Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn chwarae rôl arwyddocaol yn gwella'r rhan y mae'r cyhoedd yn ei chwarae mewn gwleidyddiaeth. Drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi ymestyn yr etholfraint bleidleisio ac wedi gwneud darpariaethau i ddiwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol. Ac i gefnogi hyn, bydd ein hymgyrch gyfathrebu sydd i ddod yn annog dinasyddion i ymgysylltu â gwleidyddiaeth drwy gymryd rhan.