Gosodiadau Gwyliau Tymor Byr

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:01, 16 Rhagfyr 2020

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cynllun tai newydd i'r sir efo chyllideb o bron i £80 miliwn. Pwrpas y cynllun ydy ymateb i'r argyfwng cynyddol sydd yna yn y maes tai yng Ngwynedd, gan roi'r pwyslais ar gartrefi i bobl leol, pobl sydd mewn angen, a buddsoddi yn y stoc tai lleol i'r dyfodol. Ond fel cam arall i ymateb i'r argyfwng, mae Plaid Cymru am weld pob uned wyliau tymor byr yn sicrhau trwydded cyn dechrau gosod, a sicrhau caniatâd cynllunio mewn rhai ardaloedd. Mae'r Alban ar fin cael y pwerau hynny drwy eu trosglwyddo nhw i'r awdurdodau lleol. Ydych chi'n cytuno efo fi bod angen cynllun tebyg yma yng Nghymru i atal colli mwy o'r stoc tai o ddwylo lleol? Mae Cyngor Gwynedd wedi canfod bod 92 y cant o bobl Abersoch wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai.