Part of the debate – Senedd Cymru am 11:17 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Felly, 50 mlynedd yn ôl, dywedodd Edward Heath na fyddem yn ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oni bai ein bod yn cael cydsyniad llawn y Senedd a'r bobl. Ni chafwyd cydsyniad pobl Prydain; ni ofynnwyd amdano. Ni chafodd gydsyniad llawn ein Senedd oherwydd mai mwyafrif o ddim ond wyth a gafodd y Bil a aeth â ni i mewn, mewn pleidlais wedi'i chwipio drwyddi draw 50 mlynedd yn ôl. Pleidlais y bobl yw refferendwm 2016. Rhaid parchu'r bleidlais honno a byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fel gwladwriaeth sofran ar 1 Ionawr.