Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:24, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich ateb blaenorol am COVID-19 a'r effaith y mae wedi'i chael ar gynifer o agweddau ar y farchnad dai. Nawr, mae'n amlwg fod y cyfyngiadau sydd wedi bod ar waith eleni wedi cael eu profi'n wahanol gan wahanol grwpiau o bobl. Rydym wedi siarad am hyn droeon. Ond mae'r gwahaniaeth yn adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach yn ein cymdeithas. Mae'n amlwg, er enghraifft, y bydd pobl sy'n byw mewn llety gorlawn heb fynediad at fannau gwyrdd a glas yn fwy tebygol o brofi problemau mwy hirdymor na phobl sydd wedi gallu cysgodi mewn tai mawr gyda gerddi. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a fyddwch yn ystyried ehangu gofynion am fannau gwyrdd a glas ar gyfer datblygiadau newydd yn ystod y broses gynllunio? Ac yn olaf, a fyddwch yn edrych ar sut y gallech wella mynediad yn ôl-weithredol at y mannau hynny i ystadau sy'n bodoli eisoes, er enghraifft drwy gynyddu amddiffyniadau i'r mannau hynny yn erbyn datblygiadau newydd a sicrhau ein bod yn ystyried mynediad i fannau gwyrdd a glas fel hawl?