1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth y bore yma. Dwi'n edrych ymlaen i bori drwy hwnnw dros y dyddiau nesaf. Ond, ar yr olwg gyntaf, mae'n rhaid i fi ddweud does yna fawr ddim gwahaniaeth neu newid o rai o'r dogfennau ymgynghori rŷn ni wedi'u gweld yn flaenorol. Mae yna elfennau, wrth gwrs, rŷn ni'n cytuno â nhw—a dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd inni symud yn nes at fodelau sydd yn talu am nwyddau cyhoeddus—ond, wrth gwrs, byddwch chi a phawb arall yn ymwybodol ein bod ni yn anghytuno ac yn dal i anghytuno ynglŷn â'r angen am ryw fath o daliad sefydlogrwydd fel rhan o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector. Ond fe addawoch chi, wrth gwrs, na fyddech chi'n dod â chynigion gerbron heb eich bod chi wedi gwneud asesiadau effaith llawn ac wedi gwneud modelu trylwyr, ond mi oeddwn i'n darllen, yn y Papur Gwyn, ac mi ddyfynnaf i:
Mae gwaith dadansoddol pellach yn cael ei wneud i sefydlu effaith economaidd ein hargymhellion ar lefel busnes fferm, lefel sector a lefel ranbarthol. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn bwysig ar gyfer asesu effaith bosibl y cynllun ar gymunedau gwledig.
Wel, mae hynny'n dweud wrthyf i nad ydych chi'n gwybod beth fydd effaith y cynigion sydd yn eich Papur Gwyn chi ar yr union ffermydd teuluol hynny y byddwch chi'n dibynnu arnyn nhw i ddelifro y nwyddau cyhoeddus a'r canlyniadau dŷn ni i gyd eisiau eu gweld. Felly, sut allwch chi gyhoeddi Papur Gwyn mor arwyddocaol a mor bellgyrhaeddol pan, yn amlwg, rydych chi heb wneud eich gwaith cartref?
Bydd Llyr Huws Gruffydd yn ymwybodol iawn mai'r Papur Gwyn hwn yw pen draw llawer iawn o drafodaethau a dadleuon a dau ymgynghoriad sylweddol, ac rydym bellach wedi cyflwyno'r Papur Gwyn, a dywedais mewn ateb cynharach y bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddol i Gymru yn y chweched Senedd.
Mae llawer iawn o dystiolaeth a dadansoddiadau y bydd angen edrych arnynt cyn cyflwyno'r Bil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gosod contract i ymgysylltu â chonsortiwm annibynnol i archwilio effeithiau'r cynigion ar economi amaethyddol Cymru. Mae'n waith cymhleth iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn, nad ydym yn ei ruthro, ac nid wyf yn disgwyl i adroddiad terfynol ar hyn ddod i law cyn hydref y flwyddyn nesaf. Nid oes rhuthr i wneud hyn. Mae gennym bwerau dros dro o dan Fil Amaethyddol Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwneud pethau'n iawn, ac mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar baratoi'r Papur Gwyn hwn. Mae gennym y rhaglen monitro a modelu amgylcheddol a materion gwledig, rydym wedi sefydlu grŵp tystiolaeth rhanddeiliaid fel y gall swyddogion ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac fel y dywedais, ac fel rydych newydd ei nodi, ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar natur unrhyw gynllun yn y dyfodol hyd nes y bydd y dadansoddiad economaidd hwnnw wedi'i gwblhau.
