Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Weinidog, ychydig dros flwyddyn yn ôl, prynwyd cwmni teuluol hirsefydlog, Rhys Davies Logistics, sydd wedi'i leoli yn Ffynnon Taf yn fy etholaeth i, gan Cathay Investments, cwmni o Loegr sydd â buddiannau mewn logisteg, cemegion a llawer o feysydd eraill. Fe'i disgrifiwyd gan y perchnogion newydd ar y pryd fel bargen y mis, gan ddweud y bydd yn galluogi RDL i ffynnu yn y dyfodol... ac rydym yn hyderus fod amseroedd cyffrous o'n blaenau.
Felly, prin wythnos yn ôl, a phrin bythefnos cyn y Nadolig, daeth y gweithlu ffyddlon yn Ffynnon Taf a depos eraill i'r gwaith, a bu'n rhaid iddynt aros yn yr oerfel am oriau cyn derbyn eu hysbysiadau diswyddo a chael gwybod na fyddent yn cael eu talu. Yr unig ddewis yw gwneud cais i Wasanaeth Ansolfedd Llywodraeth y DU am daliad, a gall hyn gymryd misoedd lawer.
Nawr, mae'r ffordd y mae'r gweithwyr hyn wedi cael eu trin yn warthus, Weinidog, ac mae'n dangos cyflwr gwael hawliau cyflogaeth yn y wlad hon. Mae'n ymddangos bod y cwmni naill ai wedi'i gamreoli'n enbyd neu wedi'i lethu'n fwriadol, lle mae gweithwyr wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ar rota, ac ar yr un pryd, cyflogwyd gweithwyr asiantaeth i wneud gwaith y gweithwyr ar ffyrlo a gallai hynny fod yn gamddefnydd o'r cynllun cadw swyddi. Weinidog, rwyf wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn, ond tybed a fyddwch yn cynnal ymchwiliad i'r hyn sydd wedi digwydd yn y cwmni hwn, i sicrhau na chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei gamddefnyddio ac i ganfod y rhesymau dros ei fethiant sydyn. Rwy'n sicr yn ddiolchgar am ymateb buan eich swyddogion a ddaeth i gyfarfod â mi y diwrnod o'r blaen, a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan undeb Unite i gefnogi eu haelodau.
Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddarpar brynwyr y cwmni hwn, ac yn benodol, pa gymorth y gellir ei roi i'r gweithlu? Weinidog, gwn fod cyfraith cyflogaeth yn fater a gedwir yn ôl, ond a wnewch chi ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, roi cymorth i weithwyr sy'n wynebu triniaeth mor enbyd? Gwn fod Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn y gorffennol, wedi crybwyll y syniad o'r hyn y byddwn yn ei alw'n gronfa gefnogi'r gweithwyr; efallai ei bod yn werth ailedrych ar yr argymhelliad hwn yn yr amgylchiadau economaidd presennol. Felly, tybed a wnewch chi ystyried cefnogi'r gweithwyr yn Rhys Davies ac eraill yn y dyfodol.