2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae COVID wedi dangos inni pa mor bwysig yw cyllid priodol i wasanaethau sy'n tynnu pwysau oddi ar wasanaethau statudol. Mae gwasanaethau a ariennir gan y grant cymorth tai yn chwarae rhan hanfodol yn atal digartrefedd a lleihau costau, yn enwedig i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gweithwyr digartrefedd a chymorth tai wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb i bandemig COVID-19, ar ôl helpu dros 4,000 o bobl i gael llety a chymorth brys, yn ogystal â pharhau i gefnogi miloedd o bobl eraill i osgoi digartrefedd. Er mwyn cynnal hyn, mae angen cynnydd mawr yn y grant cymorth tai yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gan ystyried y ffaith na fu cynnydd chwyddiannol yn y grant hwn ers 10 mlynedd. A allwch chi ddweud wrthym a fydd hyn yn digwydd?
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn a'r gydnabyddiaeth i'r gwaith hynod o galed sydd wedi'i wneud ar draws gwasanaethau digartrefedd gan wasanaethau statudol, gan wasanaethau gwirfoddol a gwasanaethau'r trydydd sector. Rwyf bob amser yn hapus i gael cyfle arall i dalu teyrnged i'r gwaith hynod o galed, a chryfder a gwytnwch llwyr y gwasanaeth. Mae fy nheyrnged i'r bobl ym mhen blaen y gwasanaeth yn gwbl ddiffuant, oherwydd mae'r hyn rydym wedi llwyddo i'w gyflawni yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw'n rhyfeddol. Fel y dywedodd, erbyn hyn mae gennym dros 4,000 o bobl sydd wedi cael eu cartrefu drwy gam 1 y gwasanaeth digartrefedd.
Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na chartrefu pobl o ran pedair wal a tho; mae'n ymwneud â'r gwasanaethau cymorth sy'n cyd-fynd â hynny, yr holl wasanaethau cymorth sydd eu hangen i gynnal rhywun yn y denantiaeth honno. Felly, rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl wasanaethau a'r sefydliadau ymbarél. Mae Cymorth, yn enwedig, wedi bod yn hynod gefnogol yr holl ffordd drwodd yn helpu i gynnal hynny. Ni fydd Mark Isherwood yn synnu deall, fodd bynnag, nad wyf yn mynd i achub y blaen ar gyllideb Llywodraeth Cymru y gŵyr y caiff ei chyhoeddi ar ffurf drafft ar 21 Rhagfyr, ac ni fyddai'n disgwyl i mi wneud hynny.
Yn eich datganiad ar 23 Tachwedd, roeddech yn derbyn mewn egwyddor yr argymhellion yn nhrydydd adroddiad ac adroddiad terfynol y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, gan gynnwys bwrw ymlaen ag ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol fel nad yw pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Dengys tystiolaeth fod bron i 50 y cant o bobl sengl ddigartref wedi mynd yn ddigartref am y tro cyntaf cyn eu bod yn 21 oed, gan dynnu sylw at yr angen am ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol sy'n canolbwyntio ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc er mwyn lleihau'n sylweddol nifer y bobl ddigartref yn gyffredinol. Mae adroddiad y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn ei gwneud yn glir fod angen cynyddu'r grant cymorth tai er mwyn gosod Cymru ar lwybr i roi diwedd ar ddigartrefedd. Felly, mae cyllideb yr wythnos nesaf yn gyfle i wireddu hynny. Mae staff rheng flaen ym maes digartrefedd a chymorth tai wedi bod yn eithriadol yn ystod y pandemig hwn, ond gwyddom fod gostyngiadau mewn cyllidebau termau real yn golygu bod taer angen cyllid ychwanegol arnynt i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. O gofio bod y grant cymorth tai bellach yn mynd i awdurdodau lleol i'w ddosbarthu, pa sicrwydd o gwbl y gallwch ei ddarparu y byddant yn cael cynnydd yn y grant ar lefel awdurdod lleol, ac a wnewch chi annog awdurdodau lleol i gomisiynu gwasanaethau sy'n darparu'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth allweddol hon i staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau mor heriol?
