Yr Amgylchedd yn Nhorfaen

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:42, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae SL Recycling Ltd wedi bod yn gweithredu safle llosgi gwastraff ar hen safle llosgydd Shanks mewn ardal breswyl yn y Dafarn Newydd yn fy etholaeth. Rhoddwyd caniatâd iddynt gan CNC fisoedd lawer yn ôl, er mai nawr y mae'r cwmni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Ers iddynt ddechrau gweithredu, rwyf wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan drigolion lleol yr effeithir arnynt gan niwsans sŵn a phethau eraill fel drewdod. Bu'n rhaid i fy awdurdod lleol, sydd eisoes o dan bwysau, fynd i’r afael â’r materion hynny, gan nad yw CNC yn gallu bod yn ddigon ymatebol. A ydych yn rhannu fy mhryder, Weinidog, am y datgysylltiad amlwg rhwng gweithrediad CNC a fy awdurdod lleol? A wnewch chi godi hyn gyda CNC, gyda golwg ar sicrhau na fydd y datgysylltiad hwn yn parhau yn y dyfodol? Diolch.