Tipio Anghyfreithlon

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:57, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Rhianon Passmore yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'r rhan hon o Lywodraeth Cymru wedi dod yn ôl i fy mhortffolio yn ddiweddar, ac mae gennyf gryn ddiddordeb yn hyn gan y credaf, yn sicr yn ystod y pandemig, ein bod wedi gweld cynnydd nad ydym yn dymuno’i weld mewn tipio anghyfreithlon. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl awdurdodau lleol fel y gallwn eu cefnogi gydag unrhyw fesurau a gyflwynir ganddynt i atal ac ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon.

Credaf fod yr ymgyrch y cyfeirioch chi ati, ymgyrch Dyletswydd Gofal, wedi’i chroesawu’n fawr. Mae pecyn cymorth cyfathrebu, er enghraifft, ar gael i bob sefydliad partner ei ddefnyddio, ac mae hynny'n annog deiliaid tai i gael gwared ar eu gwastraff a'u hailgylchu mewn modd cyfrifol. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi dyfarnu cyllid drwy raglen cymunedau gwledig y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer y prosiect cydweithredu ar y tiroedd comin sydd wedi’u lleoli'n rhannol yn eich etholaeth, rwy'n credu, ond yn sicr yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. A bydd rhan o'r prosiect hwnnw'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau tirwedd, ac mae hynny'n cynnwys swyddog Taclo Tipio Cymru i weithio'n agos gyda’r gymdeithas cominwyr a chyngor Caerffili i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.