Fel y dywedais, Mark Isherwood, nid wyf am achub y blaen ar y datganiad cyllideb y bydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn ei wneud yr wythnos nesaf, na'r cyhoeddiad ar y setliad llywodraeth leol y byddaf yn ei wneud y diwrnod wedyn, a hynny am resymau amlwg. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cydnabyddiaeth o'r gwaith anhygoel o galed y mae'r sector wedi'i wneud. Rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o Gymru. Mae'n cyferbynnu'n llwyr â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin wrth gwrs, lle mae gwasanaethau digartrefedd wedi dechrau llithro'n ôl. Rydym ni, yn anffodus, wedi gweld rhywfaint o lithriad bach o bobl yn ôl ar y strydoedd, ond mae'n fach iawn o'i gymharu â nifer y bobl y buom yn gweithio gyda hwy, a gallaf sicrhau'r Aelodau o'r Senedd fod pob un o'r bobl y gwyddom eu bod wedi llithro'n ôl ar y strydoedd yn cael gwasanaethau allgymorth pendant, felly rydym yn gwybod pwy ydynt ac rydym yn gweithio gyda hwy i'w cael yn ôl i mewn i wasanaethau cyn gynted ag y bo modd.
Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i gywiro rhywbeth a ddywedodd Caroline Jones am nifer y cyn-filwyr sy'n cysgu allan. Mae'r llwybr cyn-filwyr yn gweithio'n dda iawn yng Nghymru, ac nid oes gennym nifer fawr o gyn-filwyr yn ôl ar y strydoedd, yn groes i'r hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei chwestiwn blaenorol.
Wel, rwyf am bwysleisio bod y cwestiynau rwyf wedi'u gofyn i chi wedi'u dwyn i fy sylw gan y sector, sy'n haeddu'r ganmoliaeth lawn y mae'r ddau ohonom wedi'i rhoi iddynt, ond hefyd maent yn poeni'n fawr na fydd y gyllideb eleni yr un fath â chyllidebau blynyddoedd blaenorol ac na fyddant yn cael y cynnydd sydd ei angen arnynt, o ystyried y gwaith gwych y maent wedi'i wneud a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.
Os caf orffen yn awr drwy symud at y farchnad dai yn ehangach, gan adlewyrchu pryder a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan fusnesau asiantaethau tai yng Nghymru sy'n gweithio yn ein rhanbarthau trawsffiniol, yn dilyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Cymru'n mynd i gyfyngiadau symud lefel 4—yr uchaf posibl—o 28 Rhagfyr, gyda siopau nwyddau dianghenraid yng Nghymru i gau ar ddiwedd y dydd ar Noswyl Nadolig. Fel y dywedant, mae'r farchnad dai ei hun yn fywiog. Mae prynwyr yn awyddus i sicrhau eu bod wedi cwblhau cyn diwedd y seibiant treth ar drafodiadau tir ar 31 Mawrth, ac eto bydd gwerthwyr tai yng Nghymru sy'n gweithredu yn y trefi ar y ffin o dan anfantais unwaith eto, gyda siopau cystadleuwyr yn Lloegr yn aros ar agor. Fel y dywedant hefyd, mae siopau gwerthu tai yn ddiogel rhag COVID, ac mae'r farchnad dai wedi aros ar agor y drws nesaf yn Lloegr drwy gydol y cyfyngiadau symud a chyfyngiadau haen 3 yno. Felly, mae angen iddynt wybod: pa dystiolaeth wyddonol ar gau'r farchnad dai sydd gan Lywodraeth Cymru nad yw Lloegr yn meddu arni?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw, Mark Isherwood. Yn amlwg, rydym yn wynebu un o'r sefyllfaoedd mwyaf enbyd o ran y pandemig a wynebwyd gennym hyd yma. Mae'r ffigurau'n wirioneddol arswydus, ac yn codi ym mhob ardal o Gymru heblaw Ynys Môn. Heddiw ddiwethaf cyfarfûm â holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol, ac maent yn unfryd eu barn y dylem wneud rhywbeth am y ffigurau hyn cyn i'n gwasanaeth iechyd fethu ymdopi. Felly, er bod fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un sy'n ceisio symud tŷ yn yr amgylchiadau hyn, ac wrth gwrs mae'n rhaid inni gydbwyso niwed yn erbyn niwed economaidd i'r diwydiant ac yn y blaen, yn y pen draw rydym ynghanol pandemig byd-eang, ac ni allwn fod yn hyderus ynglŷn â ffigurau Cymru. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid inni roi iechyd y cyhoedd yn gyntaf. Fodd bynnag, byddaf yn gweithio gyda'r diwydiant i geisio cadw cymaint ohono ar agor ag sy'n bosibl. Am resymau amlwg, ni fyddem am i bobl fynd i edrych ar dai lle mae rhywun yn preswylio ac yn y blaen, ond rwy'n siŵr y gallwn weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod o leiaf rai rhannau o'r farchnad yn aros ar agor.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r nifer o gartrefi yng Nghymru sy'n cael eu rhentu yn breifat wedi mwy na dyblu. Er roedd dirywiad bach iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dal yn wir fod dros 200,000 o gartrefi wedi eu rhentu gan landlord preifat, ac, yn gyfrannol, hwn oedd yr unig tenure a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod hwnnw. Mae'r cartrefi sy'n cael eu perchen gan y person sy'n byw yn y cartref, a hefyd tai cymdeithasol, wedi dirywio dros y cyfnod yna. Ydy hyn yn duedd hoffech chi ei gweld yn cynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf?
