– Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Trefn. Rydym yn awr yn ailddechrau gydag eitem 5, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd dros dro. Mae'n ddwy flynedd a hanner ers i mi sefyll yn y Siambr hon i ddweud fy mod yn teimlo'n falch ac yn freintiedig o gael annerch y Senedd ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Ar ddechrau'r ddadl honno, dywedais mai iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc oedd un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, inni fynd i'r afael ag ef fel Senedd. Ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach, gyda phandemig byd-eang yn gefndir i'n dadl heddiw, mae'n gliriach nag erioed fod gennym gyfrifoldeb sylfaenol i gynorthwyo ein plant i fod yn gryf, yn iach yn feddyliol ac i feddu ar y adnoddau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw i'w rhan.
Ddwy flynedd a hanner yn ôl, gwnaeth ein pwyllgor ein hymrwymiad i'r maes hwn yn glir. Galwasom am sicrwydd fod iechyd a lles emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol ddatganedig i Lywodraeth Cymru. Galwasom am newid sylweddol ar frys yn y cymorth a ddarperir i'n plant a'n pobl ifanc, gan ddadlau bod y ddarpariaeth wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir. Galwasom am weithredu llym ym mhen ataliol gwasanaethau, i atal llif problemau iechyd meddwl yn gynharach, ac i atal problemau rhag gwaethygu mewn modd gofidus—a hynny'n ddiangen mewn llawer o achosion. Dywedasom fod angen dull ysgol gyfan, fel rhan o ddull system gyfan, i gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc. Gwnaethom yn glir nad ydym yn barod i ganiatáu i'r mater pwysig hwn gael ei drosglwyddo mewn adroddiad etifeddiaeth, unwaith eto, i bwyllgor olynol yn y chweched Senedd. Nid yw cyrraedd diwedd y Senedd hon gyda chasgliadau 'mae angen gwneud mwy' wedi bod yn opsiwn i ni. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn disgwyl—ac yn haeddu—gwell na hynny.
Felly, sut rydym wedi ceisio cyflawni ein haddewid i'r Siambr hon ac i'n plant a'n pobl ifanc y byddem yn gweithredu? Rydym wedi dilyn ein 28 argymhelliad gwreiddiol, yn rheolaidd ac yn fforensig, dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf. Fe'n cefnogwyd yn y gwaith hwn gan weithwyr proffesiynol ymroddedig, rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r trydydd sector. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, ac i gofnodi fy edmygedd ohonynt. Hebddynt, ni fyddai ein gwaith craffu wedi bod yn bosibl. Yn seiliedig ar eu barn a'u profiadau, gallasom gynhyrchu ein hadroddiad dilynol. Fel rhan o'r gwaith hwn, fe wnaethant asesu cynnydd yn erbyn pob un o'n hargymhellion, ac amlinellu lle roedd angen cymryd camau gweithredu cyn diwedd y Senedd hon. Gwn fod aelodau eraill y pwyllgor yn bwriadu siarad am feysydd penodol, felly fe ganolbwyntiaf yn bennaf ar y prif faterion y gwnaethant ein helpu i'w nodi.
Yn gyntaf oll, er bod newidiadau'n dechrau digwydd, ac er bod pobl yn ymroddedig iawn i wella'r sefyllfa, mae plant a phobl ifanc yn dal i'w chael yn anodd dod o hyd i'r cymorth emosiynol a'r cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnynt. Dywedwyd wrthym nad yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Mae pobl yn cydnabod ei bod yn anodd, a bod y pandemig wedi rhoi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ond credwn fod effaith COVID yn gwneud cynnydd yn fwy hanfodol nag erioed. Mae difrod cyfochrog y pandemig hwn i'n plant a'n pobl ifanc yn golygu bod cyflymder a chamau gweithredu yn y maes hwn yn bwysicach fyth.
Yn ail, rydym angen sicrhau mai newid system gyfan yw ein ffocws. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith sydd wedi'i wneud i ddarparu dull ysgol gyfan, a'r gwaith sylweddol sydd ar y gweill i ddarparu cymorth cynnar a gwell cefnogaeth. Mae'r cynnydd i'w weld a cheir tystiolaeth ohono, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Ond rydym wedi'i gwneud yn glir na fydd dull ysgol gyfan yn unig yn sicrhau'r newid sylweddol sydd ei angen ar ein plant a'n pobl ifanc. O'r dechrau, rydym wedi dweud bod dull system gyfan yn hanfodol i wireddu ein huchelgeisiau yn y maes hwn. Ni all ysgolion wneud hyn ar eu pen eu hunain. Ar y sail honno, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru ehangu cwmpas y grŵp gorchwyl a gorffen cyd-weinidogol, fel bod ei gylch gwaith yn cwmpasu dull system gyfan.
Rwy'n falch o weld bod y Gweinidogion wedi rhoi'r argymhelliad hwnnw ar waith a bod cylch gwaith y grŵp wedi'i ehangu o ganlyniad i'n galwad. Ond ni all ein gwaith ddod i ben yn y fan honno. Er bod cynnydd mewn perthynas ag addysg yn rhoi sicrwydd i ni, rydym yn llawer llai hyderus fod cyflymder y newid ym maes iechyd a llywodraeth leol—gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol—yn ddigonol. Mae'n amlwg i ni, ar yr ochr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, nad yw'r cynnydd wedi bod yn ddigonol, ac rydym yn pryderu'n fawr am hyn.
Er ein bod yn croesawu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chymorth cynnar a chymorth estynedig, mae'n hanfodol fod hyn yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Mae'n amlwg o'r gwaith rydym wedi'i wneud bod llawer o'r plant a'r bobl ifanc sydd mewn gofal argyfwng, neu mewn lleoliadau haen 4 arbenigol, yn rhai a ddisgrifiwn fel y 'canol coll' mewn gwirionedd. Plant a phobl ifanc yw'r rhain na fyddent wedi dirywio pe baent wedi cael cymorth a chefnogaeth gynnar. Nid yw hyn yn ddigon da.
At hynny, rydym yn pryderu'n benodol am yr hyn a ystyriwn yn ddiffyg cynnydd o ran cefnogi plant a phobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed—CAMHS—i symud i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion. Mae ymateb y Llywodraeth yn dweud wrthym fod ei chanllawiau pontio'n cael eu hadolygu, ond o'n gwaith ni, mae'n amlwg nad yw'r canllawiau hyn erioed wedi cael eu gweithredu'n briodol. Credwn fod hyn yn dal i fod yn ormod o waith ar y gweill, sy'n peri pryder o ystyried bod dwy flynedd wedi bod ers i'n hadroddiad dynnu sylw at bryderon sylweddol ynglŷn â hyn.
Yn ogystal, mae gofal argyfwng a haen 4 yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder gwirioneddol. Rydym wedi cael adroddiadau am broblemau sylweddol o ran capasiti'r gweithlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a gwyddom fod problemau wedi parhau yn ystod y pandemig o ran gosod plant a phobl ifanc mewn lleoliadau cleifion mewnol priodol. Mae ein hadroddiad yn glir fod angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â'r ystod o anghenion gofal cymhleth ac anghenion llety diogel sydd gan ein plant a'n pobl ifanc.
Rydym yn parhau i fod heb ein hargyhoeddi gan ymateb Llywodraeth Cymru fod y cynnydd rydym eisiau ei weld yn cael ei wneud, a bod angen cysylltu polisi ac ymarfer yn haen 4 y system. Ar y sail honno, galwaf heddiw ar y Gweinidog i sefydlu mecanwaith ffurfiol i gynllunio'r gwaith hwn, ac i ddod â'r holl bobl berthnasol at ei gilydd i gyflawni'r canlyniadau sydd eu hangen arnom ar draws y pen arbenigol hwn o gymorth.
Rydym hefyd wedi tynnu sylw'n gyson at ein pryder nad yw rhai ffrydiau gwaith, gan gynnwys maes hanfodol cymorth arbenigol, bellach yn rhan o gylch gwaith y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac mae cysylltu â'r rhaglen honno'n gwbl hanfodol.
Mae'r prif fater olaf yr hoffwn dynnu sylw ato'n ymwneud â sut rydym yn trin ein plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae David Melding wedi hyrwyddo eu hachos ers blynyddoedd lawer. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gwneud hynny fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Ni allaf adael i'r ddadl hon ddod i ben heb nodi ei gyfraniad i achos plant a phobl ifanc. Mae llawer o resymau y byddwn yn gweld colli David yn y lle hwn, ond fel Cadeirydd y pwyllgor plant, gallaf yn sicr weld y bwlch mawr y bydd yn ei adael ar ôl yn ein maes diddordeb.
O ran gweithrediad 'Cadernid Meddwl', rhoddwyd rôl bwysig i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Wrth edrych i'r dyfodol, bydd y cydgysylltiad rhwng y grŵp gorchwyl a gorffen cyd-weinidogol, y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant yn hollbwysig. Ni allwn fforddio gadael i unrhyw un o'n plant a'n pobl ifanc gwympo drwy'r bylchau rhwng y grwpiau hyn. I'n plant sy'n derbyn gofal, mae hyn hyd yn oed yn fwy hanfodol; mae'n ddyletswydd arnom i beidio â'u siomi. Ar y sail honno, byddwn yn croesawu arwydd gan y Gweinidog sut y bydd hi, fel y Gweinidog iechyd meddwl newydd, yn sicrhau y bydd y strwythurau sydd wedi'u creu yn parhau i weithio gyda'i gilydd. Fel y dywed ein hadroddiad dilynol, mae ymrwymiad ac arweiniad parhaus gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr sector yn hanfodol i yrru'r agenda hon yn ei blaen a hwyluso'r cydweithio sydd mor angenrheidiol.
Wrth gloi fy sylwadau agoriadol, hoffwn gydnabod gwaith swyddogion a Gweinidogion mewn ymateb i'n hargymhellion 'Cadernid Meddwl'. Er nad wyf yn ymddiheuro am ein dyfalbarhad a'n penderfyniad, rwy'n cydnabod yr ymdrech a'r gwaith y mae'n ei gynhyrchu. Mae craffu adeiladol a chydweithio â'r Weithrediaeth i gyflawni canlyniadau yn ganolog i system bwyllgorau dda ac effeithiol. Mae datblygu dull ysgol gyfan llwyddiannus o ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn effeithiol. Mae'r addewid a wnaeth y Gweinidog Addysg ddoe i gynnwys iechyd emosiynol a meddyliol ar wyneb Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn gwneud yr un peth.
Rwy'n gobeithio y gall ein gwaith barhau i sicrhau canlyniadau pendant ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc rhwng nawr a'r etholiad. Fel Cadeirydd, rwy'n ymrwymo i wneud popeth yn fy ngallu i ysgogi cynnydd yn y maes hollbwysig hwn yn ystod y misoedd sy'n weddill o'r Senedd hon.
Roeddwn eisiau cloi drwy ailadrodd yr hyn a ddywedais pan siaradais â Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddar. Ar ôl araith ar 'Cadernid Meddwl', lle roeddwn wedi pwysleisio pa mor ganolog oedd lleisiau pobl ifanc i'n hadroddiad, dywedais wrthynt sut roedd cynrychiolydd wedi dod ataf a gofyn imi beth fyddai'r bobl ifanc a fu farw drwy hunanladdiad yn ei ddweud pe baent yno y diwrnod hwnnw. Mae hynny wedi aros gyda mi. Yn anad dim, lleisiau'r bobl ifanc nad ydynt gyda ni mwyach a ddylai yrru ein ffocws di-baid ar ddarparu'r cymorth emosiynol a'r cymorth iechyd meddwl y mae ein plant a'n pobl ifanc ei angen ac yn ei haeddu. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lynne. Ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedoch chi am grŵp cynghori'r Gweinidog. Rhaid imi ymddiheuro i'r Aelodau. Dylwn fod wedi rhoi dwy funud lawn ichi ar ôl i'r gloch gael ei chanu, ac ofnaf mai dim ond 20 eiliad a gawsoch. Felly, rwy'n ymddiheuro i'r rhai sydd allan o wynt, ac ni fyddaf yn cosbi unrhyw un a gyrhaeddodd ychydig yn hwyr oherwydd fy nghamgymeriad. Suzy Davies.
Ac am hynny rwy'n hynod ddiolchgar, Lywydd—Gadeirydd, mae'n ddrwg gennyf. Ddoe, tynnodd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood sylw unwaith eto at natur fregus plant sy'n derbyn gofal. Er bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu derbyn i ofal awdurdod lleol i wella eu llesiant, dywedodd fod cyfran fwy ohonynt yn gysylltiedig â throseddau camfanteisio ar blant drwy linellau cyffuriau ac felly maent ymhell o gael eu diogelu'n effeithiol. Mae'n siomedig, felly, mai dim ond un cyfeiriad at blant sy'n derbyn gofal a geir yng nghynllun cyflawni ar iechyd meddwl Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-2022, sef
'sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol...yn hygyrch i blant a phobl ifanc' mewn gofal
'neu sydd ar gyrion gofal.'
Nid wyf yn credu mai dyna'r uchelgais mwyaf y dylid ei adlewyrchu yn yr adroddiad hwnnw.
