– Senedd Cymru am 10:30 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Y cynnig cyntaf, felly, yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadl at eitem 1. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig hynny yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, Llywydd.
Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid atal y Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw wrthwynebiad i hynny? Dwi ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.