Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Fe wnaf, gyda phleser. Byddwn yn dechrau gweithredu 'Cymru'r Dyfodol' pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Chwefror, er mwyn sicrhau ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant, ffyniant a datgarboneiddio. Yng nghanolbarth Cymru, bydd cynnydd ym maes cynllunio strategol yn chwarae rhan weithredol yn cyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau 'Cymru'r Dyfodol'.