Felly, os nad oes brys, Weinidog, pam eich bod yn cyflwyno Papur Gwyn cyn bod y grŵp rydych yn ei sefydlu i ystyried gwneud yr asesiadau hyn wedi cwblhau eu gwaith? Rydych yn gwrthddweud eich hun yn yr ateb hwnnw. A bydd unrhyw waith sydd eisoes wedi'i wneud, y gwn eich bod yn cyfeirio ato yn yr adroddiad, wedi dyddio, os nad yn amherthnasol, ar 1 Ionawr, wrth gwrs, oherwydd, ar ddiwedd y cyfnod pontio, mae popeth yn newid. Nid oes gennym syniad pa fynediad fydd gan ffermwyr Cymru at farchnadoedd allforio, boed yn yr UE neu ymhellach. Nid oes gennym syniad pa lefel o fewnforion rhad a allai fod yn llifo i'n marchnad ddomestig gan danseilio a chodi prisiau is na'n cynhyrchwyr yma yng Nghymru, gan ddechrau'r ras i'r gwaelod wrth gwrs. Ac nid ydym yn gwybod yn iawn o hyd pa lefel o arian a gawn yng Nghymru yn lle arian yr UE; yr hyn a wyddom yw bod Llywodraeth y DU wedi torri'r cyllid y byddwn yn ei gael y flwyddyn nesaf. Felly, nid yw'n argoeli'n dda o ran gwybod pa lefel o gyllid fydd gennych i gyflawni rhai o'r uchelgeisiau sydd gennych yn eich Papur Gwyn. Felly, mae'n sicr y dylai'r hyn rydym yn ei gynnig mewn unrhyw Bapur Gwyn fod yn seiliedig ar yr hyn y down i'w wybod ar ôl i bethau dawelu ar ôl Brexit, ac nid dim ond cyhoeddi Papur Gwyn sydd ond yn taro allan a gobeithio am y gorau, yn ôl fel y gwelaf fi, pan nad oes unrhyw beth o gwbl yn glir.
Rydych yn llygad eich lle fod llawer iawn o ansicrwydd ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â chyllid. Fel y dywedwch, mae Llywodraeth y DU wedi torri'r cyllid amaethyddol—rydym £137 miliwn yn brin; rydym yn dal i ymladd i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddychwelyd i ni, ond yn amlwg, mae cyllid yn fater o bwys. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle. Gwyddom fod angen inni gyflwyno Bil amaethyddol yn gynnar iawn yn y chweched Senedd. Ymgynghoriad yw hwn, unwaith eto. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 25 Mawrth. Nid oes dim yn bendant ac fel y dywedais, ni wneir unrhyw benderfyniadau terfynol. Rydym wedi ymgysylltu'n sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf, ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Mae swyddogion wedi cyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid; rwyf fi'n bersonol wedi cyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau wrth ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth y seiliwyd y Papur Gwyn arni.
Ac nid oes eglurder o hyd ynglŷn â sut y bydd eich cynigion yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd. Fel y dywedoch chi: bedair blynedd ers y refferendwm, dair blynedd, mae'n debyg, ers i'r ddeialog hon gyda'r sector ddechrau o ddifrif. Dyma'r trydydd ymgynghoriad y byddwch yn ymgysylltu â'r sector a'r gymdeithas ehangach yn ei gylch, ond unwaith eto, ceir llawer o uchelgeisiau lefel uchel, fel y gwelsom eisoes yn 'Ffermio cynaliadwy a'n tir', yr ymgynghoriad o'i flaen, a 'Brexit a'n tir', yr un cyn hwnnw. Prin fod yna unrhyw fanylion gweithredol, dim gwybodaeth am yr hyn y bydd yr argymhellion yn ei olygu ar lefel fferm, dim eglurder ynghylch amserlenni, dim manylion am y trefniadau pontio, dim gwybodaeth gyllidebol ychwaith. Felly, rwy'n meddwl tybed beth rydych chi'n gobeithio ei ddysgu o'r ymgynghoriad hwn nad yw eisoes wedi dod yn amlwg i chi yn y ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd gennych o'i flaen? Ac unwaith eto, fe ddof yn ôl at y pwynt a wnaethoch nad oes unrhyw frys. Ac rwy'n cytuno ei bod yn bwysicach ei gael yn iawn na'i wneud yn gyflym, ond ai'r 12 wythnos nesaf yw'r amser gorau i gynnwys y sector mewn ymgynghoriad ystyrlon? Maent eisoes yn mynd i'r afael â chanlyniadau pandemig byd-eang, sy'n dinistrio'r system gyflenwi bwyd yn fyd-eang, ac nid yw Brexit wedi taro eto. Rhowch bythefnos iddo a bydd y sector cyfan mewn anhrefn llwyr yn ymdrin â diwedd y cyfnod pontio, ac rydych yn disgwyl ymgynghoriad ystyrlon pan fo'r sector yn ei chanol hi'n ceisio sicrhau eu bod yn goroesi. Does bosibl nad yw amseriad hyn yn hollol anghywir.
