Part of the debate – Senedd Cymru am 11:07 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Gadewch i ni fod yn glir, mae'r fargen hon yn cynrychioli Brexit caled. Nid oes mandad ar ei gyfer yng Nghymru, ac nid yw er budd Cymru. Dim tariffs a dim quotas fel mesur llwyddiant—does dim tariffs na quotas gennym ni heddiw. Mae'r effaith ar Gymru yn enbyd. Bydd y rhwystrau di-dariff yn arwain at fwy o fiwrocratiaeth ac, yn ddi-os, byddant yn taro cystadleurwydd cwmnïau Cymru.
Mae risg benodol i Gymru yma o ran y diwydiant gwneud rhannau i geir ac awyrennau—mwy o waith papur a mwy o oedi yn golygu mwy o gostau. Mewn datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf yn unig, nododd Llywodraeth Cymru, a dwi'n dyfynnu, mai canlyniad y fargen hon heb os fyddai economi sy'n
'llai nag y byddai wedi bod o ganlyniad i’r cytundeb hwn, gan olygu y bydd llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforion, mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, llai o gydweithredu â'r UE ar ddiogelwch a chymunedau ac aelwydydd tlotach ym mhob rhan o Gymru.'
Ac eto, mae Plaid Lafur Keir Starmer bellach yn ymddangos yn hapus i gefnogi'r fargen yma—dim ymatal, ond yn barod i gefnogi bargen mae'n gwybod y bydd yn gwneud Cymru'n dlotach.
Mae Senedd Cymru wedi bod yn gyson ar bob cam o'r daith ynghylch ceisio cryfhau llaw Cymru ac amddiffyn buddiannau Cymru. Roeddem ni'n barod, fel plaid, i chwarae rhan adeiladol wrth lunio polisi Llywodraeth Cymru yn 'Securing Wales' Future'. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw ran ystyrlon wrth ddatblygu'r strategaeth drafod na'r trafodaethau eu hunain, ac mae ein blaenoriaethau ni fel Senedd ar ran pobl Cymru wedi'u hanwybyddu yn llwyr. O ganlyniad, rydym yn cael dewis gwbl ffug rhwng dim bargen a'r fargen sydd wedi'i tharo. Roedd bargeinion amgen i'w gwneud, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dewis anwybyddu'r opsiynau hynny o blaid y Brexit caled yma.
Rhaid gofyn: pam fyddai Senedd Cymru am fod yn anghyson ar y pwynt tyngedfennol yma ac ildio i'r Llywodraeth Geidwadol fwyaf adain dde ac eithafol yn y cyfnod diweddar? I beth ac er lles pwy? Nid pobl, swyddi a dyfodol Cymru, yn sicr.
Mae hon yn fargen ddi-hid, munud olaf gan y Torïaid, a gyhoeddwyd ar drothwy'r Nadolig, yn rhan o gynllun y Torïaid, fel y gellid rhuthro'r fargen drwy Senedd y Deyrnas Unedig gyda chyn lleied o graffu â phosib. Mae'n warthus mai dim ond un dydd sydd gan y Senedd i graffu ar ddogfen 1,200 tudalen, a dim cyfle o gwbl i'n pwyllgorau ni yma, yn Senedd Cymru, i graffu ar effaith hyn oll ar sectorau penodol yng Nghymru. Cyferbynnwch hyn efo'r craffu seneddol adeg cytundeb Maastricht, lle bu misoedd o graffu a dadlau. Mae'r sefyllfa yn warthus, ac, eto, Llafur yn hapus i fod ynghyd â'r broses yma a phleidleisio o'i phlaid.
Na—mae angen bargen newydd i Gymru, nid y fargen hon. Mae hyn oll yn dangos unwaith eto na fydd buddiannau Cymru byth yn cael eu diogelu yn San Steffan. Os nad yw Llywodraeth Cymru'n fodlon cofleidio annibyniaeth, maent yn cofleidio dyfodol i Gymru â'i thynged wedi'i phennu gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn y tymor hir. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl ar y pwynt tyngedfennol yma. Ond pam mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod sefyll yn y bwlch a dweud wrth y Ceidwadwyr, 'Nid yn ein henwau ni yr ydych chi'n gwneud hyn'? Yr hyn sydd ei angen ar Gymru ydy bargen newydd a fyddai'n rhoi rheolaeth lawn i Senedd Cymru dros yr economi, cyfiawnder a lles—nid dewis ffug, fel sydd o'n blaenau ni heddiw, ond dewis rhwng creu gwlad annibynnol lewyrchus, lle bydd buddiannau Cymru o hyd ar ben y rhestr, neu wlad sydd yn cael ei hanwybyddu o dan reolaeth Llywodraeth adain dde yn barhaol. Felly, mae dewis arall. Ym mis Mai, cawn bleidleisio dros Gymru annibynnol.