Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch i chi, Weinidog. Mae gennym nifer fawr o awdurdodau lleol cymharol fach yng Nghymru ac mae dau o'r rhai lleiaf yn fy rhanbarth i—Merthyr Tudful a Blaenau Gwent—ac ynddynt y ceir rhai o'r lefelau uchaf o achosion COVID ar hyn o bryd. Ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Gweinidog yn siŵr y byddant yn gallu ymdopi â maint yr her honno, o ystyried pa mor fach yw'r awdurdodau, ac a oes trefniadau ar waith ar gyfer cyd-gymorth neu gefnogaeth gan awdurdodau lleol eraill neu gan Lywodraeth Cymru pe bai angen hynny?