Yr Amgylchedd yn Nhorfaen

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:44, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Bron i 10 mlynedd yn ôl, pennwyd targed gan Lywodraeth Cymru i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030. Fodd bynnag, yn y pum mlynedd diwethaf, 300 hectar yn unig yw'r ffigur cyfartalog ar gyfer coetir newydd a blannwyd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged ei hun yn rhwystro ei gallu i gyflawni ei nodau newid hinsawdd? A pha gamau y bydd yn eu cymryd i annog plannu mwy o goed yn Nhorfaen a ledled Cymru?