Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r nifer o gartrefi yng Nghymru sy'n cael eu rhentu yn breifat wedi mwy na dyblu. Er roedd dirywiad bach iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dal yn wir fod dros 200,000 o gartrefi wedi eu rhentu gan landlord preifat, ac, yn gyfrannol, hwn oedd yr unig tenure a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod hwnnw. Mae'r cartrefi sy'n cael eu perchen gan y person sy'n byw yn y cartref, a hefyd tai cymdeithasol, wedi dirywio dros y cyfnod yna. Ydy hyn yn duedd hoffech chi ei gweld yn cynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf?