Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Ychydig iawn o amser a fydd ar gael, unwaith eto, i ffermwyr ymgysylltu os ydynt yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt. Felly, y cyfan rwy'n ei wneud yw erfyn arnoch, unwaith eto, ar ôl blwyddyn sydd wedi bod yn erchyll i bob un ohonom, i wrando ar y ffermwyr ac i sicrhau mai ein cynhyrchwyr bwyd a'n ffermwyr yw'r rhan fwyaf canolog o unrhyw Fil amaethyddol yn y dyfodol. Diolch.