1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 16 Rhagfyr 2020.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56041
Diolch. Drwy gydol pandemig COVID-19, rydym wedi cyhoeddi canllawiau, gan weithio gyda'r proffesiwn milfeddygol a grwpiau lles anifeiliaid anwes presennol ac wedi sefydlu ein grŵp iechyd a lles anifeiliaid fferm ein hunain i ystyried effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yn benodol. Mae hyrwyddo safonau lles anifeiliaid uchel yn parhau i fod yn flaenoriaeth, er gwaethaf yr heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.
Diolch, Weinidog. Yn ystod pandemig COVID-19, wrth gwrs, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am gŵn bach a’u gwerthiant o amrywiol ffynonellau. Nawr, mae chwiliadau Google yn y DU am gŵn bach ger fy nghartref i wedi cynyddu fwy na chwe gwaith, ac mae nifer y trwyddedau a roddwyd ar gyfer mewnforio cŵn yn fasnachol wedi mwy na dyblu o’i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst 2019, i 12,733 yn yr un cyfnod o dri mis eleni. Felly, mae pryder difrifol ein bod yn eistedd ar fom amser mewn perthynas â lles anifeiliaid. Mae’n anghredadwy fod trwyddedau i fewnforio cŵn a chŵn bach wedi dyblu yn y ffordd honno, pan welwch faint o gŵn crwydr sydd i’w cael, faint o gŵn gadawedig sy'n aros am gartrefi parhaol. Felly, gallai fod cynnydd sylweddol yn niferoedd anifeiliaid gadawedig wrth i ganlyniadau economaidd pellach y coronafeirws gael eu gwireddu. Felly, mae'n deg dweud bod yn rhaid i'n canolfannau achub fod yn barod. Fodd bynnag, mae nifer y cyfleoedd i godi arian wedi lleihau'n sylweddol, a dangosodd arolwg o aelodau Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru fod 71 y cant o sefydliadau'n galw am ryddhau grantiau ar gyfer canolfannau achub—mae hynny’n nifer sylweddol o bobl sydd angen help i ofalu am y cŵn hyn sydd mewn trafferthion enbyd. Felly, a wnewch chi ystyried darparu rhywfaint o arian ar ryw bwynt i gynorthwyo'r canolfannau achub os gallant brofi, er y grantiau y gallent fod wedi'u cael o ffynonellau eraill, y gallech helpu mewn rhyw ffordd? Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Fe godoch chi’r mater hwn pan fûm gerbron y pwyllgor ddydd Iau diwethaf, a dywedodd y prif swyddog milfeddygol a minnau nad ydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid gadawedig. Ond efallai ei bod yn rhy gynnar oherwydd yn amlwg, efallai fod pobl yn gweithio gartref, a heb fynd yn ôl i'r gwaith, ac os ydynt wedi cael ci neu gi bach yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai ei bod braidd yn gynnar i asesu hynny, ond rydym yn cadw llygad ar hynny.
Credaf i mi grybwyll yr wythnos diwethaf hefyd fod y gronfa cadernid economaidd, sy'n unigryw i Gymru ac sy'n cefnogi busnesau, ar gael i rai o'r canolfannau y cyfeirioch chi atynt wneud cais iddi am gyllid. Yn amlwg, mae'n rhywbeth rydym yn cadw llygad arno, ac wrth i'r pandemig fynd rhagddo ac wrth i ni ddod allan o hyn a gweld pobl yn dychwelyd i'r gwaith ac ati, bydd yn rhaid i ni gadw llygad ar y sefyllfa, fel rwy'n dweud. Ond yn sicr, nid ydym yn gweld y lefelau o anifeiliaid gadawedig y credaf i chi gyfeirio atynt.
Mae nifer o bobl wedi prynu anifeiliaid anwes am y tro cyntaf gan eu bod yn gweithio gartref oherwydd COVID, ac maent yn teimlo bod ganddynt amser i ofalu amdanynt. A ddylid cynnig hyfforddiant mewn lles anifeiliaid i bobl sy'n prynu eu hanifail anwes cyntaf, oherwydd, a dweud y gwir, pe bawn yn prynu cwningen, ni fyddai syniad gennyf beth i'w wneud â hi?
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac ni fyddwn yn dweud bod hyn yn ymwneud â’r anifail anwes cyntaf yn unig; credaf y dylai fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n prynu anifail anwes, oherwydd, fel y dywedwch, mae pobl weithiau’n prynu cwningod neu gŵn ac ati. Ond mae gennym hyfforddiant priodol ar gael. Mewn perthynas â chŵn, gwn fod gennym brosiect bridio cŵn yr awdurdodau lleol. Mae hwnnw’n edrych ar welliannau mewn perthynas â chynlluniau cymdeithasoli sy'n cael eu rhoi ar waith mewn safleoedd bridio cŵn trwyddedig, a chredaf fod hwnnw’n gam cyntaf, wrth hyfforddi cŵn bach i sicrhau eu bod yn anifeiliaid anwes da i deuluoedd.