5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:00, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ar haen 4, rydym wedi cyflwyno panel rheoli gwelyau, sy'n cyfarfod yn wythnosol, gan reoli llif cleifion rhwng gofal cymunedol a gofal cleifion mewnol. Mae adolygiad o welyau sy'n briodol i oedran hefyd ar y gweill i'n helpu i ddeall defnydd a sut y gallwn wella llwybrau rhyddhau. Mae tîm sicrhau ansawdd a gwella'r GIG yn rhoi cymorth dwys i'n dwy uned CAMHS i wella llif cleifion ac i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Ac ar lety diogel mewn perthynas â gofal cymhleth, rydym yn parhau i gefnogi ac annog rhanbarthau i ddefnyddio'r cyllid gofal integredig a'r cyllid trawsnewid sydd ar gael drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol.

Rwyf wedi gofyn yn benodol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r byrddau iechyd edrych ar hyn eto i ffurfio argymhellion newydd. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod â'r holl bartneriaid cywir at ei gilydd a gallant ddarparu'r cyfrwng cywir ar gyfer llety preswyl iechyd a gofal cymdeithasol a gomisiynir ar y cyd yn arbennig ar gyfer gofal cymhleth. Er bod gwaith mewn rhai rhanbarthau eisoes yn datblygu, gydag argymhellion ar gyfer modelau gofal preswyl therapiwtig yn dod i'r amlwg ym Mhowys ac yng Nghaerdydd a'r Fro, rydym yn parhau i geisio argymhellion o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r ddarpariaeth hon yn gyflym.

Mae'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn parhau i fod yn sbardun allweddol i welliannau i wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ac rwy'n gyffrous iawn ynglŷn â photensial y fframwaith cymorth cynnar a chymorth estynedig, a byddwn yn sicrhau y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo integreiddio ar draws y system. Rydym am ymgorffori'r fframwaith hwn yn ystod y misoedd nesaf fel ei fod ar waith wrth i dymor y Senedd ddod i ben. Felly, bydd yn barod ym mis Ebrill, a gobeithiwn y caiff ei ymgorffori erbyn yr haf. 

Mae mynd i'r afael â'r canol coll, y soniodd Rhun a Dawn amdano, yn gwbl hanfodol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gorfeddygoli iechyd meddwl bob amser. Yn flaenorol, datblygodd y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, mewn partneriaeth â Barnardo's, ganllawiau pontio a dogfen basbort person ifanc, a diben hyn yw sicrhau nad oes bwlch yn y gefnogaeth rhwng bod pobl yn blant ac yn oedolion. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wella'r broses bontio i bobl ifanc. Rhaid iddynt gael y dewis i symud rhwng gwasanaethau heb fod yn seiliedig ar bwynt penodol oherwydd eu dyddiad geni, ond yn seiliedig ar gyfnod sy'n briodol i'w hanghenion. A byddai Suzy, rwy'n siŵr, yn falch o glywed, ar yr adolygiad o'r canllawiau ynghyd â chanllawiau'r GIG ar y pontio ehangach, nid yn unig mewn perthynas ag iechyd meddwl, ein bod yn disgwyl yr adolygiad hwnnw'n gynnar yn y flwyddyn newydd. 

Mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn hollbwysig, a dyna pam ein bod wedi cryfhau'n sylweddol y gwasanaethau cymorth haen 0 ac 1, gan gynnwys y pecyn cymorth iechyd meddwl ieuenctid a SilverCloud. Gofynnodd Laura Anne Jones am yr hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â chymorth ar-lein, a SilverCloud yw ein hateb i'r ddarpariaeth honno ar gyfer pobl dros 16 oed. Ac wrth gwrs, mae gennym linell gymorth CALL. Rydym hefyd wedi buddsoddi £1.25 miliwn i ymestyn cwnsela mewn ysgolion, gan sicrhau bod cysylltiadau ym mhob awdurdod lleol ar gael ar-lein i bobl nad oeddent yn mynychu'r ysgol yn bersonol. Ac i sôn am bwynt a wnaeth Dawn Bowden am therapïau seicolegol, rwy'n siŵr y bydd yn falch o glywed y bydd yr arweiniad ar ddarparu therapi seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ifanc, Matrics Plant, yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. 

Mae gennym amrywiaeth o ddulliau gweithredu rhanbarthol mewn perthynas â lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio, gan gynnwys cymorth profedigaeth, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i helpu i ymateb i'r materion hyn, ac ochr yn ochr â chyllid iechyd meddwl ehangach, rydym wedi ymrwymo £0.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Fel y mae'r pwyllgor bob amser wedi'i addef, mae addysg yn chwarae rhan hollbwysig yn diwallu anghenion lles plant a phobl ifanc, ac mae'r adroddiad hwn yn cydnabod y cynnydd pendant sydd wedi'i wneud, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae gwaith yn cael ei adeiladu o amgylch y cwricwlwm newydd a'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, sy'n gosod llesiant—fel y clywsoch—wrth wraidd taith y dysgwr, ac roedd yn dda gweld hynny'n mynd drwodd ddoe.

Yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein canllawiau fframwaith ysgol gyfan i helpu ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu eu dulliau ysgol gyfan cyson eu hunain o ymdrin â llesiant. Mae'r Gweinidog Addysg a minnau wedi cytuno ar gyllid mewn egwyddor tan fis Mawrth 2022 i sefydlu arweinwyr gweithredu ysgol gyfan i helpu'r sector i weithredu'r canllawiau er mwyn rhannu gwersi ac ymarfer gorau. Rydym wedi darparu £5 miliwn eleni i gefnogi'r gwaith hwn, gan ein galluogi i wella ac ehangu'r cynllun cwnsela mewn ysgolion, ac ariannu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi cwnselwyr mewn ymyriadau sy'n briodol i oedran. Rydym hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion Cymru i ddatblygu modiwlau dysgu proffesiynol ar gyfer staff ysgolion ar faterion llesiant, ac i hyfforddi athrawon a staff ehangach ar les meddyliol plant. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan David Melding ar y canlyniadau i blant yng ngrŵp cynghori'r Gweinidog. Diolch am bopeth a wnaethoch yn y gofod hwnnw.

Yn olaf, rydym wedi diwygio ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ddiweddar i gefnogi galw sy'n newid ym maes iechyd meddwl o ganlyniad i COVID-19. Mae'r cynllun diwygiedig yn ailddatgan ein hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Rwyf wedi ymrwymo i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen a ddoe cyhoeddais fy mod yn sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd. Bydd y bwrdd yn cyfarfod yn gynnar yn y flwyddyn newydd a bydd yn rhoi mwy o eglurder a sicrwydd i'n rhaglenni gwaith iechyd meddwl a'r ymateb iechyd meddwl i COVID-19.

Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu gwaith caled a'u ffocws parhaus? Hoffwn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'n holl blant a phobl ifanc, a'r ddarpariaeth a'r amddiffyniad gorau i'w hiechyd meddwl a'u lles nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod ein bod wedi gwneud peth gwaith, ond rydym ni hefyd yn cydnabod bod gwaith i'w wneud o hyd. Diolch yn fawr.