Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Hoffwn groesawu dull Llywodraeth Cymru o weithredu’r rhaglen dai arloesol honno, sydd eleni wedi canolbwyntio ei chyllid ar ddulliau adeiladu modern. Rydych eisoes wedi dweud y bydd buddsoddiad o £35 miliwn yn mynd i gwmnïau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd mai cwmnïau lleol a'u cadwyni cyflenwi ydyw, ac mae hwnnw'n hwb i'w groesawu yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Ac rwy'n fwy balch fyth fod nifer o'r rheini'n dod â gwaith mawr ei angen i mewn i fy rhanbarth ar adeg sydd, heb amheuaeth, yn heriol.
Weinidog, a oes gennych unrhyw syniad faint o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth rydych yn rhagweld y cânt eu creu gyda'r rhaglen hon, ac yn amlwg, os na allwch roi ateb pendant imi nawr, edrychaf ymlaen at gael un yn y dyfodol agos.