Na. Yn bendant iawn na, Delyth. Fe fyddwch yn ymwybodol, o'r sgyrsiau niferus rydym wedi'u cael y byddem yn—. Er bod i'r sector rhentu preifat ei le o ran darparu llety, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r nifer fawr o landlordiaid da sydd gennym ledled Cymru am ddarparu cartrefi da i bobl, serch hynny, hoffem weld cynnydd, yn enwedig mewn tai i'w rhentu'n gymdeithasol. O ganlyniad i ddileu'r cap o'r cyfrifon refeniw tai ychydig flynyddoedd yn ôl, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda chynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru i gynyddu'r gwaith o adeiladu cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol yn enwedig. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targed—y targed o 20,000 o dai fforddiadwy—ond y rhan rhent cymdeithasol o hynny sydd ei hangen fwyaf. Ac fe fyddwch yn gwybod o'r sgyrsiau hir a gawn, a gwn ein bod yn rhannu'r uchelgais, mai'r ffordd i'w wneud—wyddoch chi, mae angen inni gynyddu hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn, drwy ein rhaglen dai arloesol, yn ogystal â thrwy ein llwybrau adeiladu arferol, i gynyddu gwaith adeiladu ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau sy'n dal stoc i gael cymaint â phosibl o gartrefi cymdeithasol wedi'u hadeiladu ac i mewn i'r farchnad. Ac wrth gwrs, mae gennym nifer o gynlluniau gyda'r nod o fynd â llety rhent preifat i mewn i'r farchnad tai cymdeithasol, naill ai ar sail dreigl pum mlynedd, neu'n wir, rydym wedi caniatáu i gynghorau eu prynu lle mae hynny'n briodol.
Diolch, Weinidog. Dwi'n gwybod dŷn ni yn cytuno ar nifer o'r meysydd yma. Yn wir, dwi'n meddwl bod consensws yn gyffredinol bod angen gwrthdroi'r duedd yna dŷn ni newydd osod mas gydag angen, fel dŷch chi wedi'i ddweud, am fwy o dai cymdeithasol a mwy o gefnogaeth i bobl ifanc i allu dianc rhag gorfod rhentu—ar gyfer rhai pobl, byddan nhw'n dewis rhentu, ond rhag gorfod rhentu ac fel eu bod nhw'n gallu dod yn berchnogion tai.
Er ein bod ni wedi gweld dirywiad bach mewn cartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat ers cyflwyno'r gofyniad i gofrestru fel landlord, ni fu dim byd tebyg i'r exodus o'r sector gafodd ei fygwth pan ddechreuodd Llywodraethau siarad am roi'r sector hwn o dan reoliad priodol. So, a allaf i ofyn: a fydd y Llywodraeth, felly, yn cryfhau'r rheoliadau ar gyfer y sector hwnnw, gan fydd llawer yn dadlau bod angen cryfhau ansawdd a diogelwch y tenure sydd gan denantiaid? Wedi'r cyfan, ni ddylai bobl ddim ond cael sicrwydd dros y Nadolig yn unig.
Yn sicr, Delyth; rwy'n cytuno'n llwyr. Un o'r rhesymau pam y gwnaethom basio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn Senedd Cymru yn ôl yn 2016 oedd er mwyn gwneud yn union hynny—newid y cydbwysedd, mewn gwirionedd, rhwng tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat a rhoi llawer mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) ar hyn o bryd i wella'r Ddeddf honno, unwaith eto, gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ac rydym yn hapus iawn, bob amser, i edrych ar welliannau.
Yn anffodus, oherwydd COVID-19, nid ydym wedi gallu gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) mor gyflym ag y byddem wedi hoffi. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i weld pob plaid yn y Senedd hon yn ymrwymo i wneud hynny ym maniffestos yr etholiad fel y byddai pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth ar ôl mis Mai wedi ymrwymo i ddod â'r Ddeddf honno i rym cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Mae nifer o offerynnau statudol angen eu cwblhau o hyd ac mae angen cwblhau nifer o ddarnau o waith gyda Rhentu Doeth Cymru a'r cymdeithasau landlordiaid ac yn y blaen er mwyn trosglwyddo'n ddidrafferth. Ond rydym wedi datrys llawer o'r problemau a oedd gennym a oedd yn ein hatal rhag ei weithredu, ac felly, mae'n destun rhywfaint o rwystredigaeth i mi nad ydym wedi gallu gwneud hynny o ganlyniad i'r pandemig.
