Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Drwy gydol pandemig COVID-19, rydym wedi cyhoeddi canllawiau, gan weithio gyda'r proffesiwn milfeddygol a grwpiau lles anifeiliaid anwes presennol ac wedi sefydlu ein grŵp iechyd a lles anifeiliaid fferm ein hunain i ystyried effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yn benodol. Mae hyrwyddo safonau lles anifeiliaid uchel yn parhau i fod yn flaenoriaeth, er gwaethaf yr heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.