Ac eto, eleni, roedd Llywodraeth Cymru yn dal i ddisgwyl bod ar y cam o ddatblygu argymhellion ar gyfer gwell integreiddio rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chytuno ar gwmpas ffrydiau gwaith. Beth a ddigwyddodd i'r awgrymiadau yn 'Gwrando. Gweithredu. Ffynnu.', yr adroddiad a gyflwynwyd i grŵp cynghori David Melding? A ble mae'r sylw arbennig i blant sy'n derbyn gofal yn y £15 miliwn sydd wedi mynd i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol? A ydynt wedi dal i fyny hyd yn oed ag anghenion iechyd meddwl plant eto?
Hyd yn oed os ydynt yn parhau i dderbyn gofal am fwy o amser, diolch i'r polisi Pan Fydda i'n Barod, a hyd yn oed os ydynt wedi bod gyda'r teuluoedd maeth mwyaf meithringar ac atgyfnerthol, mae'n anochel y bydd y bobl ifanc hyn yn gweld unrhyw bontio i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn heriol iawn. Ni fydd angen gofal iechyd meddwl ffurfiol ar bob plentyn sy'n derbyn gofal pan fyddant yn iau, ond gallwch weld pam y gallai'r her o symud i fywyd annibynnol fel oedolyn sbarduno neu waethygu iechyd meddwl gwael.
Nid plant sy'n derbyn gofal yn unig sy'n wynebu'r her honno. Siaradais ag etholwr heddiw a oedd yn ofni y byddai eu plentyn sydd yn eu harddegau ac yn awtistig—plentyn a gâi lawer o gariad a chymorth, ac a oedd yn gwneud yn dda iawn mewn ysgol arbenigol—yn ei chael yn anodd iawn ar ôl iddynt orfod symud at wasanaethau cymdeithasol i oedolion. Ac er nad gwasanaethau iechyd meddwl yw'r rheini, roeddent yn poeni y byddai colli system gymorth gyfarwydd y plentyn a cholli cyfrifoldeb rhiant yn golygu y byddai angen cymorth iechyd meddwl ar y person ifanc hwnnw hefyd.
Yn union fel roedd Pan Fydda i'n Barod yn cydnabod mympwy pen-blwydd fel arwydd i newid gwasanaethau, felly hefyd y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc. Clywsom mewn tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' gwreiddiol fod pobl ifanc yn teimlo bod disgwyl iddynt ddod yn oedolion dros nos, a bod symud o CAMHS i wasanaethau oedolion yn brofiad brawychus, fel neidio oddi ar ymyl clogwyn. Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu fod pobl ifanc yn diflannu i dwll du. Dywedodd gweithwyr ieuenctid wrthym fod rhai pobl ifanc yn gweld pethau sylfaenol hyd yn oed yn amhosibl.
Ac oedd, roedd canllawiau ar sut i bontio'n dda yn bodoli bryd hynny ac wedi hynny, ond erys y methiant hanfodol, sef cyflawniad. Ac mae'n bwysig iawn, oherwydd ymhlith y bobl ifanc 18 i 19 oed hynny y gwelwn gyfraddau hunanladdiad yn codi. Roedd effaith y canllawiau, a baratowyd gan Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc bryd hynny, i fod i gael ei hadolygu erbyn y mis hwn. Felly, Weinidog, a wnaethoch chi ddarganfod unrhyw gyflawniad ar ein hargymhellion?
Nid yw'r hyn a glywsom ddwy flynedd yn ddiweddarach—wel, nid yw'r ymgais i symud oddi wrth ddyddiad pontio mympwyol pen-blwydd unigolyn yn ddeunaw oed yn llwyddiannus bob amser. Mae llawer o bobl ifanc yn dal i gael eu trosglwyddo'n awtomatig i wasanaethau i oedolion ar y pen-blwydd hwnnw, ac mae'r anghysondeb a'r diffyg parhad yn golygu bod pobl ifanc yn cymryd cam yn ôl. Er ein bod yn deall y byddai ymestyn CAMHS i 25 oed yn arwain at gostau, beth y mae'n ei gostio i ni a'r person ifanc os nad ydynt yn cael cyfle go iawn i ddiddyfnu eu hunain oddi wrth gymorth blaenorol?
Clywsom hefyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror eleni, a chofiwch, os gwelwch yn dda, fod 'Cadernid Meddwl' wedi'i gyhoeddi ym mis Ebrill 2018, fod ymgynghoriad drafft ar ganllawiau pontio drafft yn dechrau. Yn dechrau—bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach. Y disgwyliad diweddar i fyrddau iechyd fonitro a gwerthuso gweithrediad y canllawiau, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu'r dulliau hynny, adolygiad yr Athro John o achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio yn ystod y pum mlynedd diwethaf, adolygiad sydd i'w groesawu'n fawr—nid wyf yn teimlo bod ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion ar bontio wedi bod yn fater brys, ac roedd angen iddo fod yn fater brys.
Yn y cynllun cyflawni ar iechyd meddwl, nid oes sôn am bontio yn yr adran 'cynnydd hyd yma', ac nid yw hynny'n syndod, oherwydd nid oes unrhyw argymhellion i hyd yn oed ddatblygu'r trefniadau i fonitro'r defnydd o'r canllawiau tan y flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn wedyn. Pam ar y ddaear y mae hyn yn cymryd cyhyd? Roedd canllawiau da eisoes yn 2018, wedi'u gwella gan waith dilynol Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ac eto roeddech yn dal i fod eisiau ei adolygu.
Yn fyr, Weinidog, mae arnaf ofn fod ein hofnau wedi'u gwireddu. Drwy amsugno cyfrifoldeb am iechyd meddwl plant a phobl ifanc i mewn i gynllun ar gyfer pob oedran, mae wedi colli ei flaenoriaeth. Er yr holl waith caled sydd wedi'i wneud—ac rydym yn cydnabod hynny, a'r miliynau a arllwyswyd i mewn i hyn—i bob pwrpas, nid ydym gam ymhellach ymlaen tuag at helpu pobl ifanc i bontio'n ddi-dor, gyda chymorth, i wasanaethau oedolion.
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan yn y ddadl yma ar bwysigrwydd cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae yna sawl blwyddyn wedi pasio bellach ers i'r Centre for Mental Health gyhoeddi adroddiad am wasanaethau iechyd meddwl ar draws y Deyrnas Unedig—adroddiad wnaeth ganfod bod plant a phobl ifanc sy'n wynebu problemau iechyd meddwl yn mynd, ar gyfartaledd, rhyw 10 mlynedd rhwng y problemau yn dechrau datblygu a chael cymorth am y tro cyntaf. Dydy hynny, yn amlwg, ddim yn dderbyniol.
Does yna ddim byd yn newydd, felly, am danlinellu problemau efo gwasanaethau iechyd meddwl. Dyna pam, dwi'n meddwl, fod yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn dweud yn glir iawn, yng ngeiriau aelodau'r pwyllgor, dydyn ni ddim yn barod i adael i'r mater yma gael ei basio ymlaen unwaith eto i bwyllgor arall, efo'r un awgrymiadau ac argymhellion yn cael eu gwneud—bod angen gwneud mwy.
Felly, dwi'n meddwl ei fod o'n beth da iawn, lle mae yna adroddiad beirniadol yn cael ei gyhoeddi fel hyn, fod yna waith dilyn i fyny yn digwydd. Mae hynny'n gwbl allweddol. Mae dim ond gwybod bod yna rai pethau nad ydy pobl ddim yn mynd i ollwng fynd ohonyn nhw yn gallu gyrru gwelliant mewn gwasanaethau. Dwi'n gobeithio bydd pwyllgorau mewn Seneddau yn y dyfodol yn parhau i fonitro hyn hefyd.
Dwi'n mynd i ganolbwyntio am ychydig o funudau ar ddiffyg gwasanaethau i'r canol coll, fel dwi'n ei alw fo—plant sydd ddim cweit yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer cael mynediad at wasanaethau arbenigol, ond sy'n amlwg angen help. Mae hyn wedi bod yn thema gyffredin mewn nifer o adroddiadau dros gyfnod o 20 mlynedd.
Wrth gwrs, ceir rhywfaint o ddarpariaeth—cwnsela mewn ysgolion, er enghraifft. Mae datblygiad iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd yn parhau hefyd. Ond mae'r newid rhwng gwasanaethau ieuenctid ac oedolion, y bylchau mawr mewn gwasanaethau, porthora pobl yn gyson drwy ddweud wrthynt nad ydynt yn ddigon sâl, yn parhau i fod yn broblemau mawr y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy.
Dyna pam y mae Plaid Cymru wedi argymell creu siopau un stop i ieuenctid, ac rydym yn seilio'r rheini ar fodel sy'n ymddangos fel pe bai'n gweithio'n dda iawn yn Seland Newydd. Yn siopau un stop i ieuenctid Seland Newydd, cynigir nifer o wasanaethau gan feddygon, gan nyrsys, cwnselwyr, gweithwyr cymdeithasol, staff ieuenctid, sy'n darparu gofal sylfaenol, cymorth iechyd rhywiol ac atgenhedlu, cymorth iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, cwnsela, rhoi'r gorau i ysmygu, cynllunio teulu, hybu iechyd, gwasanaethau addysg—llu o wasanaethau. Mewn geiriau eraill, maent yn trin ac yn helpu'r unigolyn y maent yn gweithio gyda hwy. Nid ydynt yn patholegu nac yn meddygoli'r unigolyn. Maent yn seiliedig ar fodel cymdeithasol o iechyd meddwl.
Nawr, byddem am sefydlu hybiau i ddarparu'r gwasanaethau cynhwysfawr hyn sy'n canolbwyntio ar ieuenctid, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, mewn un lleoliad yn y gymuned, a byddai 'ieuenctid' yn cael eu diffinio i gynnwys pobl ifanc ac oedolion ifanc, ond yn hollbwysig—a chredaf fod hyn yn bwysig iawn—ni fyddai neb yn cael ei wrthod am nad ydynt yn perthyn i ryw oedran mympwyol a fyddai'n golygu bod rhai pobl yn cael eu gwrthod pan fydd hi'n amlwg fod angen cymorth arnynt. Byddem yn anelu i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl penodol i bobl ifanc nad ydynt, fel y dywedaf, yn ddigon sâl i ofyn am driniaeth seiciatrig ddatblygedig, er enghraifft, ond sy'n sicr angen cymorth. Ond gallant gynnig gwasanaethau eraill i drin y person cyfan mewn modd sy'n briodol i'w hoedran. Er enghraifft, gallai fod cyfle i gydleoli gwasanaethau eraill sy'n ymwneud â chyflogaeth ac addysg arbenigol ac yn y blaen yn y mannau hyn.
Rydym wedi cyfrifo'r gyllideb y credwn fod angen ei neilltuo i wneud hyn. Byddwn yn ymrwymo i wneud hynny, ac rydym yn falch o fod yn wynebu cwestiynau ar y cyllid; mae'n bwysig iawn edrych ar gyllid menter fel hon. Ond dylem ofyn beth yw'r gost ariannol o beidio â chael hyn yn iawn. Beth yw cost defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol gydol oes oherwydd nad oedd gennym wasanaethau ar waith i ymyrryd yn gynnar ac i gefnogi'n gynnar? Rwy'n eich sicrhau y bydd y gost yn sylweddol fwy os na fyddwn yn buddsoddi yn ein pobl ifanc nawr.
A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan gyhoeddwyd yr adroddiad gwreiddiol? A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, Lynne Neagle? Dyma, wrth gwrs, fu fy nhymor cyntaf yn y Senedd, ac rwyf wedi dysgu llawer o'r ffordd y gwelais Lynne yn ymwneud â'r maes pwnc hwn, gydag angerdd, diwydrwydd, ac yn barod i herio grym lle bo angen, i gyd er mwyn ceisio gwelliannau mewn gwasanaethau a darparu cymorth hanfodol i eraill, yn enwedig plant a phobl ifanc. Felly, diolch ichi am hynny, Lynne.
Rwyf am ymdrin â dau faes yn fy nghyfraniad. Yn gyntaf, ac yn rhannol y rhan y mae Rhun newydd ei thrafod, sef y canol coll; ac yn ail, y therapïau seicolegol. Credaf fod angen inni gydnabod y ffaith bod y pandemig wedi cynyddu pryderon pawb ac wedi rhoi ffocws amlwg i'r dasg aruthrol rydym yn dal i'w hwynebu wrth inni ystyried lles ein plant a'n pobl ifanc. Ac fel gyda llawer o faterion rydym wedi craffu arnynt yn yr adroddiad hwn, cafwyd cynnydd, sydd bob amser i'w groesawu, ond mae'r craffu hwnnw hefyd wedi amlygu bod angen cynnydd pellach o hyd mewn nifer o feysydd. Ond yn gyffredinol, rwy'n cytuno â'r Gweinidog addysg yn ei hateb ysgrifenedig i ni, lle mae'n dweud,
'Rwy'n credu y gallwn gytuno bod llawer wedi'i gyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf.'
Felly, yn gyntaf, fe siaradaf am y canol coll, ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth, ac rwy'n cytuno â llawer ohonynt. Yn hytrach, rwy'n credu fy mod am atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedodd y Senedd yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' gwreiddiol yn 2018. Roedd yn dweud
'bod angen gwaith brys i fynd i’r afael â’r prinder (ac mewn rhai achosion absenoldeb) gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ond nad ydynt yn cyrraedd y trothwy i gael cymorth CAMHS'.
Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod ein diweddariad diweddar yn fwy hyderus fod cynnydd wedi'i wneud. Yn ystod tymor y Senedd hon, dylem weld y fframweithiau'n datblygu a phenodi staff i helpu i wreiddio diwylliant dull ysgol gyfan o ymdrin â lles; dull sydd nid yn unig yn gweithio yn ein hysgolion, ond hefyd yn rhwydwaith ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill, wrth inni anelu at gyflawni'r hyn y cyfeiriodd Lynne ato'n gynharach fel y 'dull system gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl a lles ein plant a'n pobl ifanc. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni eu targed ar gyfer gwanwyn 2021, bydd hwnnw'n gynnydd y gallwn yn sicr ei groesawu.
Mae fy ail bwynt yn ymwneud â therapïau seicolegol, ac yn sicr, mae'r pwyllgor o'r farn nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes hwnnw. Ac er ein bod yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru i weithredu ein hargymhellion dilynol ar therapïau seicolegol o ran sicrhau bod ymarferwyr therapiwtig wedi'u hyfforddi'n ddigonol ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc, mae angen i ni weld tystiolaeth o ddatblygiad a gweithrediad cynllun y gweithlu ar gyfer iechyd meddwl a fydd yn cyflawni hyn.
Rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, y bu tarfu ar gynlluniau'r gweithlu a bod oedi hefyd wedi bod mewn perthynas â thueddiadau presgripsiynu oherwydd pwysau'r pandemig. Ond mae'r pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig fod Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n gyflym i ailsefydlu amserlenni ar gyfer y gwaith a ohiriwyd neu y tarfwyd arno gan y pandemig. Yn wir, gall rhywfaint o'r union waith hwnnw, a argymhellwyd gan y pwyllgor yn wreiddiol, roi atebion ynddo'i hun i beth o'r pwysau ychwanegol a fydd yn wynebu'r system pan fyddwn yn dod allan yn araf o gysgod COVID-19, ac yn deall ei effaith ar ein plant a'n pobl ifanc yn llawnach.
Credaf mai'r ymchwiliad sy'n sail i'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a'r newidiadau sy'n digwydd yn y gwasanaethau nawr yw un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y Senedd hon. Ond fel gyda phob newid, rhaid ei ymgorffori a goresgyn y gwendidau a ganfuwyd, gan mai dim ond wedyn y bydd manteision y dull system gyfan o wella iechyd meddwl a lles ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu gwireddu'n llawn. Diolch.
Hoffwn gytuno, wrth gwrs, â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod, Suzy Davies, wedi'i ddweud heddiw, ond hefyd â'r hyn y mae'r Cadeirydd, Lynne Neagle, wedi'i ddweud heddiw. Rwy'n credu eich bod yn arwain ein pwyllgor yn eithriadol o dda, ac mae eich angerdd yn gwbl glir a heintus, ac rydych wedi gwneud llawer iawn, felly diolch yn fawr iawn, o waelod calon, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl ledled Cymru'n cytuno, am y cyfan rydych wedi'i wneud.
Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' yn ôl ym mis Ebrill 2018, gan ddarparu templed uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer diwygio gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Roedd yn adlewyrchu barn y rhan fwyaf o randdeiliaid, ac yn amlinellu cynlluniau i ddod â blynyddoedd o ailstrwythuro mynych i ben.
Rwy'n mynd i ganolbwyntio heddiw ar ofal mewn argyfwng. Ymhlith y canfyddiadau diweddaraf gwelwyd nad oedd cefnogaeth i wasanaethau 24/7 bob amser ar gael ledled Cymru, a bod gorddibyniaeth ar adrannau damweiniau ac achosion brys a'r heddlu i ymateb i bobl ifanc mewn trallod difrifol. Heddiw, ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae pryderon yn dal i fodoli ynghylch diffyg mynediad cyson, 24/7 at gymorth mewn argyfwng ledled Cymru. Mae cleifion ifanc a'u teuluoedd yn siomedig nad ydynt yn gallu cael cymorth ar yr adeg y mae ei angen fwyaf, ac mae gwasanaethau argyfwng yn aml yn canolbwyntio gormod ar oedolion, fel llawer o wasanaethau a grybwyllir heddiw.
Ar y pwynt fod gwasanaethau argyfwng yn canolbwyntio gormod ar oedolion, galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gall gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol gefnogi'r heddlu wrth ymateb i alwadau, a sut y gall timau argyfwng ddarparu hyfforddiant i staff rheng flaen. Gall plant a phobl ifanc mewn trallod deimlo bod eu cyflwr yn cael ei waethygu drwy fod mewn lleoliad oedolion, megis adran achosion brys, a chael eu trin mewn modd ansensitif gan staff. Mae angen gweithredu ar frys i wella hyfforddiant ar gyfer y gwasanaethau rheng flaen hynny, fel eu bod yn darparu ymateb mwy tosturiol i bobl ifanc mewn trallod. Mae angen inni sicrhau hefyd fod gwelyau ysbyty dynodedig i rai dan 18 ar gael i'w defnyddio gan bobl ifanc mewn argyfwng.
Mae'r pwyllgor yn croesawu adroddiadau cadarnhaol o'r cydweithio rhwng yr heddlu a gwasanaethau iechyd meddwl i helpu i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng. Fodd bynnag, mynegodd y pwyllgor ei siom ynghylch y prinder gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y camau sy'n cael eu cymryd i wella gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau. Y llynedd, dywedodd y pwyllgor nad oedd y sefyllfa'n dderbyniol, ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fethu rhoi darlun cywir o sut olwg sydd ar wasanaethau argyfwng 24/7 a gwasanaethau y tu allan i oriau arferol ledled Cymru. Nid yw'n ddigon da. Mae angen inni weld camau'n cael eu cymryd i ddarparu cynllun, gan gynnwys amserlenni a therfynau amser, ar gyfer gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn nodi bod llawer mwy o achosion o broblemau iechyd meddwl i'w gweld ymhlith plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, yn aml o ganlyniad i esgeulustod neu drawma. Mae llawer wedi byw mewn teuluoedd lle maent wedi dod i gysylltiad â salwch meddwl, camddefnyddio sylweddau, trais, camdriniaeth neu esgeulustod. Tynnodd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' sylw at grwpiau eraill a allai fod yn agored i niwed ac a allai fod angen cymorth emosiynol a chymorth iechyd meddwl penodol hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys gofalwyr ifanc, troseddwyr ifanc, pobl ifanc ddigartref, plant du a lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc, rhai sy'n gadael gofal a rhai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae angen rhoi mwy o flaenoriaeth i anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynnar, ac i atal problemau rhag gwaethygu neu ddyfnhau mewn blynyddoedd i ddod. Dywedodd pobl nad yw plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn cael eu hasesu na'u hadolygu'n systematig yn rheolaidd. Mae'n hanfodol fod cynlluniau gofal yn mynd i'r afael ag anghenion lles emosiynol plentyn neu berson ifanc. Hoffwn wybod hefyd sut y mae'r Llywodraeth hon yn gweithio i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein y dyddiau hyn, oherwydd credaf fod honno'n ffordd go iawn o gyrraedd pobl ifanc, ac iddynt allu cael gafael ar wasanaethau'n gyflymach.
Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod angen cymorth brys ar y rhai sy'n profi problemau iechyd meddwl, a thynnodd sylw at ddiffygion gyda chymorth mewn argyfwng a chymorth y tu allan i oriau. Mae'n hanfodol, Weinidog, fod y gwendidau hyn a amlygir yn yr adroddiad yn cael sylw, a'n bod yn cyflawni go iawn dros bobl ifanc gan eu bod yn haeddu hynny. Diolch.
A galwaf ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eu ffocws parhaus ar wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Hoffwn i dalu teyrnged yn benodol i'r Cadeirydd, Lynne Neagle, am ei hymroddiad parhaus i'r mater yma.
Rŷn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o faterion iechyd meddwl yn dechrau cyn i bobl droi'n 18 oed, sy'n amlygu pa mor bwysig yw'r rhaglen waith yma. Rŷn ni i gyd yn pryderu am effaith y pandemig yn y maes yma, a gallaf eich sicrhau fy mod i'n canolbwyntio ar weithio ar draws y Llywodraeth i leihau'r effaith gymaint â phosibl a sicrhau bod y cymorth cywir ar gael pan fydd ei angen.
Mae adroddiad 'Cadernid meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach' yn rhoi cyfle gwerthfawr inni gymryd stoc o'r cynnydd sydd wedi bod. Dwi'n falch bod y pwyllgor wedi cydnabod y gweithredu sydd wedi ei gyflawni gan y Llywodraeth, partneriaid allweddol a rhanddeiliaid. Mae gweithredu'r argymhellion a gytunwyd arnynt yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth yma, ac mae fy mhenodiad yn tanlinellu ein hymrwymiad ac yn darparu ffocws ychwanegol ar lefel weinidogol i wneud hynny.
Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd pendant dros y ddwy flynedd diwethaf, rŷn ni'n cydnabod pryder y pwyllgor ynglŷn â chyflymder y cynnydd gyda rhai o'r camau gweithredu. Dwi wedi cymryd camau i gyflymu'r newid yn barod. Dwi a'r Gweinidog Addysg wedi cytuno i ailffocysu'r grŵp gorchwyl a gorffen o ddull ysgol gyfan i un system gyfan trwy ehangu ei gwmpas ac adolygu'r aelodaeth. Gwnaethom ni gyfarfod yr wythnos yma, ac rydym ni'n bwriadu cwrdd yn fisol i adeiladu momentwm i weithredu gwelliannau i'r system. Ac ar ben hynny, dwi wedi sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu ar CAMHS yn eitem sefydlog ar yr agenda.
Dwi hefyd wedi cwrdd ag is-gadeiryddion y byrddau iechyd ac wedi pwysleisio'r angen iddyn nhw ganolbwyntio ar welliannau CAMHS ac ymgorffori fframwaith cymorth cynnar a chefnogaeth uwch pan fydd hwnnw wedi ei gyhoeddi, ac rydym ni'n disgwyl i hwnna gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill. Byddaf i'n cwrdd â chadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau dull gydgysylltiedig wrth gefnogi anghenion pobl ifanc.
Yn y cyfnod anodd yma, gallaf i hefyd roi sicrwydd y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau yn wasanaethau hanfodol, gan gynnwys, wrth gwrs, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n fframwaith gweithredol yn sicrhau bod byrddau iechyd yn nodi cynlluniau i ateb galw newydd a newidiol am wasanaethau iechyd meddwl o ganlyniad i'r pandemig. Yn hollbwysig, mae angen i fyrddau iechyd sicrhau bod eu cymunedau yn deall sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig os yw modelau gwasanaethau wedi newid oherwydd y cyfyngiadau, a bydd y wybodaeth newydd yn cael ei chynnwys ar holl wefannau'r byrddau iechyd yn ystod yr wythnos nesaf.
Wedi dweud hynny, dwi'n cydnabod y pryderon ynghylch cael gafael ar gymorth. Mae hwn yn faes dwi'n canolbwyntio arno i sicrhau nad oes diffyg cysylltiad rhwng y sicrwydd rŷn ni'n ei dderbyn ac ansawdd y gofal mae plant a phobl ifanc y mae angen cymorth arnynt yn ei brofi. I ddeall y persbectif yna'n well, dwi wedi cwrdd â Chynghrair Iechyd Meddwl Cymru, ac fe fyddaf i'n parhau i wneud hynny. Dwi hefyd wedi cwrdd â Chomisiynydd Plant Cymru, a byddaf i'n cyfarfod â'n grŵp rhanddeiliaid ieuenctid i ddeall yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw o ran iechyd meddwl a chymorth iechyd meddwl.
I droi nawr at crisis care, gofal argyfwng, sydd o ddiddordeb arbennig i Laura Anne Jones, mae gwella gofal argyfwng yn thema allweddol yn 'Cadernid meddwl' ac yn ddiweddar rŷn ni wedi derbyn canfyddiadau'r adolygiad o fynediad brys i wasanaethau iechyd meddwl. Edrychodd yr adolygiad ar ddata ar draws ystod o wasanaethau—111, yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y trydydd sector ac ati—er mwyn deall y galw am wasanaethau yn well. Ac mae'r adolygiad yn amlygu ehangder y materion cymdeithasol a llesiant sy'n sail i lawer o'r galw yma.
Mae'r angen am lwybr amlasiantaethol i ddiwallu anghenion y bobl yn glir. Dyw hyn ddim yn rhywbeth y gall yr NHS wneud ar ei ben ei hun. Mae argymhellion penodol yn yr adolygiad sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc, a byddwn ni'n ffocysu ar eu gwireddu mewn cyfarfod o'r grŵp gorchwyl a gorffen yn y dyfodol. Mae is-grŵp amlasiantaethol wedi ei sefydlu i gydlynu'r ymateb i'r adolygiad, ac fe wnaeth y grŵp hwnnw gyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf. Dwi'n disgwyl gweld cynllun ar sut y bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu cyn y Nadolig. Mae hi werth pwysleisio dydyn ni ddim yn dechrau o'r dechrau, ac mae angen i'r gwaith adeiladu ar y grŵp sicrwydd gofal brys. Rydyn ni eisoes wedi cytuno cynlluniau peilot y gwasanaeth 111 a fydd yn profi'n llwybr defnyddiol i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn argyfwng iechyd meddwl, ac mae hwn i ddechrau ym mis Ionawr.