Rwy'n falch iawn o fod wedi gwneud hynny yng Nghymru, a byddwn yn ailadrodd eich pwynt, mewn gwirionedd: mae lleiafrif bach iawn o landlordiaid bob amser yn dweud wrthym y bydd unrhyw newid a wnawn yn arwain at niferoedd yn gadael y farchnad, ac yn y blaen. Nid yw'r ffigurau byth yn cadarnhau hynny. Ac mae'r landlordiaid da yn gwybod nad ydym yn gwneud unrhyw beth y bydd ganddynt unrhyw broblem ag ef; dim ond landlordiaid diegwyddor sydd ag unrhyw beth i'w ofni o hyn.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich ateb blaenorol am COVID-19 a'r effaith y mae wedi'i chael ar gynifer o agweddau ar y farchnad dai. Nawr, mae'n amlwg fod y cyfyngiadau sydd wedi bod ar waith eleni wedi cael eu profi'n wahanol gan wahanol grwpiau o bobl. Rydym wedi siarad am hyn droeon. Ond mae'r gwahaniaeth yn adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach yn ein cymdeithas. Mae'n amlwg, er enghraifft, y bydd pobl sy'n byw mewn llety gorlawn heb fynediad at fannau gwyrdd a glas yn fwy tebygol o brofi problemau mwy hirdymor na phobl sydd wedi gallu cysgodi mewn tai mawr gyda gerddi. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a fyddwch yn ystyried ehangu gofynion am fannau gwyrdd a glas ar gyfer datblygiadau newydd yn ystod y broses gynllunio? Ac yn olaf, a fyddwch yn edrych ar sut y gallech wella mynediad yn ôl-weithredol at y mannau hynny i ystadau sy'n bodoli eisoes, er enghraifft drwy gynyddu amddiffyniadau i'r mannau hynny yn erbyn datblygiadau newydd a sicrhau ein bod yn ystyried mynediad i fannau gwyrdd a glas fel hawl?
Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud hynny, Delyth. Felly, mae rhai pethau tymor byr rydym wedi'u dysgu yn ystod pandemig COVID-19. Felly, er enghraifft, hyd yn oed ar lefel 4, rydym yn gofyn i'n hawdurdodau lleol weithio'n galed iawn i sicrhau bod parciau a meysydd chwarae yn aros ar agor lle mae'n ddiogel iddynt wneud hynny, a bod ganddynt staff i wneud hynny'n bosibl. Gwyddom nad yw hynny'n wir ym mhobman yng Nghymru, oherwydd nifer o broblemau lleol—. Ni fydd yn bosibl cadw pob parc a chae chwarae ar agor, ond rydym wedi gofyn iddynt eu cadw ar agor lle bo hynny'n bosibl o gwbl, fel bod gan bobl mewn ardaloedd trefol adeiledig yn arbennig y parciau a ddylai fod ar gael iddynt. Gwn fod awdurdodau lleol wedi ystyried hynny'n helaeth iawn wrth ddysgu gwersi o gyfnodau cynharach y pandemig.
Hefyd, un o'r pethau rwy'n drist iawn yn ei gylch yw ein bod wedi colli'r gallu i roi Rhan L o'r rheoliadau adeiladu ar waith yn ystod tymor y Senedd hon. Unwaith eto, roedd yna gytundeb trawsbleidiol. Credaf mai David Melding oedd y llefarydd ar feinciau'r Ceidwadwyr bryd hynny, ond roedd llawer o gytundeb rhyngoch chi, fi ac ef ynglŷn â'r hyn oedd yn angenrheidiol. Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â gofod, safonau a mynediad at amgylchedd o ansawdd da. Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn ddadleuol. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny—y bydd yr holl brif bleidiau, beth bynnag, yn y Senedd yn gallu cynnwys hynny fel rhan o'u hymrwymiadau maniffesto, fel y gallwn wneud hynny cyn gynted ag y bo modd pan fyddwn drwy'r pandemig a bod gennym rywfaint o ofod deddfwriaethol i wneud hynny.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i bobl ddeall bod angen iddynt fynd allan, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol adeiledig lle mae'n anodd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyngor meddygol i gymryd ychwanegion fitamin D os nad yw hynny'n bosibl. Hoffwn ailadrodd y cyngor hwnnw, o gael y cyfle i wneud hynny.