Rwy'n cydnabod yn llwyr ein bod mewn cyfnod anodd iawn, ond yn anffodus, credaf y bydd yn para ychydig yn hwy. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod wedi ymrwymo i gyflwyno'r Papur Gwyn hwn cyn diwedd y flwyddyn, ac rwy'n siŵr mai chi fyddai'r cyntaf i fy meirniadu pe na bawn wedi gwneud hynny. Felly, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf wedi clywed gan neb, ar wahân i'r hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf, mai dyma'r adeg anghywir i ymgynghori. Roedd pawb yn gwybod bod y Papur Gwyn hwn yn dod cyn diwedd y flwyddyn. Rwy'n credu mai nôl—os nad yn yr haf, yn sicr yn yr hydref yr addewais wneud hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr. Felly, ni fydd neb yn synnu ein bod wedi cyflwyno hyn. Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 25 Mawrth; rwy'n gobeithio clywed cynifer o safbwyntiau â phosibl ar y Papur Gwyn. Ac rwy'n credu bod rhanddeiliaid yn cydnabod ein bod ynghanol argyfwng hinsawdd hefyd, ac wrth gwrs, rydym ynghanol pandemig. Mae'r argyfwng hinsawdd yma hefyd, a gwn fod y sector amaethyddol yn arbennig yn teimlo eu bod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng hinsawdd, ac rwy'n awyddus iawn i glywed eu barn ynglŷn â sut y byddant yn parhau i ymateb iddo.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi'r Papur Gwyn heddiw, rhaid i mi adleisio a chymeradwyo rhai o sylwadau fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd. Nid yw'r argymhellion Papur Gwyn hyn yn darparu'r fframwaith sydd ei angen i gyflawni'r egwyddorion a'r uchelgeisiau y mae ein ffermwyr yng Nghymru yn eu haeddu. Rydym i gyd yn gwybod canlyniad pleidlais Brexit, ac ar y darlleniad cyflym y cefais gyfle i'w wneud ar hyn heddiw, nid yw'n rhy glir fod rhai o'r ymgynghoriadau blaenorol wedi ychwanegu unrhyw bwysau at hynny, o ran bwrw ymlaen â'r rheini.
Ein ffermydd yw conglfaen ein cymunedau gwledig, ac maent yn creu swyddi hanfodol, sy'n diogelu arferion rheoli tir hanesyddol a chynaliadwy am genedlaethau i ddod. Er bod eich Papur Gwyn yn 74 tudalen o hyd, rwy'n synnu mai tair gwaith yn unig y cyfeiriwch at y gair 'cyflogaeth', a'ch bod ond wedi rhoi un sylw wrth fynd heibio i swyddi yn y sector ffermio. Mae hyn yn tanseilio'r gwerth aruthrol y mae ein ffermydd yn ei gyfrannu i gymunedau gwledig ac economïau rhanbarthol. Felly, Weinidog, a wnewch chi adolygu eich argymhellion i gydnabod yn llawn pa mor bwysig yw'r sector ffermio fel cyflogwr allweddol mewn ardaloedd gwledig, ac a wnewch chi geisio rhoi mwy o bwyslais ar werth gwirioneddol y gwaith o gynhyrchu bwyd gan ein ffermwyr yng Nghymru?
Rwy'n synnu at ddadansoddiad Janet Finch-Saunders o'r Papur Gwyn. Yn amlwg, y Bil ac yna'r Ddeddf a fydd yn darparu'r fframwaith hwnnw, ond holl ddiben cael ein bil amaethyddol ein hunain yng Nghymru—y tro cyntaf i ni gael y cyfle; gadewch i ni edrych ar y cyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae hwn yn gyfle enfawr i gael ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru, wedi'i deilwra'n gyfan gwbl ar gyfer Cymru—polisi amaethyddol pwrpasol. Mae gwir angen inni gadw ffermwyr ar y tir—yn sicr. Hebddynt hwy, ni fyddem yn gallu cyflawni unrhyw un o'r canlyniadau rydym yn ceisio’u cyflawni. Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn ganolog i'r Papur Gwyn hwn—nid fel un Lloegr. Felly, rydym yn gwbl sicr fod yn rhaid cynnwys cynhyrchu bwyd. Ac os edrychwch ar 'Brexit a'n tir', roedd hynny’n un o bryderon y sector amaethyddol, nad oedd digon o amlygrwydd yn cael ei roi i fwyd. Newidiodd hynny gyda'r ail ymgynghoriad, mewn perthynas â 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', ac mae’n sicr yn cael lle canolog yn y Papur Gwyn, ynghyd â'r canlyniadau amgylcheddol y mae ein ffermwyr yn eu cynhyrchu ond heb gael eu gwobrwyo amdanynt ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog, ond o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers eich ymgynghoriad cyntaf un, rwy'n siomedig ynglŷn â’r diffyg manylion o sylwedd yn y ddogfen hon, a chyn lleied o gydnabyddiaeth o'r amser a'r egni y mae ein ffermwyr wedi'i roi wrth ymateb i chi yn flaenorol ar lawer o ymgynghoriadau eraill. Ac wrth ddarllen y ddogfen—er yn gyflym iawn—heddiw, nid yw'n adlewyrchu eu mewnbwn. Dylai'r cynnig hwn fod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Rydym yn edrych ar gynllun 15 i 20 mlynedd, i ddatblygu a chyflwyno polisi bwyd a ffermio cynhwysfawr, i sicrhau diogelwch bwyd, a hybu gwerthiant a chaffael bwyd o Gymru ar gyfer y farchnad ddomestig. Yn hytrach, fodd bynnag, mae eich Papur Gwyn yn sôn llawer am orfodaeth, gan grybwyll rheoliadau 79 o weithiau. Rwy’n ystyried hynny’n sarhad pur ar ein ffermwyr—cam na fydd yn gwneud unrhyw beth heblaw amharu ar gystadleurwydd ein ffermydd.
Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at freuder ein cadwyni cyflenwi, a pha mor bwysig yw ein ffermwyr i gynhyrchiant bwyd yng Nghymru. Cofiwch sut y daethant i’r adwy yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i wneud hynny. Pan ddechreuodd pobl fod yn ofnus ynglŷn â mynd i mewn i archfarchnadoedd, roedd ein ffermwyr yno, gyda'n cigyddion, yn danfon bwyd lle roedd ei angen, ac ni ellir anwybyddu hynny. Yn syml, nid yw dilyn polisi sy'n arwain at grebachiad ffermio a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru yn rhywbeth cyfrifol i'r Llywodraeth hon ei wneud ar sail fyd-eang, a dyna'r teimlad hyd yn hyn. Felly, Weinidog, yn y cyd-destun hwn, pam mai dwy waith yn unig y mae’r Papur Gwyn yn crybwyll diogelwch bwyd, heb roi unrhyw ystyriaeth yn ôl pob golwg i’r angen i gynnal a gwella lefelau cynhyrchu bwyd yng Nghymru?
Felly, cawsom yr ymgynghoriad cyntaf yn ôl yn 2018 a’r ail un y llynedd, yn 2019. Unwaith eto, rwy’n synnu nad ydych yn teimlo y bu newid yng nghywair yr iaith na’r argymhellion a gyflwynwyd, oherwydd mae'n amlwg fod hynny wedi digwydd. Felly, hoffwn ofyn i chi fynd yn ôl i edrych ar y ddau ymgynghoriad blaenorol, dim ond er mwyn gweld hynny.
Mae ein cynnig i gyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi gwerth teilwng ar y canlyniadau amgylcheddol y mae ein ffermwyr yn eu cynhyrchu. Nid ydynt yn cael eu gwobrwyo am hynny ar hyn o bryd. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn ganolog iddo hefyd, ac roedd hynny ar gais penodol yr ymgynghoriad cyntaf a gawsom, lle cawsom dros 12,000 o ymatebion. Felly, mae dweud nad ydym wedi gwrando ar bobl a roddodd amser i ymateb yn gwbl anghywir yn fy marn i.
Mae rhai wedi galw am status quo, ond rwy'n credu, fel y—. Yn sicr, yn yr ymgynghoriad cyntaf, roedd pobl yn dweud eu bod yn awyddus i gael status quo. Ond os siaradwch â’r rhan fwyaf o ffermwyr, byddant yn dweud nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi galluogi'r sector i fod yn wydn nac i oresgyn yr heriau amgylcheddol sy'n codi o'r argyfwng hinsawdd, fel rwy'n dweud. Cytunaf yn llwyr â chi fod ein sector amaethyddol, a'n ffermwyr, wedi bod ar flaen y gad yn sicrhau bod pob un ohonom yn cael ein bwydo. Nid oes unrhyw un wedi mynd heb fwyd yng Nghymru, ac wrth gwrs, roeddent yn rhan o hynny.
Felly, ymgynghoriad yw hwn eto, felly os oes gan unrhyw un syniadau pellach, yn amlwg, rydym yn gobeithio clywed llawer ganddynt. Rydym yn mynd i weithio'n agos iawn gyda'r diwydiant a chyda'n ffermwyr i ddatblygu manylion y cynllun. Ac rwyf wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau hyd nes y gallwn ddangos bod y cynllun newydd wedi'i gynllunio'n addas.
Fe sonioch chi am gaffael, ac rwy’n cytuno’n llwyr â chi fod hwnnw’n gyfle pellach. A'r diogelwch bwyd hwnnw y mae pob un ohonom yn poeni amdano, rwy'n sicr yn cael trafodaethau gyda fy swyddogion cyfatebol ar hyn o bryd, gan na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn gwneud unrhyw beth i helpu i ddiogelu ein cyflenwad bwyd.
Diolch unwaith eto. Weinidog, wrth ymdrin â'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer amaethyddiaeth, dywed eich Papur Gwyn:
‘Bydd ymgynghoriad manylach ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn rhan o’r is-ddeddfwriaeth hon.’
Felly, ceir teimlad eich bod, unwaith eto, yn gadael y manylion tan yn ddiweddarach. Nawr, o ystyried eich bod yn bwriadu gwneud y rhain mor eang â phosibl, gan gyfuno rheoliadau ar barthau perygl nitradau a deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid o'i fewn, mae rhanddeiliaid wedi dweud eu bod yn credu y bydd amseriad y cyhoeddiad yn ei gwneud yn anoddach i ffermwyr gymryd rhan weithredol, a'u bod yn teimlo nad yw'r papur hwn yn adlewyrchu lefel gyson eu hymgysylltiad â chi mewn ymgynghoriadau blaenorol.
Gadewch i mi eich atgoffa, pan fydd ein ffermwyr gweithgar yn ymateb i ymgynghoriadau, fod llawer o'u hamser a'u hegni yn mynd i mewn i hynny, felly mae'n rhaid i'r ddogfen hon, ac unrhyw Fil yn y dyfodol, adlewyrchu eu barn. Felly, gan fy mod wedi codi pryderon gyda chi ynglŷn ag ymgysylltu o'r blaen, a allwch roi rhywfaint o sicrwydd i'r Siambr hon y bydd amser digonol yn cael ei roi i ffermwyr graffu ar y cynigion hyn gyda dyddiad targed ar gyfer darparu’r eglurder pellach hwn? Oherwydd, yn syml iawn, fel rydych wedi’i nodi'n gwbl gywir, rydym yng nghanol COVID o hyd, rydym mewn argyfwng hinsawdd, a chyda holl drafodaethau a pharatoadau Brexit ar ddechrau’r flwyddyn, mae'n mynd i fod yn anodd iawn—[Torri ar draws.] Ni chredaf fod angen unrhyw help ar y Gweinidog, Joyce. [Torri ar draws.]
Arhoswch funud, nid sgwrs rhwng y ddwy ohonoch yw hon. Parhewch, Janet Finch-Saunders.
Ychydig iawn o amser a fydd ar gael, unwaith eto, i ffermwyr ymgysylltu os ydynt yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt. Felly, y cyfan rwy'n ei wneud yw erfyn arnoch, unwaith eto, ar ôl blwyddyn sydd wedi bod yn erchyll i bob un ohonom, i wrando ar y ffermwyr ac i sicrhau mai ein cynhyrchwyr bwyd a'n ffermwyr yw'r rhan fwyaf canolog o unrhyw Fil amaethyddol yn y dyfodol. Diolch.
Mae Janet Finch-Saunders yn ein hatgoffa ein bod yng nghanol storm berffaith; ni allwn gytuno mwy â chi ar hynny. Ond rwyf bob amser wedi sicrhau bod y ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd yn rhan gwbl ganolog o hyn. Rwyf wedi gwrando arnynt bob amser. Rwyf wedi ymgysylltu â hwy bob amser. Credaf y byddech yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffermwr a fyddai'n dweud yn wahanol.
Fe gyfeirioch chi at y safonau gofynnol cenedlaethol mewn perthynas â rheoliadau, ac un o'r cwynion cyntaf a gefais pan ddeuthum i'r portffolio hwn bedair blynedd yn ôl oedd bod y rheoliadau'n rhy gymhleth, nad oedd y rheoliadau hynny mewn un man, eu bod mewn gwahanol rannau o ddeddfwriaeth. Mae hwn yn gynnig i ddod â phopeth ynghyd mewn un ddeddf. Hefyd, mae gennych y gwaith o orfodi rheoliadau amaethyddol, sydd, mewn gwirionedd, yn canolbwyntio'n helaeth ar hyn o bryd ar gynlluniau taliadau'r PAC. A’r tu hwnt i'r cynlluniau hynny, mae’n ymwneud ag erlyniadau troseddol. Mae'n gam mawr iawn o hynny i erlyniadau troseddol. Nid wyf am droseddoli ein ffermwyr, a chredaf fod angen opsiynau cymesur arnom ar gyfer gorfodi mewn perthynas â throseddau llai difrifol. Felly, dyna'r cynllun gyda'r safonau gofynnol cenedlaethol. Ond unwaith eto, mae'n ymgynghoriad 12 wythnos.
Ac un o'r rhesymau—. Credwch fi, y tîm o swyddogion sydd wedi gweithio ar hyn, fe wnaethant chwarae rhan fawr iawn ar ddechrau’r ymateb i COVID-19 ar ran Llywodraeth Cymru. Roeddent yn gwybod fy mod yn dymuno cyflwyno’r Papur Gwyn hwn erbyn diwedd y flwyddyn: (1) fe wnes i ei addo, a (2) er mwyn cael y 12 wythnos lawn o ymgynghori, a dyna un o'r rhesymau dros ei gyflwyno nawr, ac rwy’n talu teyrnged i'r gwaith caled y maent wedi'i wneud i alluogi hynny i ddigwydd.