Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi ein dull o reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd a sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Bydd ein rhaglen llifogydd yn buddsoddi dros £3 miliwn yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru eleni, gan gynnwys £566,000 ar gyfer atgyweiriadau brys i'r seilwaith llifogydd.