6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith y pandemig ar y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:26, 16 Rhagfyr 2020

Fel mewn llawer o feysydd eraill, mae'r pandemig wedi dwysáu problemau a oedd yn bodoli ymhell cyn i'r pandemig daro, a dydy'r Gymraeg ddim yn eithriad, fel y mae'r adroddiad yma'n ei ddangos, yn anffodus. Darlun ansicr sydd yna am ba mor gadarn fydd dyfodol y Gymraeg. Mae'r argymhellion gan yr is-grŵp ar gynyddu defnydd y Gymraeg, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog heddiw, yn cadarnhau hynny ac yn codi cwestiwn ar wydnwch cymunedau Cymraeg a gwydnwch a digonolrwydd yr isadeiledd sydd yn ei le yn genedlaethol i gynnal ac adfywio'r Gymraeg yn wyneb yr holl heriau yma.

Nid yn unig effeithiau'r pandemig sydd yn bygwth ffyniant y Gymraeg, ond mae Brexit yn gwneud hynny hefyd. Fe gynahliwyd asesiad ar effaith ddeuol COVID a Brexit ar y Gymraeg, gan edrych ar bethau fel y farchnad dai gan y Cwnsler Cyffredinol. Mae'r asesiad a'r argymhellion y mae Gweinidog y Gymraeg wedi'u cyhoeddi heddiw yn fwy cul eu ffocws ar effaith y pandemig ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Mi fyddai'n dda deall beth ydy'r berthynas rhwng y ddau asesiad a rhwng y ddau adroddiad, ac yn bwysicach, mae'n debyg, gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw; beth fydd yn digwydd i argymhellion a chasgliadau'r asesiadau yma. Ac yn bwysicach na hynny, mae angen cynllun gweithredu i wynebu'r gyflafan sydd, o bosib, yn wynebu'r Gymraeg, ac mae angen bod yn glir pwy, o fewn y Llywodraeth, fydd yn arwain ar hynny.

Roedd y Llywodraeth yn barod iawn i dorri cyllidebau'r Gymraeg ar ddechrau'r pandemig, ond mae'n rhaid iddi hi fod yr un mor barod rŵan i weithredu ar yr holl dystiolaeth yma ac i roi arian yn ôl yng nghyllidebau'r Gymraeg, yn union fel y mae adroddiad y pwyllgor yn galw amdano fo. Roedd cyllidebau'r Gymraeg yn annigonol cyn y pandemig, ac mi hoffwn i roi ar y cofnod pa mor bryderus ydy'r newydd am ymosodiad seiber ar Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Torrwyd cyllideb swyddfa'r comisiynydd yn galed flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac fe rybuddiwyd yn 2016 bod angen buddsoddi yn systemau'r sefydliad er mwyn eu diogelu. Yn ôl dwi'n ei ddeall, oherwydd yr ymosodiad yma, mae gweithgareddau'r corff ar stop, i bob pwrpas, felly mae angen datganiad brys gan y Llywodraeth ar y sefyllfa a phob cefnogaeth i'r comisiynydd, yn ariannol ac fel arall, i adfer y sefyllfa, yn enwedig oherwydd diffyg ariannu dros nifer o flynyddoedd.

I gloi, un neges allweddol yn yr adroddiad i'r Llywodraeth ydy y dylai swyddi sy'n cefnogi hyrwyddo'r Gymraeg ledled Cymru fod yn ganolog i'w chynllun adfer ar gyfer yr economi. Ac, wrth gwrs, mi ddylai holl gynlluniau'r Llywodraeth gefnogi creu miliwn o siaradwyr, ond dwi ddim yn dal fy ngwynt o ystyried bod swydd y cyfarwyddwr addysg, o bob swydd—pennaeth adran addysg Llywodraeth Cymru—swydd a fydd yn greiddiol i yrru'r strategaeth miliwn o siaradwyr, bod hon wedi cael ei hysbysebu heb ofyn am unrhyw sgiliau yn y Gymraeg. Mae angen i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog gymryd gafael yn y sefyllfa yma ar frys. Hoffwn i ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad, a dwi hefyd yn ategu sylwadau David Melding yn diolch i Helen Mary Jones am ei harweiniad cadarn. Ond dwi hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio efo Bethan pan ddaw hi yn ôl. Diolch yn fawr.