Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Mynegodd tystion bryderon difrifol am y gweithlu yn y sector pwysig hwn mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae gennym unigolion medrus iawn a fydd yn ei chael yn hawdd dod o hyd i waith arall, ac a allai gael eu colli'n barhaol i sector y Gymraeg. Tynnodd yr Urdd sylw at y broblem fod gweithwyr ieuenctid cymwysedig a allai weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn werth eu pwysau mewn aur, ond gallant weithio drwy gyfrwng y Saesneg hefyd wrth gwrs, a gallant hefyd weithio dros y ffin. Maent yn pryderu'n fawr na allant gadw'r gweithlu hwnnw.
Agwedd hanfodol arall y tynnodd tystion sylw ati oedd y ffaith bod y sefydliadau a'r mudiadau hyn yn aml yn darparu swyddi o ansawdd da mewn cymunedau lleol lle gall fod yn anodd dod o hyd i waith da, a'u bod yn chwarae rhan bwysig yn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol. Am y rheswm hwn, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod swyddi sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru yn ganolog i'w chynllun adferiad economaidd.
Clywsom lawer gan dystion am effaith gwaith yn mynd ar-lein, a chafwyd llwyddiannau enfawr. Cynhaliodd yr Urdd, yn lle'r Eisteddfod go iawn, berfformiadau o gartrefi a gerddi cystadleuwyr. Cymerodd saith mil o bobl ran ac roedd 27 awr o ddarlledu. Aeth Tafwyl, ein gŵyl boblogaidd yng Nghaerdydd, ar-lein unwaith eto a chyrraedd cynulleidfa fyd-eang o 8,000 o bobl. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod AmGen, yn gyflawniad anhygoel—360,000 o wylwyr rhyngwladol ar draws y byd, a chreodd Merched y Wawr bodlediadau a gafodd 10,000 o wrandawyr yn eu chwe wythnos gyntaf.
Nawr, roedd hyn yn gyflawniad enfawr yn wir, ond mae yna broblemau. Nododd tystion nad oes gan rai pobl sgiliau digidol, ac roedd Merched y Wawr yn cynnal rhaglenni i geisio annog hynny. Mae hynny'n anodd iawn gyda chadw pellter cymdeithasol, wrth gwrs. Mae problemau gyda mynediad at offer ac offer priodol, yn ogystal â gwybod sut i'w ddefnyddio ac wrth gwrs, problem barhaol mynediad at fand eang wrth gwrs, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohoni, sy'n arbennig o amlwg mewn cymunedau gwledig. Wrth gwrs, y cymunedau gwledig hynny yw llawer o'n cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol.
Dyna pam rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chynllun technoleg iaith Gymraeg, gan ystyried y llwyddiannau ond gan edrych hefyd ar yr hyn sydd angen ei wneud nawr. Ac rydym wedi argymell y dylid sicrhau bod cyllid a hyfforddiant ar gael i sector y Gymraeg er mwyn sicrhau y gellir adeiladu ar y llwyddiannau digidol y maent wedi'u cyflawni, a bod eraill yn gallu cael mynediad at hynny.
Roedd tystion yn glir, serch hynny, er gwaethaf y cyflawniadau ar-lein, nad yw gwaith ar-lein yn gwneud y tro yn lle pethau eraill. Clywsom bethau da iawn am nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg ar-lein, ond daw adeg pan fydd y bobl hyn am ddefnyddio'r Gymraeg honno wyneb yn wyneb gyda phobl go iawn. Roedd y sefydliadau i gyd yn glir eu bod am ddychwelyd i ddarpariaeth wyneb yn wyneb, ac mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu cynnal drwy'r cyfnod anodd hwn fel y byddant yno. Mae'r pwyllgor yn unfrydol ac yn teimlo'n gryf iawn am hynny. Ni allwn ganiatáu i'n sefydliadau hanfodol gael eu gwanhau'n derfynol.
Mae'n ddiddorol ac nid yw'n syndod fod ein canfyddiadau a'n hargymhellion yn cael eu hadlewyrchu yng nghanfyddiadau is-grŵp cyngor partneriaeth y Gymraeg a oedd yn edrych ar effaith COVID ar grwpiau cymunedol Cymraeg eu hiaith. Ac edrychaf ymlaen at ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i'w hargymhellion yn ogystal ag i'n hargymhellion ni.
Lywydd, efallai mai dyma fydd fy nghyfle olaf i siarad yn y Siambr hon fel Cadeirydd dros dro y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Mae wedi bod yn fraint enfawr i wasanaethu ein Senedd yn y rôl hon, ac rwyf am fynegi fy niolch i fy nghyd-Aelodau sydd wedi bod yn gymorth mawr ac yn gefnogol, ac i bawb sydd wedi rhoi tystiolaeth. Ac yn arbennig, hoffwn ddiolch i'n staff hynod sydd wedi gwneud gwaith rhagorol, yn ein galluogi i graffu'n effeithiol ar y Llywodraeth drwy'r cyfnod anodd hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff y Comisiwn, Lywydd. Mae'n rhyfeddol sut y maent wedi gallu ein cael ar-lein a'n galluogi i weithredu fel Senedd ar adeg pan fyddem wedi meddwl efallai y byddai hynny'n amhosibl. Edrychaf ymlaen at groesawu Bethan Sayed yn ôl i'w rôl fel Cadeirydd yn y flwyddyn newydd, ac at barhau i wasanaethu fel aelod o'r pwyllgor. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma, ac at ymateb.