Pwysau ar y GIG dros y Gaeaf

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:59, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Lle bynnag y bo'n ymarferol, bydd y GIG yn ymdrechu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer diagnosteg a thriniaethau, yn seiliedig ar flaenoriaeth glinigol ac amseroldeb. Bydd ein GIG yn parhau i asesu risg cleifion ar restr driniaeth weithredol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn unol â chanllawiau clinigol cenedlaethol.