Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:49, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac ni fyddwn yn dweud bod hyn yn ymwneud â’r anifail anwes cyntaf yn unig; credaf y dylai fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n prynu anifail anwes, oherwydd, fel y dywedwch, mae pobl weithiau’n prynu cwningod neu gŵn ac ati. Ond mae gennym hyfforddiant priodol ar gael. Mewn perthynas â chŵn, gwn fod gennym brosiect bridio cŵn yr awdurdodau lleol. Mae hwnnw’n edrych ar welliannau mewn perthynas â chynlluniau cymdeithasoli sy'n cael eu rhoi ar waith mewn safleoedd bridio cŵn trwyddedig, a chredaf fod hwnnw’n gam cyntaf, wrth hyfforddi cŵn bach i sicrhau eu bod yn anifeiliaid anwes da i deuluoedd.