Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Mae bwyd yn bwysig mewn cymaint o ffyrdd: iechyd a lles, ansawdd bywyd, ein heconomi a'n hamgylchedd, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ac yn ein hysgolion yn wir. Felly, roedd yn dda clywed y Prif Weinidog, yn ei gwestiynau ddoe, yn egluro ymrwymiad ei Lywodraeth i fynd i'r afael â phrydau ysgol ac ansawdd a sicrhau darpariaeth. Ac roedd yn eithaf clir wrth wneud hynny, onid oedd, ei fod yn dangos bod cymdeithas yn gweld gwerth addysg. Mae'n gwneud datganiad pwerus iawn i'n pobl ifanc, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar yr ymrwymiad hwnnw. Mae'n dda gweld canlyniadau ymarferol hynny—yn ystod y pandemig, er enghraifft, parhau i gael prydau ysgol am ddim pan oedd ysgolion ar gau ac yn ystod y gwyliau, a lansio ymgyrch ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi sylw i'r ffaith bod nifer sylweddol o bobl nad oeddynt yn hawlio prydau ysgol am ddim er bod ganddynt hawl iddynt—tua 25 y cant. Ond oes, mae llawer mwy i'w wneud.
Yn ffodus, mae gennym ymgyrchoedd cryf dros gynnydd gan y gynghrair gwrthdlodi a'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant ymhlith eraill. Mae ymchwil yr olaf yng Nghymru yn dangos bod mwy na hanner y plant sy'n byw mewn tlodi heb fod yn gymwys i gael cymorth. Felly, mewn dosbarth o 25, bydd saith o blant yn byw mewn tlodi ac ni fydd pedwar o'r rheini'n gymwys. Ceir bron i 6,000 o blant nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU ar statws mewnfudo, ond diolch byth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod COVID-19.
Ac mae'n dda gweld y rhai sydd wedi cael llwyddiant ac enwogrwydd yn defnyddio eu proffil er lles pawb. Mae Marcus Rashford yn enghraifft wych. Mae deiseb ei dasglu tlodi bwyd ar y materion hyn wedi casglu dros 1 filiwn o lofnodion. A gwelwn o waith Prifysgol Essex fod prydau ysgol am ddim i bawb yn y cyfnod sylfaen wedi arwain at fwy o bobl yn manteisio arnynt, wedi helpu teuluoedd gyda chostau byw ac wedi helpu i fynd i'r afael â gordewdra, lefelau presenoldeb gwael a'r bwlch cyrhaeddiad.
Mae COVID-19 a'r tebygolrwydd y bydd prisiau'n codi yn sgil Brexit yn gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim ac mae wedi ymrwymo i adolygu trothwyon incwm. Credaf y dylid adeiladu ar hyn drwy waith ar ehangu'r darpariaeth ymhellach, edrych ar y cyfnod sylfaen a'r holl addysg cyn-16, gwneud trefniadau cyfredol ar gyfer gwyliau ysgol yn barhaol ac i'r rheini nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, ac edrych ar y materion ehangach y mae pobl wedi sôn amdanynt—sut y gellir dod o hyd i fwyd lleol o safon i'n plant ysgol i gynorthwyo gyda bwyta'n iach ac wrth gwrs, i helpu'r economi leol a'n hamgylchedd.
Mae'r materion hyn sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim yn cyffwrdd â llawer o'r pethau pwysicaf y gallwn eu gwneud yn ymarferol, fel Llywodraeth Cymru, yma yng Nghymru, i greu'r math o wlad rydym am ei gweld. Felly, gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y ddadl hon heddiw, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr er mwyn gwneud y cynnydd pellach sydd ei angen.