Dwi wedi ymrwymo i wella cefnogaeth i'r plant a phobl ifanc hynny sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth, ac mae gennym ni ddwy ffrwd waith clir i wneud hyn: gwelliannau i ddarpariaeth haen 4 a'n gwaith ar lety diogel.
Ar haen 4, rydym wedi cyflwyno panel rheoli gwelyau, sy'n cyfarfod yn wythnosol, gan reoli llif cleifion rhwng gofal cymunedol a gofal cleifion mewnol. Mae adolygiad o welyau sy'n briodol i oedran hefyd ar y gweill i'n helpu i ddeall defnydd a sut y gallwn wella llwybrau rhyddhau. Mae tîm sicrhau ansawdd a gwella'r GIG yn rhoi cymorth dwys i'n dwy uned CAMHS i wella llif cleifion ac i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau. Ac ar lety diogel mewn perthynas â gofal cymhleth, rydym yn parhau i gefnogi ac annog rhanbarthau i ddefnyddio'r cyllid gofal integredig a'r cyllid trawsnewid sydd ar gael drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol.
Rwyf wedi gofyn yn benodol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r byrddau iechyd edrych ar hyn eto i ffurfio argymhellion newydd. Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn dod â'r holl bartneriaid cywir at ei gilydd a gallant ddarparu'r cyfrwng cywir ar gyfer llety preswyl iechyd a gofal cymdeithasol a gomisiynir ar y cyd yn arbennig ar gyfer gofal cymhleth. Er bod gwaith mewn rhai rhanbarthau eisoes yn datblygu, gydag argymhellion ar gyfer modelau gofal preswyl therapiwtig yn dod i'r amlwg ym Mhowys ac yng Nghaerdydd a'r Fro, rydym yn parhau i geisio argymhellion o bob rhan o Gymru i ddatblygu'r ddarpariaeth hon yn gyflym.
Mae'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc yn parhau i fod yn sbardun allweddol i welliannau i wasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ac rwy'n gyffrous iawn ynglŷn â photensial y fframwaith cymorth cynnar a chymorth estynedig, a byddwn yn sicrhau y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo integreiddio ar draws y system. Rydym am ymgorffori'r fframwaith hwn yn ystod y misoedd nesaf fel ei fod ar waith wrth i dymor y Senedd ddod i ben. Felly, bydd yn barod ym mis Ebrill, a gobeithiwn y caiff ei ymgorffori erbyn yr haf.
Mae mynd i'r afael â'r canol coll, y soniodd Rhun a Dawn amdano, yn gwbl hanfodol, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gorfeddygoli iechyd meddwl bob amser. Yn flaenorol, datblygodd y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, mewn partneriaeth â Barnardo's, ganllawiau pontio a dogfen basbort person ifanc, a diben hyn yw sicrhau nad oes bwlch yn y gefnogaeth rhwng bod pobl yn blant ac yn oedolion. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wella'r broses bontio i bobl ifanc. Rhaid iddynt gael y dewis i symud rhwng gwasanaethau heb fod yn seiliedig ar bwynt penodol oherwydd eu dyddiad geni, ond yn seiliedig ar gyfnod sy'n briodol i'w hanghenion. A byddai Suzy, rwy'n siŵr, yn falch o glywed, ar yr adolygiad o'r canllawiau ynghyd â chanllawiau'r GIG ar y pontio ehangach, nid yn unig mewn perthynas ag iechyd meddwl, ein bod yn disgwyl yr adolygiad hwnnw'n gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae atal ac ymyrryd yn gynnar yn hollbwysig, a dyna pam ein bod wedi cryfhau'n sylweddol y gwasanaethau cymorth haen 0 ac 1, gan gynnwys y pecyn cymorth iechyd meddwl ieuenctid a SilverCloud. Gofynnodd Laura Anne Jones am yr hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â chymorth ar-lein, a SilverCloud yw ein hateb i'r ddarpariaeth honno ar gyfer pobl dros 16 oed. Ac wrth gwrs, mae gennym linell gymorth CALL. Rydym hefyd wedi buddsoddi £1.25 miliwn i ymestyn cwnsela mewn ysgolion, gan sicrhau bod cysylltiadau ym mhob awdurdod lleol ar gael ar-lein i bobl nad oeddent yn mynychu'r ysgol yn bersonol. Ac i sôn am bwynt a wnaeth Dawn Bowden am therapïau seicolegol, rwy'n siŵr y bydd yn falch o glywed y bydd yr arweiniad ar ddarparu therapi seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ifanc, Matrics Plant, yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig.
Mae gennym amrywiaeth o ddulliau gweithredu rhanbarthol mewn perthynas â lleihau hunanladdiad a hunan-niweidio, gan gynnwys cymorth profedigaeth, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i helpu i ymateb i'r materion hyn, ac ochr yn ochr â chyllid iechyd meddwl ehangach, rydym wedi ymrwymo £0.5 miliwn ychwanegol y flwyddyn i atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Fel y mae'r pwyllgor bob amser wedi'i addef, mae addysg yn chwarae rhan hollbwysig yn diwallu anghenion lles plant a phobl ifanc, ac mae'r adroddiad hwn yn cydnabod y cynnydd pendant sydd wedi'i wneud, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae gwaith yn cael ei adeiladu o amgylch y cwricwlwm newydd a'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, sy'n gosod llesiant—fel y clywsoch—wrth wraidd taith y dysgwr, ac roedd yn dda gweld hynny'n mynd drwodd ddoe.
Yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein canllawiau fframwaith ysgol gyfan i helpu ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu eu dulliau ysgol gyfan cyson eu hunain o ymdrin â llesiant. Mae'r Gweinidog Addysg a minnau wedi cytuno ar gyllid mewn egwyddor tan fis Mawrth 2022 i sefydlu arweinwyr gweithredu ysgol gyfan i helpu'r sector i weithredu'r canllawiau er mwyn rhannu gwersi ac ymarfer gorau. Rydym wedi darparu £5 miliwn eleni i gefnogi'r gwaith hwn, gan ein galluogi i wella ac ehangu'r cynllun cwnsela mewn ysgolion, ac ariannu awdurdodau lleol i recriwtio a hyfforddi cwnselwyr mewn ymyriadau sy'n briodol i oedran. Rydym hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion Cymru i ddatblygu modiwlau dysgu proffesiynol ar gyfer staff ysgolion ar faterion llesiant, ac i hyfforddi athrawon a staff ehangach ar les meddyliol plant. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwaith a wnaed gan David Melding ar y canlyniadau i blant yng ngrŵp cynghori'r Gweinidog. Diolch am bopeth a wnaethoch yn y gofod hwnnw.
