Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 16 Rhagfyr 2020.
Diolch, Gadeirydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant. Yn gyntaf oll, a gaf fi ymddiheuro i Blaid Cymru am orfod cynnwys gwelliant 'dileu popeth'? Nid wyf yn hoffi gwneud hynny, ond roedd hi'n amhosibl datglymu'r rhannau o'r cynnig roeddem yn cytuno i ryw raddau â hwy a'r rhai nad oeddem yn cytuno â hwy. Mae'r hyn y ceisiasom ei gadw ym mhwynt 4(b) ein gwelliant. Credaf fod rhywbeth i'w ddweud am hawl i gael cinio ysgol am ddim i'r plant y mae eu hamgylchiadau y tu allan i'r meini prawf presennol oherwydd argyfyngau penodol. Os ydych yn fenyw sy'n dianc gyda'i phlant rhag trais domestig, neu os ydych yn rhiant y mae eich iechyd meddwl gwael eich hun wedi eich atal yn amlwg rhag cymryd rhan mewn proses i'ch troi allan neu i hawlio eich budd-daliadau, neu os oes oedi hyd yn oed o ran cael budd-daliadau—ac rwy'n siŵr y bydd enghreifftiau eraill—efallai na ddylech orfod poeni hefyd am ddibynnu ar ddisgresiwn rhywun er mwyn i'ch plentyn allu bwyta, ac os caiff y bwyd hwnnw ei gaffael yn lleol ac yn iach, gorau oll.
Rydym hefyd wedi cydnabod yn ein gwelliant fod rhai teuluoedd na fyddent efallai wedi cael trafferth mewn amgylchiadau arferol i dalu am fwyd eu plant wedi ei chael yn anos yn ddiweddar, ac er nad yw wedi'i nodi—efallai y dylwn fod wedi'i gynnwys, mewn gwirionedd—rydym yn cefnogi ymestyn darpariaeth cinio ysgol am ddim gan Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnodau gwyliau tra byddwn ynghanol y pandemig, gan helpu i ddiwallu anghenion plant sydd newydd ddod yn gymwys i gael ciniawau ysgol am ddim yn ogystal â'r rhai sydd eisoes â hawl. Rwy'n credu bod hynny wedi bod yn werthfawr iawn tra'n bod ni i gyd yn wynebu'r cythrwfl hwn. Ond ni ddylai hynny lithro'n dawel i barhau am byth, a dyma lle rydym yn dechrau dilyn llwybr gwahanol i'r cynnig i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb.
Clywais y drafodaeth rhwng y Prif Weinidog ac Adam Price ddoe, a chlywais yr adroddiad a roddwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn lansiad adroddiad cymdeithas sifil Cymru yr wythnos diwethaf i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn—diolch, Helen Mary—a byddem yn cytuno bod plant yn teimlo'n dda ac yn dysgu'n well os gofalir yn dda am eu maeth. A dyma'r prif reswm dros gefnogi mesurau sy'n sicrhau y gall plant o deuluoedd tlotach gael prydau ysgol am ddim—cinio a brecwast—ond os ydych yn gweithio, ac yn ennill incwm cymedrol hyd yn oed, ei brif bwrpas yw eich helpu i gymryd cyfrifoldeb dros ofalu amdanoch chi eich hun a'ch teulu.
Dylai lle'n union i dynnu'r linell rhwng talu neu beidio â thalu am brydau ysgol eich plant fod yn agored i'w adolygu bob amser yn fy marn i. Ond mae rhoi'r cyfrifoldeb yn barhaol ar ysgwyddau'r wladwriaeth yn cael gwared ar reddf greiddiol a dwfn iawn ac yn mynd i wraidd bod yn rhiant. Ni ddylai fod unrhyw stigma o gwbl ynghlwm wrth fod angen pryd ysgol am ddim i'ch plentyn, ond os gallwch dalu amdano, fe ddylech wneud hynny, a'r rheswm na allwn gefnogi gwelliant sy'n dderbyniol fel arall gan Lywodraeth Cymru yw'r ymrwymiad parhaus i ddarparu brecwastau am ddim i bawb. Ceir teuluoedd lle nad oes gan blant hawl i gael cinio ysgol am ddim sydd naill ai'n bwydo eu plant gartref cyn iddynt adael neu sy'n gallu talu am frecwast pan fydd eu plentyn yn cael ei ollwng cyn i'r ysgol ddechrau. Gadewch iddynt gyfrannu at gost hynny os oes angen. Mae cyfrifiad 2020 yn dangos bod 61,389 o ddisgyblion a myfyrwyr wedi cael brecwast am ddim yn yr ysgol, ac eto dim ond 12,564 ohonynt—hynny yw tua un rhan o bump—o'r rheini oedd yn gymwys i gael ciniawau ysgol am ddim.
Yr un yw'r dadleuon yn y bôn â'r rhai yn erbyn presgripsiynau am ddim, ac mae'n gyfle i dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith drist barhaus ein bod yn dal i fethu creu'r amgylchedd yng Nghymru sy'n meithrin twf mewn swyddi mwy cynaliadwy sy'n talu'n well ac sy'n cynnig sicrwydd ariannol i bobl, yn enwedig menywod, er gwaethaf cyllid gofal plant. Mae'r pandemig wedi amlygu pa mor fregus oedd ein ffigurau cyflogaeth gwell, gyda thwf mwy serth mewn cyflogaeth yn y tri mis diwethaf nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Fel y dywed Ymddiriedolaeth Trussell eu hunain, mae'n cymryd mwy na bwyd i roi diwedd ar newyn. Felly, mae pob un ohonom yn anesmwyth ac yn poeni bod tlodi plant mor ystyfnig, ond mae angen i Lywodraethau gydweithio i gynyddu ffyniant addysgol, economaidd a chymdeithasol, nid gweithredu fwyfwy in loco parentis.
Yn olaf, rwy'n credu y gallai fod yn syndod efallai i rai Aelodau y gall disgyblion chweched dosbarth fod â hawl i gael prydau ysgol am ddim pan nad oes hawl o'r fath gan eu grŵp cyfoedion mewn addysg bellach, ac rwy'n siŵr ei fod yn ymwneud â strwythurau ariannu, ond roedd y cynnig gwreiddiol yn ymwneud â hawl yn disodli disgresiwn, ac mae'n anodd gweld pam, felly, os na allwn ddod o hyd i hawl gyfartal i bobl ifanc 16 i 18 oed. Fel Ceidwadwyr Cymreig, gwelwn rinwedd ymestyn yr hawl i hyfforddiant addysgol tan y bydd myfyriwr yn 18 oed os nad ydynt mewn gwaith—sydd ei hun yn gam tuag at fynd i'r afael â thlodi—ac mae'n dilyn y dylai hynny fod yn seiliedig ar gymorth cyfartal. Diolch.