1. Dadl: Diwedd Cyfnod Pontio'r UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 11:23 am ar 30 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 11:23, 30 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn glywed. Mae ein DU wedi sicrhau cytundeb masnach gyda'r UE nad oedd neb yn credu ei fod yn bosibl. Moment wirioneddol hanesyddol i ni Brydeinwyr ar draws ein pedair gwlad. Y tro cyntaf erioed i'r UE gytuno ar gytundeb masnach di-dariff, di-gwota. Cytundeb sy'n galluogi Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan i sicrhau cytundebau masnach â marchnadoedd newydd fel grym rhyddfrydol sy'n masnachu'n rhydd er gwell yn y byd. Cytundeb sy'n adfer rheolaeth dros arian, ffiniau, cyfreithiau a masnach, tra'n rhoi mynediad i fusnesau Cymru at farchnad yr UE. Cytundeb a ddisgrifiwyd gan Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen fel un 'teg a chytbwys', ac fel y dywed gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn, cytundeb y dylem ei groesawu.

Yn hytrach, mae'r politbiwro piwis hwn o wepiau pwdlyd wedi ein galw'n ôl ar gost gyhoeddus fawr ac yn wyneb mwy fyth o ddifaterwch cyhoeddus i ddadl druenus o ragweladwy a chynnig ystrydebol a hawdd. Mwy o swnian a rhincian dannedd, bwrw bai a chodi bwganod. Derbyniwch y peth. Pleidleisiodd y bobl dros Brexit. Mae Brexit wedi'i wneud, ac am y tro cyntaf ers dyddiau cynnar datganoli, ni chawsoch chi eich ffordd eich hun.

Yn y byd go iawn, mae arbenigwyr yn dweud y bydd y cytundeb masnach ar ôl Brexit yn helpu'r economi i ymadfer yn 2021, ar ôl blwyddyn anodd wedi'i dominyddu gan argyfwng coronafeirws. Canmolodd sefydliad busnes mwyaf Prydain, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, ddewrder Boris Johnson ac arweinwyr gwleidyddol am gyflawniad nodedig. Fel y dywedodd eu cyfarwyddwr cyffredinol:

Mae gan y DU ddyfodol disglair y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a chyda chytundeb wedi'i sicrhau gallwn ddechrau ein pennod newydd ar dir mwy cadarn.

Yr wythnos diwethaf daeth yn amlwg fod economi'r DU wedi tyfu 16 y cant rhwng mis Gorffennaf a mis Medi—y cynnydd chwarterol mwyaf yn economi'r DU ers dechrau cadw cofnodion. Hyd yn oed cyn y cytundeb, roedd rhagolwg y Trysorlys y mis hwn ar gyfer economi'r DU, yn seiliedig ar gymhariaeth fisol o ragolygon annibynnol, yn rhagweld 5.4 y cant o dwf ar gyfartaledd yn 2021, gyda Goldman Sachs yn disgwyl i'r economi dyfu 7 y cant y flwyddyn nesaf, a J.P. Morgan a Pantheon Macroeconomics yn rhagweld 7.5 y cant. Mae hyd yn oed un o'r cwmnïau cyfrifyddu mwy pesimistaidd, nad oeddent ond wedi rhagweld twf economaidd o 3.3 y cant yn 2021 heb gytundeb wedi ei godi i 6.1 y cant ar ôl i'r cytundeb hael ei gyhoeddi. A bedwar diwrnod yn ôl, cyhoeddodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes mai Prydain yw pumed economi fwyaf y byd unwaith eto, a'i bod yn mynd i fynd ymhellach ar y blaen i Ffrainc yn y seithfed safle dros y degawd ar ôl Brexit.

Mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i gynnal safonau uchel o ran llafur, yr amgylchedd a hinsawdd. Mae'r cytundeb yn golygu y gall y DU reoleiddio nawr mewn ffordd sy'n gweddu i economi'r DU a busnesau'r DU, gan gynnwys busnesau Cymru. Mae'r cytundeb yn sicrhau y gall cydweithredu symlach ar orfodi'r gyfraith barhau, ac mae'n darparu ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol ar heriau diogelwch sy'n dod i'r amlwg, megis seiberddiogelwch a diogelwch iechyd. Mae'r cytundeb yn caniatáu inni gyflwyno system gymorthdaliadau fodern a all gefnogi busnesau'n well i dyfu a ffynnu. Mae'r cytundeb yn sicrhau mynediad parhaus at y farchnad ar draws cwmpas eang o'r sectorau gwasanaeth hyn, gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol a busnes. Mae'r cytundeb yn cynnwys amddiffyniadau ar gyfer marchnad fewnol y DU a lle Gogledd Iwerddon oddi mewn iddi. Mae'r cytundeb yn cynnwys trefniadau i roi sicrwydd i gwmnïau hedfan a chludwyr nwyddau ac mae'n rhoi'r gallu i bobl deithio i'r UE ac oddi yno'n hawdd ar gyfer gwaith a gwyliau. Bydd trigolion y DU yn gallu elwa ar ystod eang o hawliau nawdd cymdeithasol wrth deithio, gweithio a byw yn yr UE, gan gynnwys mynediad at bensiwn gwladol wedi'i uwchraddio a threfniadau gofal iechyd cyfatebol, a fydd yn eu galluogi i gael gofal iechyd angenrheidiol wrth deithio yn yr UE, o dan yr un math o drefniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Bydd dinasyddion yr UE sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghymru nawr yn parhau i fwynhau eu hawliau o dan gynllun preswylio'n sefydlog y DU i ddinasyddion yr UE. Bydd cynhyrchion Cymreig byd-enwog fel cig oen Cymru, bara lawr Cymru ac eirin Dinbych yn cael eu diogelu â dynodiadau daearyddol yn yr UE a'r DU. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am gael gytundeb, a bellach byddwn yn dod â'r cyfnod pontio i ben gyda chytundeb. Mae'r cytundeb yn darparu parhad a chyfleoedd i economi Cymru, ac yn bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal safonau uchel. Yn hytrach na pharhau'r chwerwder sy'n gysylltiedig â refferendwm 2016, mae'r cytundeb yn caniatáu i wleidyddiaeth symud ymlaen a chanolbwyntio ei hegni ar y dyfodol. Ond gyda newid mawr daw her a chyfle, ac fel y dywedodd Prif Weinidog y DU,

Rhyddid yw'r hyn a wnewch ohono.

Drosodd atoch chi, Lywodraeth Cymru.