Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Mae awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am atal halogi tir drwy'r drefn gynllunio, rheoleiddio diwydiannol neu weithredu deddfwriaeth tir halogedig. Roeddem yn arfer darparu cymorth drwy'r gronfa cyfalaf tir halogedig. Rydym hefyd yn ariannu hyfforddiant ar dir halogedig ar gyfer awdurdodau lleol a CNC.