Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:20, 16 Rhagfyr 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth y bore yma. Dwi'n edrych ymlaen i bori drwy hwnnw dros y dyddiau nesaf. Ond, ar yr olwg gyntaf, mae'n rhaid i fi ddweud does yna fawr ddim gwahaniaeth neu newid o rai o'r dogfennau ymgynghori rŷn ni wedi'u gweld yn flaenorol. Mae yna elfennau, wrth gwrs, rŷn ni'n cytuno â nhw—a dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd inni symud yn nes at fodelau sydd yn talu am nwyddau cyhoeddus—ond, wrth gwrs, byddwch chi a phawb arall yn ymwybodol ein bod ni yn anghytuno ac yn dal i anghytuno ynglŷn â'r angen am ryw fath o daliad sefydlogrwydd fel rhan o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector. Ond fe addawoch chi, wrth gwrs, na fyddech chi'n dod â chynigion gerbron heb eich bod chi wedi gwneud asesiadau effaith llawn ac wedi gwneud modelu trylwyr, ond mi oeddwn i'n darllen, yn y Papur Gwyn, ac mi ddyfynnaf i: