Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Fe godoch chi’r mater hwn pan fûm gerbron y pwyllgor ddydd Iau diwethaf, a dywedodd y prif swyddog milfeddygol a minnau nad ydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid gadawedig. Ond efallai ei bod yn rhy gynnar oherwydd yn amlwg, efallai fod pobl yn gweithio gartref, a heb fynd yn ôl i'r gwaith, ac os ydynt wedi cael ci neu gi bach yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai ei bod braidd yn gynnar i asesu hynny, ond rydym yn cadw llygad ar hynny.
Credaf i mi grybwyll yr wythnos diwethaf hefyd fod y gronfa cadernid economaidd, sy'n unigryw i Gymru ac sy'n cefnogi busnesau, ar gael i rai o'r canolfannau y cyfeirioch chi atynt wneud cais iddi am gyllid. Yn amlwg, mae'n rhywbeth rydym yn cadw llygad arno, ac wrth i'r pandemig fynd rhagddo ac wrth i ni ddod allan o hyn a gweld pobl yn dychwelyd i'r gwaith ac ati, bydd yn rhaid i ni gadw llygad ar y sefyllfa, fel rwy'n dweud. Ond yn sicr, nid ydym yn gweld y lefelau o anifeiliaid gadawedig y credaf i chi gyfeirio atynt.