7. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 16 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:00, 16 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae prydau ysgol am ddim yn ymwneud â mwy na bwydo plant llwglyd—maent yn ymwneud â mynediad at addysg, gallu plant i ganolbwyntio mewn gwersi, a sicrhau lles, iechyd a chyrhaeddiad. Mae'r pandemig rydym i gyd yn byw drwyddo wedi ein gorfodi i wynebu llawer o anghyfiawnderau sy'n rhan mor annatod o'n cymdeithas fel eu bod wedi dod i ymddangos yn endemig. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, ac fel y mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi cyfrifo, nid oes mwy na'u hanner yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim oherwydd diffygion yn y meini prawf cymhwysedd a phrofion modd dideimlad. Mae'n anghyfiawnder ar ben anghyfiawnder—plant sy'n byw islaw'r llinell dlodi nad ydynt yn gymwys i gael cymorth er hynny. Byddai ein cynnig fel y'i nodir yn unioni hyn drwy ymestyn y cymhwysedd i bob plentyn o deuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol, neu deuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Yn hollbwysig, byddem yn gwneud hyn fel cam cyntaf tuag at ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb, i ddysgu'r gwersi gan wledydd fel y Ffindir a sicrhau bod malltod cywilyddus plant sy'n rhy llwglyd i ddysgu yn cael ei ddiddymu am byth.

Oherwydd nid yw prydau ysgol yn dechrau ac yn gorffen gyda'r pryd bwyd. Maent yn creu profiadau a rennir, maent yn creu agosrwydd, yn atal stigma a chywilydd. Maent yn lleihau straen i blant a theuluoedd ac yn hyrwyddo datblygiad emosiynol a chorfforol plant. Mae plant sy'n llwglyd yn fwy tebygol o ddioddef afiechydon cronig, gorbryder ac iselder, ac maent yn fwy tebygol o fynd ymlaen i ddioddef clefydau fel canser, diabetes a chlefyd y galon. Dyna'r effaith y mae newyn gwanychol yn ei chael.

Wrth gwrs, mae prydau ysgol am ddim wedi bod yn uchel ar yr agenda ledled y DU yn ddiweddar oherwydd ystyfnigrwydd Llywodraeth Lloegr i ddarparu prydau yn ystod gwyliau ysgol. Yn y dadleuon hynny yn San Steffan, dangosodd rhai ASau Ceidwadol ochr hyllaf eu gwleidyddiaeth. Dywedodd un AS nad oedd yn credu mewn gwladoli plant, fel pe bai cymryd y cam sylfaenol o sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn llwglyd yn gyfystyr â dweud bod y Fyddin Goch wrth y drws.

Gadeirydd, roedd hi'n arfer bod yn bosibl anfon plant i weithio fel glanhawyr simneiau. Roedd hi'n arfer bod yn bosibl anfon plant i weithio o dan y ddaear. Dim ond drwy ddeddfwriaeth gan ddechrau gyda Deddf y pyllau glo yn 1842 y rhoddwyd y gorau i hynny, Deddf a olygai mai dim ond bechgyn hŷn na 10 oed a gâi weithio yn y pyllau glo. Mae'n ymddangos yn farbaraidd i ni nawr, ond roedd yn gam pwysig. Pan fydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl arnom, tybed pa mor farbaraidd fydd hi'n ymddangos iddynt hwy ein bod yn caniatáu i blant fynychu dosbarthiadau gyda'u stumogau'n wag. Mae Deddf 1842 wedi golygu bod y wladwriaeth, ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ysgwyddo cyfrifoldeb dros les plant. Mae'n gam bach o hynny i dderbyn bod gan y Llywodraeth ddyletswydd i atal plant rhag newynu. Gadeirydd, mae llawer o feysydd mewn gwleidyddiaeth lle bydd pleidiau'n anghytuno—masnach, trethiant, targedau. Ond ceir llinell sylfaen o weddusrwydd, neu fe ddylai fod. Dylai fod bar na ddylem byth suddo oddi tano. Dylai sicrhau bod pob plentyn yn cael ei amgylchynu gan gymorth a thosturi a'i fwydo fod yn llawer uwch na'r bar hwnnw. Dylai unrhyw un sy'n anghytuno archwilio eu cydwybod.

Cafwyd dadl bwysig, y cyfeiriwyd ati eisoes, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, pan gyfeiriodd y Prif Weinidog at bamffled o'r 1940au am brydau ysgol o dan y pennawd 'And they shall have flowers on the table'. Mae'r pennawd awgrymog hwnnw'n mynd i wraidd y ddadl hon. Ni ddylai prydau ysgol ymwneud â darparu'r isafswm lleiaf posibl. Ni ddylent byth fod yn destun stigma na chywilydd. Dylent fod yn borth i fywydau iach, yn awydd i ymgysylltu â'r ysgol a hapusrwydd na ddylai fod yn foethusrwydd i'r plant y gall eu teuluoedd ei fforddio. Yn union fel y mae cymhwysedd ar gyfer prydau am ddim yn agor gwasanaethau eraill fel help gyda gwisg ysgol, gwersi cerddoriaeth a theithiau ysgol, dylem hefyd weld prydau ysgol fel ffordd o helpu plant i gael profiadau ffurfiannol a gwerthfawr.

Gadeirydd, mae'r ddadl ynghylch prydau ysgol am ddim wedi dod yn un dotemig gan ei bod yn siarad am y gwerthoedd rydym ni fel cymdeithas yn eu rhoi ar fywydau ein plant. Nid dadl am economeg yn unig yw hi. Mae'n ymwneud â phwysigrwydd llawenydd, tosturi a rhoi gobaith i bobl ifanc. Ni all unrhyw anghyfiawnder byth fod y tu hwnt i'w unioni. Rhaid inni greu cymdeithas lle mae ein plant yn cael eu bwydo, lle bydd ganddynt flodau ar y bwrdd a lle bydd ganddynt reswm i ganfod llawenydd.