Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Rwy'n bryderus iawn wrth glywed hyn, ac rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon, oherwydd yn amlwg, mae cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol yn gyfundrefnau sy’n ategu ei gilydd. Mae'r caniatâd cynllunio yn penderfynu a yw'r datblygiad yn ddefnydd tir derbyniol, er enghraifft, ac mae'n gwbl iawn fod y cwynion wedi mynd i'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf, ond rwy’n sicr yn fwy na pharod i godi hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod wedyn i nodi beth yn union yw eich pryderon. Yn amlwg, nid yw trwydded amgylcheddol gan CNC yn dileu'r gofyniad y dylai fod gan safle ganiatâd cynllunio priodol. Felly, gofynnaf unwaith eto i CNC ymgynghori â'r awdurdod lleol a sicrhau bod popeth yn ei le.