Part of the debate – Senedd Cymru am 10:51 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Mae'r bleidlais sy'n cael ei chynnal yn San Steffan heddiw yn theatr wleidyddol llwyr. Nid oes angen cadarnhau'r cytuniad, gan y gall y Weithrediaeth wneud hynny heb gymeradwyaeth seneddol. Nid oes angen ei weithredu hyd yn oed, gan y gellir gwneud y rhan fwyaf o hynny drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r syniad fod hon rywsut yn bleidlais ar 'ddim cytundeb' yn gelwydd noeth y mae’r gwrthbleidiau yn San Steffan, am eu rhesymau strategol eu hunain, wedi penderfynu ei lyncu'n gyfan gwbl. Y gwir reswm dros y pantomeim seneddol heddiw yw er mwyn i Boris Johnson gael ei foment o olud a nodi’r mandad ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf, a'r union ffaith honno a ddylai fod ar flaen ein meddyliau ac yn cryfhau ein gwrthwynebiad. 'Mae'r rhyfel ar ben,' meddai Nigel Farage, ond mae brwydr Prydain newydd ddechrau. Fel y mae sêl bendith y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd yn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth, dyma’r Brexit caled Torïaidd a oedd ym mreuddwydion tywyllaf Jacob Rees-Mogg. Ni arhosodd asgell dde eithafol y Blaid Geidwadol am y cytundeb hwn yn hytrach na derbyn un Mrs May oherwydd pysgota na Gogledd Iwerddon; buont yn fwy na pharod i fradychu’r addewidion a wnaethant i'r ddwy gymuned hynny. Fe wnaethant aros am y cytundeb hwn oherwydd mai dyma graidd llygredig yr hyn y maent yn ei gynrychioli go iawn: Brexit fel troedle tuag at eu gweledigaeth o Brydain fel archfarchnad y byd lle mai'r unig beth sy’n cael ei wneud yw elw.
Yn y 'cytundeb tenau' hwn—i ddefnyddio ymadrodd y Prif Weinidog—mae'r ymrwymiadau ar safonau llafur a'r amgylchedd yn eithriadol o denau. Ceir ymrwymiad yn unig i beidio â gostwng amddiffyniadau a fyddai'n effeithio ar fasnach neu fuddsoddiad, ond, fel y dywedodd y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, mae'n hynod o anodd profi effaith reoleiddiol ar fasnach neu fuddsoddiad, felly mae'r cytundeb i bob pwrpas yn gadael amddiffyniadau i weithwyr ac i’r amgylchedd yn gwbl agored. Rydym ar fin gweld y DU yn cael ei throi'n labordy ar gyfer arbrofion diddiwedd mewn economeg asgell dde eithafol, a dyna pam y bydd pob plaid fawr ond dwy ar yr ynysoedd hyn yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw, ac mae hynny'n cynnwys Plaid Lafur yr Alban yn y cynnig gerbron ein chwaer Senedd yno. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Llafur Cymru yn datgan eu hannibyniaeth hefyd, drwy bleidleisio dros ein gwelliannau. Dywedodd y Prif Weinidog na ddylem fod yn cyfarwyddo ASau, ond yn absenoldeb cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gwelliant Plaid Cymru yw'r unig gyfle sydd gan y Senedd bellach i gyfleu ei barn ar y ddeddfwriaeth sydd gerbron Senedd y DU.
Os oedd unrhyw un yn meddwl am un funud fod Brexit yn ymwneud ag adfer sofraniaeth Senedd y DU, yna edrychwch ar y saga druenus hon yn ei chyfanrwydd: dywedwyd celwydd wrth y Frenhines y llynedd er mwyn cau Senedd y DU yn anghyfreithlon, a heddiw, bydd Senedd y DU—fel y nododd Prif Weinidog Cymru—yn trafod 1,246 tudalen o gytuniad a Bil a gyhoeddwyd dros nos mewn ychydig oriau, gan adael y farchnad sengl mewn un diwrnod, pan gymerodd 25 diwrnod o graffu seneddol i ymuno â hi 30 mlynedd yn ôl, a hyd yn oed bryd hynny, roedd ffilibystrwyr diguro fel Bill Cash yn cwyno nad oedd hynny’n ddigon.
Nid yw hyn yn ymwneud â democratiaeth, ac yn sicr nid yw'n ymwneud â'n democratiaeth ni yn y sefydliad hwn. Mae'r cytuniad ei hun yn cadarnhau ein lle fel Senedd israddol, ail ddosbarth sy’n gwbl agored i fympwyon San Steffan. Mae adran 3.11.5 yn y cytuniad yn nodi’n glir mai Senedd San Steffan yn unig a all ddeddfu i wneud yn siŵr fod cymorthdaliadau'n rhydd rhag eu tynnu'n ôl, gyda goblygiadau enfawr o ran arfer ein pwerau ein hunain dros bolisi cymdeithasol ac economaidd. Am y rheswm hwnnw'n unig, dylem wrthwynebu'r Bil perthynas yn y dyfodol heddiw.
Rwy’n sylweddoli y bydd yr Aelodau Llafur yn ei chael hi’n anodd dilyn llwybr gwahanol i’w harweinydd yn San Steffan, ond mae gennym Brif Weinidog y DU a newidiodd ei farn ar Brexit, yn gwbl sinigaidd, er mwyn dod yn Brif Weinidog y DU. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw arweinydd yr wrthblaid sy'n gwneud yr un peth. Pa rai o chwe phrawf Starmer y mae'r cytundeb hwn wedi'u hateb? A yw'n atal ras i'r gwaelod? Mae'n ei galluogi. A yw'n sicrhau diogelwch cenedlaethol? Mae'n ein gwahanu oddi wrth Europol. A yw'n sicrhau'r un buddion yn union â'r farchnad sengl a'r undeb tollau? Mae'n ein rhwygo allan o'r ddau ac yn lapio ein busnesau ym maes gweithgynhyrchu a bwyd, ein ffermwyr, a'n pysgotwyr hefyd, mewn tâp coch, gwyn a glas a fydd yn sicr o'u tagu o dipyn i beth.
A all economi Cymru addasu? Gall. Ni fydd gennym unrhyw ddewis, a bydd newidiadau eraill yn ystod y 10 mlynedd nesaf—deallusrwydd artiffisial, sero-net—yn cynrychioli bygythiadau a chyfleoedd hyd yn oed yn fwy. Ond gwers y pedair blynedd diwethaf yw na ddylem ganiatáu i fympwyon gwleidyddol yn San Steffan bennu ein tynged economaidd fel cenedl. Dim ond drwy hawlio ein hannibyniaeth ein hunain y gallwn wneud hynny—nid eu sofraniaeth ffug hwy, ond ein gwir ddemocratiaeth ein hunain, gan wrthod eu dyfodol hwy a dewis ein dyfodol ein hunain.