyfnod adolygu ar ddiwedd y tair wythnos yn caniatáu i ni roi sylw i hynny, ac mae’r cynllun a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun yn rhoi llwybr i ni tuag at wahaniaethu rhanbarthol. Nid ydym yn y sefyllfa honno heddiw; ni fyddai'n fuddiol i'r cymunedau y cyfeiriodd Adam Price atynt.
Lywydd, nid wyf yn gyfrifol am farn anffodus Prif Weinidog y DU, ac nid oes neges gymysg yma yng Nghymru. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi, ac fe’i hailadroddaf nawr, yw: mae’r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol fel mai dwy aelwyd yn unig a ddylai feddwl am ddod ynghyd dros gyfnod y Nadolig yn yr un aelwyd estynedig sydd gennym eisoes. Am y pum niwrnod hynny, byddwn yn caniatáu i aelwyd un person ymuno â'r aelwyd estynedig honno, ond dyna'r graddau llawn y dylem ei weld yma yng Nghymru o ran cymysgu rhwng aelwydydd. Cytunwyd yn y cyfarfod rhwng y pedair gwlad heddiw ar set gryfach o negeseuon a fydd yn berthnasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Cytunwyd hefyd ei bod yn hanfodol i ni allu parhau i ymateb i'r gwahanol batrymau a welwn ar draws y pedair gwlad. Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r datganiad ar y cyd y byddwn yn ei wneud fel pedair gwlad y prynhawn yma, ac rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r neges y bûm yn ei rhoi drwy gydol yr awr a hanner ddiwethaf mai dwy aelwyd yn unig a ddylai ddod ynghyd yma yng Nghymru.
Mae Adam Price yn tynnu sylw at y ffaith ein bod wedi cael patrymau newidiol o'r coronafeirws yma yng Nghymru a'n bod wedi gorfod ymateb iddynt. Nid wyf yn cytuno ag ef y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o’r farn fod yr amodau pan ddaethom allan o'r cyfnod atal byr yn rhai llac; dwy aelwyd yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd yng Nghymru, pedwar o bobl yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd mewn unrhyw leoliad awyr agored. Mae'r rheini'n gyfyngiadau anarferol ar allu normal pobl i gyfarfod â'i gilydd, ac maent wedi bod ar waith yma yng Nghymru ers diwedd y cyfnod atal byr. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom galibradu ein hymateb i'r patrwm newidiol a welwn. Wythnos yn ôl yn unig, roedd arweinydd Plaid Cymru yn fy annog i gadw tafarndai ar agor yn hirach ac yn cwyno nad oeddwn yn caniatáu i alcohol gael ei werthu. Heddiw, mae'n cydnabod y sefyllfa wahanol rydym ynddi yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn gorfod meddwl am ein hymateb gan fod y feirws yn newid o'n blaenau bob dydd, ac mae'r effaith y mae'n ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am yr hyn a ddywedodd am y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun; ei bwriad oedd darparu mwy o eglurder i bobl ynghylch y llwybrau sy'n bodoli rhwng y gwahanol lefelau o ymyrraeth sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru. Bu’n rhaid i ni ddweud heddiw y bydd y manylion y mae’r ddogfen honno’n eu darparu ar gyfyngiadau lefel 4 yn dod i rym yng Nghymru yn syth ar ôl y Nadolig, ond mae hefyd yn nodi i bobl sut y gall pethau fod yn wahanol yn y dyfodol. Pan fydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn newid o'r cyfyngiadau difrifol iawn hynny a'r cyfyngiadau angenrheidiol yn y cyfnod ar ôl y Nadolig i ddyfodol gwahanol, ac wrth wneud hynny, credaf y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth gadarn y mwyafrif helaeth o'r bobl yma yng Nghymru.