Halogi Tir

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:59, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwyf wedi ysgrifennu atoch ar sawl achlysur mewn perthynas â gweithgareddau Bryn Group ger Gelligaer, sydd wedi halogi tir drwy roi plastig wedi'i ddarnio drwy'r pridd, ac sydd yn ôl pob golwg wedi bod yn taenu hadau glaswellt i guddio hynny. Nawr, mae cyngor Caerffili a CNC wedi dweud nad oes problem gyda'r safle, er gwaethaf yr holl dystiolaeth rwyf fi ac eraill wedi'i hanfon drwy fideo a ffotograffau. Rwyf fi'n bersonol wedi cerdded ar hyd y bwnd am ddwy awr a gallaf dystio i ba mor helaeth a dinistriol yw'r halogiad. Mewn ymateb i fy llythyr diweddaraf, Weinidog, rydych wedi dweud wrthyf y byddwch yn gofyn i CNC ymchwilio i'r mater hwn eto, ond rydych wedi dweud nad ydych o’r farn fod angen ymchwiliad annibynnol. A gaf fi erfyn arnoch, Weinidog, i ailystyried y penderfyniad hwnnw, i gadw'r drws ar agor i gynnal eich ymchwiliad eich hun i'r halogiad cyn i'r holl dystiolaeth gael ei chelu'n ddwfn yn y pridd fel problem i genedlaethau'r dyfodol orfod ymdrin â hi? Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen fy mod yn poeni y gallai'r plastig fod yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd drwy silwair. Nid yw hon yn broblem sy'n mynd i ddiflannu, felly a wnewch chi fy sicrhau i, a'r preswylwyr sy'n byw gerllaw, eich bod yn mynd i roi sylw agos iawn i hyn?