Part of the debate – Senedd Cymru am 11:18 am ar 30 Rhagfyr 2020.
Mae bob amser yn dda clywed beth yw barn sgweieriaid Wiltshire, ond i'r rhan fwyaf ohonom a etholwyd i eistedd yn y lle hwn, rydym yn arswydo at yr hyn a gyflwynir i ni y bore yma a'r ffordd y caiff busnes ei gyflawni. Cytundeb a gwblhawyd ar noswyl Nadolig, Bil a gyhoeddwyd ddoe, ac mae pobl yn sôn am ddemocratiaeth ac atebolrwydd seneddol. Ni chafwyd cyfle i graffu'n drylwyr ar y ddeddfwriaeth hon. Nid wyf yn deall sut y gallai neb bleidleisio dros y Bil sydd gerbron Senedd y DU y bore yma. Mae'n gytundeb nad yw'n cael ei gadarnhau gan y ddeddfwriaeth hon, a phan glywaf Aelodau Ceidwadol yma'n dweud bod gennym ddewis arall heddiw, dewis i'w wneud rhwng y cytundeb hwn neu fod heb gytundeb, mae hynny'n dweud dau beth wrthyf: nid ydynt yn deall y ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod yn Llundain y bore yma neu nid ydynt wedi darllen y cytundeb y maent yn ei drafod.
Caiff y cytundeb ei gadarnhau, nid gan y ddeddfwriaeth hon, ond gan Lywodraeth y DU yn defnyddio eu pwerau uchelfreiniol. Roedd Adam Price yn gwbl glir a chywir ynglŷn â hynny. Bydd y cytundeb, a fydd yn effeithio'n ddwfn ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau ac yn ennill ein bywoliaeth, yn dod yn gyfraith heb unrhyw graffu seneddol o gwbl, ac mae'r Torïaid ac eraill yn pregethu wrthym am ddemocratiaeth. Ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae'n ymddangos i mi mai'r cytuniad hwn a'r Bil sy'n ei weithredu yw'r ildiad mwyaf o sofraniaeth y gallaf ei gofio, ond cânt eu gweithredu hefyd gan gipio pŵer sy'n gwthio pob un o'n Seneddau i'r cyrion. Rydym ni, yma, yn mynegi pryder, a hynny'n briodol, am ymosodiadau'r Torïaid ar y Senedd hon ac ar ddemocratiaeth Cymru, ond mae'n ymosodiad ar Senedd y DU yn ogystal, sydd hefyd yn cael ei thanseilio gan gamdriniaeth o Dŷ'r Arglwyddi nawr. Ac mae hwn yn gytundeb sy'n cael y gwaethaf o bob byd. Mae'n tanseilio ein statws rhyngwladol a'n cystadleurwydd economaidd, ac mae'n gwneud hynny heb sicrhau unrhyw sofraniaeth go iawn. Bydd busnesau'n gweld eu gallu i gyflawni busnes gyda'n cymdogion a'n marchnadoedd agosaf a mwyaf yn lleihau ac yn cael eu gwneud yn fwy biwrocrataidd. Caiff gwasanaethau ariannol eu heithrio wrth gwrs, oherwydd ceir rhannau o'r economi lle mae'r Torïaid yn dymuno gweld llai o reoleiddio a goruchwyliaeth, y rhannau sy'n golygu y gallant wneud arian heb y rheoleiddwyr ar eu sodlau.
Gallwn wneud a newid cyfreithiau, gallwn, ac mae'r cytundeb yn darparu cyfleoedd i wneud y newidiadau y mae Neil Hamilton a'r asgell dde am eu gweld. Ond gwyddom hefyd fod y cytundebau ar hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau amgylcheddol, yn ogystal â'r ddarpariaeth ar gyfer tegwch yn y farchnad, yn golygu bod y gost o wneud hynny'n rhy uchel yn ymarferol. A gadewch i mi ddweud hyn wrth y Torïaid: mae sofraniaeth yn bodoli pan fyddwch yn yr ystafell yn gwneud penderfyniadau, yn pleidleisio dros y cyfreithiau hynny ac yn llunio'r dyfodol. Nid yw sofraniaeth yn bodoli pan fyddwch ar y tu allan, heb lais na phleidlais, a dyma lle mae'r cytundeb hwn yn ein gadael. Mewn gwirionedd, mae'r UE wedi rhoi tri thro am un i dîm negodi'r DU. Yn lle llinellau coch, cafwyd biwrocratiaeth. Wedi'i bychanu, mae'r DU wedi cilio ar bron bob mater o bwys hirdymor neu strategol.
A gadewch inni gofio eu bod hefyd yn torri'r DU. Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio'r dyddiau pan gerddodd Boris Johnson allan o Lywodraeth y DU dros fater y ffin ym môr Iwerddon. Wel, mae'r ffin honno'n bodoli nawr. Mae nid yn unig yn bodoli, ond mae'n ffin ddyfnach nag unrhyw beth a ragwelwyd gan Theresa May. Bydd yna archwiliadau arian a chyfalaf rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon. Ni allaf feddwl am wlad ddemocrataidd orllewinol arall lle mae hynny'n digwydd. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a fydd Edwards o Gonwy yn gallu allforio ei selsig ardderchog i Ogledd Iwerddon yn y dyfodol. Heddiw mae'n edrych yn debyg fod Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau llywodraethiant da yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'r DU wedi troi ei chefn. Ac mae hyn yn bwysig i ni, oherwydd os ydym am wneud i'r system fframwaith cyffredin weithio—ac rydym wedi bod yn siarad am hyn ers tair blynedd—bydd gennym ddewis: naill ai cynnwys Gogledd Iwerddon a derbyn rheoliadau'r UE, a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop a dweud y gwir, ar draws trawstoriad eang o weithgarwch economaidd, neu beidio â chynnwys Gogledd Iwerddon a sefydlu ffin hyd yn oed yn ddyfnach. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy i dorri'r Deyrnas Unedig na Phlaid Cymru mewn 80 mlynedd.
Lywydd, mae gennym sofraniaeth sydd i mi yn edrych fel punt yr Alban. Rydym yn gallu rhoi ein symbolau ar y sofraniaeth hon; mae gennym allu i chwifio ein baneri. Ond fel y gŵyr yr Albanwyr yn rhy dda, ni waeth pwy sydd â'i wyneb ar y bunt, gwneir y penderfyniadau yn Llundain. A'r hyn sydd gennym yma yw sofraniaeth lle gall cefnogwyr yr ymerodraeth Brydeinig a chenedlaetholwyr Lloegr chwifio eu baneri, ond yr hyn y maent wedi'i wneud mewn gwirionedd yw dangos eu diymadferthedd a'u gwendid. Gwneir penderfyniadau pan nad yw Prydain yn yr ystafell mwyach, ac nid dyna'r penderfyniadau a fydd o fantais i'r un ohonom.