Part of the debate – Senedd Cymru am 11:33 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Mae hwn yn gytundeb masnach na welwyd mo'i debyg. Mae'n ddigynsail i Lywodraeth ymrwymo i gytuniad masnach sy'n ychwanegu haenau a haenau o fiwrocratiaeth at y broses o werthu neu brynu nwyddau rydym am eu cyfnewid gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o gytundebau masnach yn cael gwared ar rwystrau i fasnachu, nid eu cynyddu.
Mae’r baich gwirfoddol hwn y mae'n rhaid i ni ei ddwyn yn deillio o obsesiwn â sofraniaeth, fel pe baem, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, rywsut yn weithredwyr annibynnol sy'n rheoli ein tynged ein hunain. O drwch blewyn, rydym wedi llwyddo i osgoi sefyllfa hyd yn oed yn fwy niweidiol gadael heb gytundeb, a heb os, mae’r lluniau o filoedd o yrwyr lorïau wedi'u pentyrru yng Nghaint a mannau eraill wedi helpu i ddangos beth fyddai gadael heb gytundeb yn ei olygu. Ond byddai hynny wedi ychwanegu tollau neu dariffau at unrhyw nwyddau y byddem yn eu mewnforio, yn enwedig bwyd. Yn sicr, byddai'r effeithiau ar y cymunedau rwy’n eu cynrychioli wedi bod yn gwbl ddinistriol.
Bydd elfen leiaf drwg y cytundeb tenau hwn yn dal i gynyddu prisiau unrhyw beth rydym yn ei fewnforio neu'n ei allforio. Mae'n anochel y bydd y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth lenwi ffurflenni a gwirio cydymffurfiaeth yn arwain at gost a fydd yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr yn y rhan fwyaf o achosion. Nid oedd angen i bethau fod fel hyn; nid oedd refferendwm 2016 yn sôn o gwbl am adael y farchnad sengl. Y cwestiwn oedd a ddylai'r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod o'r UE ai peidio. Dim sôn am adael y farchnad sengl a dim trafodaeth y tu hwnt i gatalog o gelwyddau ynglŷn â’r hyn y byddai hynny'n ei olygu. Yn sicr, byddai wedi bod yn gwbl bosibl gadael yr UE a pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl. Dewis gwleidyddol oedd hwn gan yr elfen dde eithafol sydd bellach yn dominyddu'r blaid Dorïaidd, gyda chymorth eu ffrindiau yn UKIP, y mae rhai ohonynt yn bresennol yn y Senedd hon.
Amser a ddengys ai’r darlun heulog a baentiwyd gan David Rowlands yw’r dyfodol sydd bellach yn wynebu Cymru. Bydd, fe fydd cyfleoedd i fusnesau entrepreneuraidd nodi bylchau mewn cadwyni cyflenwi, i ddarparu nwyddau yn lle nwyddau a fewnforir neu rannau o nwyddau, ac efallai y bydd y cyfle hwnnw’n gyfle go iawn i lawer o fentrau bach, a phob lwc iddynt. Ond mae'r rhwystrau nad ydynt yn dariffau yn gwneud model ‘mewn union bryd’ yr archfarchnadoedd i gludo bron bob cynnyrch ffres o rannau eraill o Ewrop yn fwyfwy anneniadol ac annibynadwy, felly mae'n ddigon posibl y bydd cyfleoedd newydd yn codi i arddwriaeth yng Nghymru, ac rwy’n croesawu hynny wrth gwrs. Ond perygl y rhwystrau hyn nad ydynt yn dariffau yw y bydd cwmnïau rhyngwladol yn colli amynedd gyda'r fiwrocratiaeth a'r oedi sy'n gysylltiedig â lleoli rhan o'u busnes yng Nghymru neu Brydain gyda chyflenwyr allweddol a marchnadoedd gwerthu ar dir mawr Ewrop, ac y byddant yn defnyddio'r cyfnod pontio i drosglwyddo eu gweithgarwch i rywle arall yn Ewrop. Byddai hynny'n arwain at ganlyniadau dinistriol i sawl rhan o Gymru, yn enwedig Glannau Dyfrdwy.
Ar bysgota, ydy, mae'n atal difodiant diwydiant pysgota Cymru, a fyddai wedi bod yn ganlyniad i adael heb gytundeb, ond mae Paul Davies yn twyllo’i hun os yw'n rhagweld dyfodol aur i ddiwydiant pysgota Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y pum sefydliad gwerth miliynau lawer sy'n dominyddu diwydiant pysgota Prydain yn falch iawn o gael cyfran fwy a mwy o ddalfa'r DU, sy’n anghyraeddadwy i fusnesau pysgota Cymru gan nad yw eu cychod bach ar y glannau yn gallu cyrraedd y dyfroedd dyfnion. Oni bai ein bod yn rhoi camau rheoleiddiol ar waith yn gyflym, bydd y cyfoeth hwn yn cael ei lyncu gan y lluosfiliwnyddion sydd eisoes yn dominyddu diwydiant pysgota Prydain, ac mae hynny'n arwydd o’r hyn a allai ddigwydd i lawer o rannau eraill o'n diwydiannau hefyd.
Gan droi at safbwyntiau fy etholwyr, mae'r penderfyniad i atal ein pobl ifanc rhag parhau i gael cyfle i astudio yn Ewrop—mor agos, ond mor wahanol yn ddiwylliannol—wedi'i gondemnio gan lawer. Mae'n dangos meddylfryd Lloegr fach Llywodraeth Johnson ar ei fwyaf annymunol. Mae'n rhaid inni gofio mai'r rheswm pam y sefydlwyd y prosiect Ewropeaidd o gwbl oedd er mwyn atal rhyfeloedd rhwng ein gwledydd yn y dyfodol, ac roedd y rhaglen Erasmus+ ryfeddol hon—a luniwyd gan Gymro balch, Hywel Ceri Jones—o ddifrif yn helpu pobl ifanc i barchu a dathlu gwahaniaethau a dysgu o gryfderau ein gilydd. Nawr, yn ei lle, mae Llywodraeth y DU am—