Tipio Anghyfreithlon

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 2:56, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae tipio anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda'r rhan fwyaf o’r sbwriel yn cael ei ddympio ar ddarnau o dir agored, fel y Twmbarlwm hanesyddol yn fy etholaeth i, Islwyn. Nid yn unig fod cost ariannol i'w thalu, ond mae cost aruthrol i dirweddau naturiol hardd Islwyn. Weinidog, yn gynharach eleni, ail-lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch dyletswydd gofal i annog pobl i helpu i ddod â thipio anghyfreithlon i ben. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a grymuso Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac awdurdodau lleol eraill i helpu i ymladd malltod tipio anghyfreithlon?