Part of the debate – Senedd Cymru am 12:25 pm ar 30 Rhagfyr 2020.
Nid yw ein staff gofal critigol wedi cael seibiant a'r gwir ofnadwy yw nad yw llif cleifion allan o ofal critigol i gyd yn newyddion da. Mae rhai pobl yn gwella. Fodd bynnag, mae cyfraddau marwolaethau yn cyfrannu'n fawr at ryddhau gwelyau. Mae'r cyfraddau marwolaethau presennol ar gyfer cleifion COVID mewn gofal critigol, y ffigurau gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil ac Archwilio Gofal Dwys, yn dangos bod bron i 40 y cant o bobl a dderbyniwyd i ofal dwys yng Nghymru ers 1 Medi wedi marw. Nid methiant gofal critigol yw hynny—dyma realiti nifer yr heintiau rydym wedi'u gweld ac rydym yn parhau i'w gweld.
Fel yr esboniwyd pan gyhoeddwyd y newyddion am amrywiolyn coronafeirws y DU, nid yw'n anghyffredin i feirysau newid. Mae arsylwadau genomig rheolaidd wedi nodi amrywiolyn newydd yn Ne Affrica yn ddiweddar hefyd. Ar 19 Rhagfyr, canfuwyd yr amrywiolyn newydd hwnnw mewn tua 200 o samplau yn Ne Affrica. Nid yw'r amrywiolyn newydd hwn yr un fath ag amrywiolyn y DU, ond mae ganddo rai elfennau tebyg. Mae ein gwyddonwyr yn astudio'r effeithiau posibl ar drosglwyddadwyedd, difrifoldeb salwch ac a oes goblygiadau o ran effeithiolrwydd brechlynnau.
Mae'n bwysig pwysleisio y bydd yr un mesurau atal yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn newydd y DU ac amrywiolyn De Affrica—cyfyngu ar gymysgu, cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, defnyddio gorchuddion wyneb ac awyru. Bydd cwarantîn ar gyfer y rhai sydd wedi dod i gysylltiad ag amrywiolyn De Affrica hefyd yn hanfodol er mwyn atal yr amrywiolyn hwn rhag sefydlu ar draws Cymru a'r DU.
Rhagwelir y bydd amcangyfrif diweddaraf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau o'r rhif atgynhyrchu ar gyfer Cymru rhwng 1.0 ac 1.3, gyda chynnydd o tua 1 y cant i 4 y cant y dydd. Amcangyfrifir amser dyblu o 19.1 diwrnod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Rhagfyr a 18 Rhagfyr. Mae data o arolwg diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol o heintiadau yng Nghymru yn dangos bod gan tua un person ym mhob 60 COVID. Y ffigur hwn yw'r uchaf hyd yma yn arolwg y SYG.
Mae ein data Iechyd Cyhoeddus Cymru diweddaraf yn ôl awdurdod lleol yn dangos bod cyfradd Cymru gyfan bellach yn 433 ym mhob 100,000. Fel y nodais yn gynharach, mae cyfraddau o fewn hynny'n codi ar draws y gogledd ac yn gostwng mewn mannau eraill, ond yn dal i fod ar gyfradd uchel iawn, gyda chanran uchel iawn o brofion yn bositif.
Ond mae gobaith. Ers dechrau mis Rhagfyr, rydym wedi bod yn darparu'r brechlyn Pfizer-BioNTech i staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal a staff a phobl dros 80 oed. Yn ystod y pythefnos cyntaf, cafodd dros 22,000 o bobl eu brechu yng Nghymru, gyda gwybodaeth reoli yn dangos bod y nifer hwn ymhell dros 30,000 erbyn hyn. Bydd y ffigurau swyddogol nesaf yn cael eu rhyddhau yfory. Nid oes gennyf reswm dros gredu y bydd Cymru'n sylweddol y tu ôl i unrhyw wlad arall yn y DU o ran darparu'r brechlyn pan gyhoeddir y ffigurau swyddogol hynny yfory. Rwy'n disgwyl ein bod gystal â phob gwlad arall yn y DU.
Heddiw, mae brechlyn Rhydychen-AstraZeneca wedi cael sêl bendith yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a bydd y gwaith o'i gyflwyno ledled Cymru a gweddill y DU yn dechrau yr wythnos nesaf, o ddydd Llun ymlaen. Bydd yn cyrraedd mewn sypiau bach i ddechrau, gyda mwy o'n dyraniad sy'n seiliedig ar nifer y boblogaeth yn cyrraedd bob wythnos.
Yn wahanol i'r brechlyn Pfizer-BioNTech, mae brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn cael ei storio ar dymheredd arferol yr oergell. Golyga hyn y bydd llai o broblemau storio a chludo ynghlwm wrtho, gan ei gwneud yn llawer haws i'w ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol, megis cartrefi gofal a gofal sylfaenol. Unwaith eto, bydd angen dau ddos, er y gellir symud y bwlch i 12 wythnos rhwng y dosau erbyn hyn.
Mae hyn yn newyddion gwych i'n hymateb i'r pandemig ac mae ein cynlluniau GIG ar waith i sicrhau bod gan Gymru gapasiti, systemau a staff i gynyddu gweithgarwch brechu. Mae'n bwysig bod yn realistig. Er bod cynlluniau ar waith, efallai na fydd effeithiau'r brechlynnau i'w gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer.
Mae'r cyngor ar gadw Cymru'n ddiogel yn aros yr un fath i bawb, ac mae'n bwysig fod pawb yn sylweddoli bod gan bob un ohonynt, ohonom, ran i'w chwarae yn dylanwadu ar lefel y feirws yn ein cymunedau: cyn lleied o gysylltiad â phosibl â phobl eraill, cadw pellter o 2m oddi wrth eraill, golchi ein dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen, ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi'u cyffwrdd, lle bynnag y bo modd, ac wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, awyru da. Ni all Llywodraeth Cymru a'n GIG wneud hyn ar eu pennau eu hunain. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd yn cadw Cymru'n ddiogel. Fodd bynnag, gallwn wneud hynny bellach gyda mwy o deimlad o optimistiaeth ar gyfer 2021. Mae golau ar ben draw'r twnnel hir a thywyll hwn. Diolch, Lywydd.