Yn olaf, rydym wedi diwygio ein cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' yn ddiweddar i gefnogi galw sy'n newid ym maes iechyd meddwl o ganlyniad i COVID-19. Mae'r cynllun diwygiedig yn ailddatgan ein hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Rwyf wedi ymrwymo i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen a ddoe cyhoeddais fy mod yn sefydlu bwrdd cyflawni a throsolwg 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' y Gweinidog i sicrhau bod hyn yn digwydd. Bydd y bwrdd yn cyfarfod yn gynnar yn y flwyddyn newydd a bydd yn rhoi mwy o eglurder a sicrwydd i'n rhaglenni gwaith iechyd meddwl a'r ymateb iechyd meddwl i COVID-19.
Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu gwaith caled a'u ffocws parhaus? Hoffwn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'n holl blant a phobl ifanc, a'r ddarpariaeth a'r amddiffyniad gorau i'w hiechyd meddwl a'u lles nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod ein bod wedi gwneud peth gwaith, ond rydym ni hefyd yn cydnabod bod gwaith i'w wneud o hyd. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor i ymateb i'r ddadl. Lynne Neagle.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl am eu cyfraniadau? Fe geisiaf ymateb yn yr amser sydd gennyf i rai o'r prif bwyntiau a wnaed.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chyfraniadau a'i phwyntiau da iawn am blant sy'n derbyn gofal? Yn ein hymchwiliad gwreiddiol, mae'n debyg mai'r dystiolaeth a gawsom ar blant sy'n derbyn gofal gan benaethiaid gwasanaethau plant yng Nghymru oedd un o'r sesiynau tystiolaeth mwyaf damniol y bu'n rhaid i mi eistedd drwyddynt erioed. Mae'n destun pryder fod angen inni wneud cymaint o gynnydd yn y maes hwn o hyd, ac mae'n arbennig o bwysig ein bod yn clywed gan y Gweinidog sut y bydd y cyswllt hwnnw'n gweithio gyda grŵp cynghori'r Gweinidog, y grŵp gorchwyl a gorffen a'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, yn enwedig gan fod David yn gadael y Senedd. Diolch, Suzy, am y pwyntiau ar bontio; mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael hynny'n iawn ac yn gwneud cynnydd brys yn y maes hwn. Credaf fod y problemau a gawsom gyda phontio yn symptom o'r ffaith ein bod bob amser yn rhy barod i ffitio plant i mewn i wasanaethau, yn hytrach na ffitio gwasanaethau o gwmpas y plant a'r bobl ifanc, ac mae angen i hynny newid.
A gaf fi ddiolch i Rhun am ei gyfraniad ar y canol coll? Mae'n bwysig cydnabod, pan soniwn am y canol coll, mai hwy yw'r grŵp mwyaf o bell ffordd o blant a phobl ifanc y mae angen inni eu cyrraedd. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o deuluoedd dros y blynyddoedd, ac wedi cyfarfod ag ychydig iawn lle mae gan blentyn salwch meddwl y gwnaed diagnosis ohono, ond llawer iawn lle mae plant a phobl ifanc yn profi trallod difrifol. Gwnaeth Rhun bwyntiau am argymhellion Plaid Cymru ar gyfer siopau un stop. Credaf mai lle rwy'n sicr yn cytuno ag ef yw pwysigrwydd y dull 'dim drws anghywir', sy'n rhywbeth y mae'r comisiynydd plant wedi bod yn ei hyrwyddo hefyd. Rydym eisoes yn gweld ymarfer da mewn lleoedd fel Gwent, lle mae pob atgyfeiriad yn mynd drwy banel, a cheir hyd i gymorth i'r person ifanc. Nid oes cwestiwn o ddweud wrthynt nad ydynt yn cyrraedd y trothwy.
A gaf fi ddiolch i Dawn am ei chyfraniad, hefyd ar y canol coll, sy'n faes hollbwysig? Ond hefyd am dynnu sylw at bwysigrwydd therapïau seicolegol, sydd wedi bod yn bryder hirsefydlog i'r pwyllgor, nid yn unig yn y maes hwn, mewn gwirionedd—rydym hefyd wedi mynegi pryderon mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol, a gwn fod y pwyllgor iechyd wedi codi hyn droeon hefyd. Mae'n dda clywed bod Matrics Plant yn cael ei gyhoeddi'n fuan, a bydd y pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed cynlluniau'r gweithlu a fydd yn cefnogi datblygiad y gwaith hwnnw, oherwydd mae'n hollbwysig.
Diolch am eich geiriau caredig, Laura, ac am eich cyfraniad, ac am dynnu sylw at ofal mewn argyfwng. Yn rhy aml, mae'r bobl ifanc sy'n mynd i sefyllfa o argyfwng mewn gwirionedd yn bobl ifanc y 'canol coll', na fyddent wedi cyrraedd y sefyllfa honno pe baent wedi cael y gefnogaeth yn gynharach. Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ailadrodd ei hymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater hwn, a bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio ar hynny, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud, serch hynny, yw ei bod yn hanfodol fod yr atebion a welwn yn atebion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac nad ydym yn ceisio gwasgu plant a phobl ifanc i ffocws oedolyn ar ofal mewn argyfwng.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad, a chydnabod yn amlwg ei bod yn ddyddiau cynnar? Croesawn y ffaith bod Gweinidog ymroddedig gennym nawr i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y materion hyn. Maent yn faterion dyrys a chymhleth, megis y materion gofal cymhleth y sonioch chi amdanynt yn eich ymateb, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hyn, ac ni allwn eu gadael i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Rhaid cael disgwyliad clir iawn gan Lywodraeth Cymru y byddant yn cyflawni hyn nawr, fel y gwnaeth Powys. Rhaid gwneud hynny'n gyson ledled Cymru gyfan. Cyfeiriodd y Gweinidog hefyd at y cynnydd sy'n cael ei wneud yn y ffrwd waith cymorth cynnar a chymorth estynedig, sy'n sicr i'w groesawu'n fawr, dan arweiniad gwych Dr Liz Gregory o Went. Edrychwn ymlaen at weld hynny'n cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl.
Wrth gloi, a gaf fi ddiolch felly i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? A dim ond ailadrodd fy ymrwymiad ac ymrwymiad y pwyllgor i barhau i ysgogi newid yn y maes hwn. Yn y 21 mlynedd y bûm yn y Senedd, rydym wedi trafod y diffygion yn y maes gwasanaeth hwn yn gyson, ac rwy'n gwbl benderfynol y byddwn, erbyn inni gyrraedd diwedd y Senedd hon, mewn sefyllfa lle mae pethau'n well o lawer, nid yn unig ym maes addysg, ond ar draws y system gyfan sydd mor hanfodol i'n plant a'n pobl ifanc. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Dwi ddim yn gweld na chlywed gwrthwynebiad, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.