Part of the debate – Senedd Cymru am 11:29 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Ni all Plaid Cymru gefnogi'r cytundeb hwn ac ni allwn gefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Nid ydym erioed wedi cefnogi unrhyw beth y gwyddom y bydd yn niweidio buddiannau Cymru, ac mae'r cytundeb hwn yn gwneud hynny.
Y cefndir i'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yw rhestr hir o addewidion a dorrwyd. Addawyd inni na fyddai Cymru'n colli ceiniog; nawr, gadewch imi eich atgoffa o'r hyn rydym wedi'i golli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn un dref yn unig, Llanelli, mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi darparu £1.5 miliwn ar gyfer theatr Ffwrnes, sydd wedi dod yn ganolfan gymunedol yn ogystal â chanolfan ddiwylliannol; £2.5 miliwn ar gyfer Plas Llanelly, gan gynnig dyfodol a rhagolygon economaidd cadarn i un o'n hadeiladau hanesyddol mwyaf anarferol; a £2.8 miliwn i ailddatblygu canol ein tref. Mae'n amlwg nawr na fydd cronfa ffyniant gyffredin y DU fel y'i gelwir yn cymryd lle y mathau hyn o fuddsoddiadau o gwbl, ac yn hytrach, caiff ei defnyddio fel math o offeryn i geisio gorfodi polisïau'r DU ar Lywodraeth Cymru—addewid wedi'i dorri.
Cawsom addewid o lai o fiwrocratiaeth, ond bydd y cytundeb hwn yn creu mynydd o fiwrocratiaeth i'r rhai sy'n allforio i'r UE. Bydd yn taro'r sector allforio bwyd yn arbennig o galed. Nid yw busnesau wedi gallu paratoi, gan nad oeddent yn gwybod beth roeddent yn paratoi ar ei gyfer. Pwysodd Ffederasiwn Bwyd a Diod Prydain ar Lywodraeth y DU i ofyn am gyfnod addasu o chwe mis i alluogi busnesau i addasu i'r rheolau newydd. Er bod yr UE yn fodlon, gwrthododd Llywodraeth y DU. Mae hyn yn creu bygythiad difrifol i fusnesau a swyddi mewn sector mor bwysig i Gymru. Mae perygl o darfu'n aruthrol ar gadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu, ac mae'n amheus fod gennym ddigon o filfeddygon i gynnal yr archwiliadau iechyd anifeiliaid y bydd eu hangen nawr i allforio i Ewrop. Llai o fiwrocratiaeth? Go brin—addewid wedi'i dorri.
Rhoddodd y Prif Weinidog ei ymrwymiad personol inni na fyddem yn cael ein tynnu allan o raglen Erasmus, ac mae hynny wedi digwydd. Mae Prif Weinidog Cymru'n iawn i ddisgrifio hyn fel gweithred o fandaliaeth ddiwylliannol. Gwyddom am y niwed y bydd hyn yn ei wneud i brifysgolion, ond ni ellir cyfrif y niwed mewn cyfleoedd a gollwyd i unigolion, ac nid myfyrwyr prifysgol yn unig. Rwyf am ddweud wrthych am ddyn ifanc rwy'n ei adnabod o'r enw John. Roedd yn ddyn ifanc a chanddo broblemau, a chefndir teuluol anodd, roedd ganddo broblemau cyffuriau ac alcohol, a phan oeddwn yn cefnogi elusen genedlaethol ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru, gallasom ei gynorthwyo i gymryd rhan mewn rhaglen wirfoddoli Erasmus yn Sbaen. Daeth yn ôl, yn ei eiriau ei hun, yn 'berson gwahanol'—yn fwy hyderus, yn fwy sicr, yn gallu gweld dyfodol iddo'i hun. Dywedodd fod cymryd rhan yn y rhaglen honno wedi achub ei fywyd. Ni fydd pobl ifanc fel John yn cael y cyfleoedd hyn mwyach, ac mae ymhell o fod yn glir y bydd y rhaglen a gaiff ei chreu yn Lloegr i gymryd ei lle yn cynnig unrhyw beth tebyg iddi. Dywedwyd wrthym y byddem yn aros o fewn y rhaglen Erasmus. Mae Llywodraeth y DU nid yn unig yn gwrthod talu am hynny, ond mae'n ei gwneud yn glir iawn y byddai'n atal Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru rhag prynu i mewn iddi pe baent yn dewis gwneud hynny—addewid wedi'i dorri.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cytundeb hwn yn gyfystyr â Brexit caled, ac wrth i'w ganlyniadau ddod yn glir, bydd pobl, yn enwedig pobl ifanc y mae eu dyfodol yn dibynnu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud dros y ddeuddydd hyn, yn gofyn pam y caniatawyd hyn, pam y gadawyd i hyn ddigwydd. Mae'n bwysig fod cenedlaethau'r dyfodol yn gwybod na chafodd y cytundeb gwael hwn ei basio'n ddiwrthwynebiad. Rydym yn ei wrthwynebu, ac mae'n darparu tystiolaeth glir na ellir ymddiried yn San Steffan i weithredu er budd pobl Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae arnom angen cytundeb newydd, mae arnom angen Llywodraeth newydd yma yng Nghymru a fydd yn sefyll yn ddigyfaddawd dros ein buddiannau ni ac na fydd yn gorfod edrych dros ei hysgwydd ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud ar ben arall yr M4. Rhaid inni gael annibyniaeth, yr hawl i negodi'n uniongyrchol â'n cymdogion a'n partneriaid i sicrhau'r dyfodol rydym am ei gael. Mae'n bryd inni fynnu rheolaeth ar ein dyfodol ein hunain.