Cwestiwn Brys: Cyfyngiadau COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:41, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Fe wnaethom alw arnoch ddoe, Brif Weinidog, i roi ystyriaeth frys i gyflwyno cyfyngiadau haen 4 cyn 28 Rhagfyr os oes llawer o ardaloedd yng Nghymru, fel sy'n amlwg, eisoes ar lefel y difrifoldeb a nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd gennych. Felly, rydym yn croesawu hynny. Y cwestiwn amlwg yw, o gofio bod llawer o ardaloedd yng Nghymru eisoes ar y lefel honno o ddifrifoldeb, pam aros hyd yn oed tan noswyl y Nadolig a'r dyddiau canlynol. Pam ddim ymyrryd yn gynharach, yn enwedig yn yr ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o haint? Mewn perthynas â rhai ardaloedd yng Nghymru, er enghraifft, yn y gogledd-orllewin—ni chredaf y cafwyd unrhyw achosion newydd ar Ynys Môn ddoe—onid oes achos i ddadlau o hyd, o ystyried eich bod wedi cyfaddef bod egwyddor defnyddio dull rhanbarthol neu ddull lleol yn briodol, pam na ddylid rhoi’r dull rhanbarthol hwnnw ar waith yn gynharach hefyd i adlewyrchu’r hyn sydd i'w weld yn batrwm gwahanol yn y rhannau hynny o Gymru?

Mewn perthynas â’r llacio ar gyfer y Nadolig, rwy'n croesawu'r canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, ond onid oes perygl, os nad yw'r canllawiau a'r rheolau wedi'u halinio, y gallai hynny arwain at negeseuon cymysg a dryswch? A dywedaf hynny'n arbennig o gofio’r neges wahanol iawn a ddaw o Lundain a San Steffan y prynhawn yma, lle mae Prif Weinidog y DU, yn yr awr ddiwethaf, wedi bod ar ei draed yn dweud bod ‘cytundeb unfrydol’ fod yn rhaid i gynlluniau’r Nadolig fynd yn eu blaenau o hyd. Ac mae wedi bod yn disgrifio arweinydd eich plaid fel y Grinch a fyddai'n dwyn y Nadolig, ac mai ef yw'r un sy'n ei warchod. Dywedodd rai pethau negyddol iawn am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyfnod atal byr ar yr un pryd. Felly, ymddengys i mi fod perygl, oherwydd y negeseuon cymysg, na fydd pobl yn deall y neges rydych yn ceisio’i chyfleu ein bod mewn sefyllfa wahanol yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, ni allwn lacio’r rheolau yn yr un modd, ac oni bai eich bod yn newid y rheolau, gallai pobl ddod i’r casgliad anghywir, Brif Weinidog. Felly, hoffwn i chi roi sylw arbennig i'r pwynt hwn ynglŷn ag a oes angen i ni newid y rheolau er mwyn cynnal y canllawiau clir rydych bellach wedi'u rhoi.

Ar lefel fwy cyffredinol, rydym wedi cael nifer o newidiadau polisi gan Lywodraeth Cymru mewn cyfnod byr, onid ydym, dros y chwe wythnos ddiwethaf? Felly, cawsom y cyfnod atal byr. Credwn ein bod wedi dod allan o'r cyfnod atal byr yn rhy sydyn. Dywedasom ar y pryd—y dylem fod wedi cael rhyw fath o gyfnod clustogi o gyfyngiadau uwch byth. Wedyn, fe gawsom drefn fwy llac ei rheolau nag unman yn y DU am gyfnod, yn ôl pob tebyg, Brif Weinidog, yna cawsom yr hyn y byddai rhai wedi'i ystyried yn newid sydyn neu lym i gyfyngiadau uwch. Nawr, rydym wedi cael y cyhoeddiad hwn heddiw. Credaf fod Llywodraeth Cymru, o’i chymharu—yn sicr o’i chymharu â Llywodraeth y DU—wedi cael cryn dipyn o gymeradwyaeth, yn bennaf oherwydd y cysondeb a'r dull gofalus, pwyllog a chyson rydych wedi'i fabwysiadu am y rhan fwyaf o'r pandemig. A ydych yn credu bod hynny wedi'i ddadwneud dros yr wythnosau diwethaf? Sut y gallwch ailadeiladu'r ymdeimlad hwnnw o lwybr clir a chyson fel nad oes gennym ddull sy’n newid o un peth i'r llall o hyd, lle rydym yn mynd i mewn ac allan o gyfyngiadau gan beri dryswch a chryn dipyn o flinder ymhlith y cyhoedd, fel y gallwn weld, a ninnau'n symud bellach, yn anffodus, at sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gynyddu lefel y cyfyngiadau unwaith eto, inni allu gweld llwybr clir a chyson tuag at leihau nifer yr achosion a symud i lawr yr haenau yn hytrach na gorfod eu symud i fyny ac i lawr, fel rydym wedi’i weld, yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf?