Yr Amgylchedd yn Nhorfaen

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:45, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith nad ydym wedi plannu digon o goed, yn sicr, a dyna pam rydym wedi cyflwyno sawl menter yn ystod y 12 mis diwethaf, yn enwedig y brif fenter, sef y fforest genedlaethol, a bydd hynny'n creu ardaloedd o goetir newydd i’n helpu i adfer a chynnal rhai o'n coetiroedd hynafol digymar, a hefyd i sicrhau ein bod yn plannu mwy o goed i'n helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. Unwaith eto, byddwch wedi clywed fy atebion cynharach mewn perthynas â’r Papur Gwyn ar amaethyddiaeth a gyhoeddwyd heddiw, ac yn hwnnw, fe welwch y cynllun i blannu mwy o goed. Ond rwyf wedi dweud bob amser fod angen i ni weithio gyda'n ffermwyr, gyda'n rheolwyr tir, gyda CNC i sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y coed rydym yn eu plannu yn sylweddol.